Gwella ein cynnwys ar LLYW.CYMRU: rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf

Read this blog in English

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi ar-lein fel rhan o’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i LLYW.CYMRU. I gefnogi’r gwelliannau hyn, rydym wedi sefydlu cyfres o sesiynau cyd-drafod cynnwys yn ddiweddar, sy’n dod â phawb sy’n ymwneud â chynllunio cynnwys ar gyfer y we o bob rhan o Lywodraeth Cymru ynghyd.

Beth yw Sesiwn Gyd-drafod cynnwys?

Mae’r sesiwn gyd-drafod fel arfer yn cynnwys grŵp bychan o gynllunwyr cynnwys sy’n cyfarfod i drafod eu gwaith a chael adborth arno.

Mae’r sesiynau hyn yn ffordd wych i gynllunwyr cynnwys ac eraill sydd ynghlwm â chynllunio cynnwys ar gyfer y we ddod ynghyd i gael cyngor, rhannu eu gwaith neu i gael sicrwydd bod yr hyn y maent yn ei wneud yn gywir. Maent hefyd yn ffordd ddefnyddiol o brofi syniadau, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r rhai hynny sydd ynghlwm â’r broses o ddatblygu cynnwys.

Pam ydyn ni’n eu defnyddio?

Rydym wedi blogio o’r blaen am bwysigrwydd datblygu LLYW.CYMRU i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr. Mae’r sesiynau cyd-drafod yn ein helpu i wneud hyn drwy ddod â’r bobl sy’n ceisio rhoi anghenion defnyddwyr yn gyntaf ynghyd – ein cynllunwyr cynnwys!

Mae cynllunwyr cynnwys yn rhoi eu hunain yn esgidiau’r defnyddwyr yn gyson. Gan dynnu ar amrediad o ddata, tystiolaeth ac ymchwil, dyma’r bobl sy’n dylanwadu ar arbenigwyr maes, cynllunwyr a datblygwyr i sicrhau bod beth bynnag yr ydym ni’n ei gynhyrchu yn diwallu anghenion ein defnyddwyr.

Fel gydag arbenigwyr eraill yn y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT), rydym yn cydnabod y swyddogaeth bwysig sydd gan gynllunwyr cynnwys yn Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn meithrin a datblygu eu sgiliau. Mae cynnal sesiynau cyd-drafod rheolaidd yn ein galluogi i wneud hyn trwy barhau i wella hyder, sgiliau ac arbenigedd yn ein cymuned cynllunio cynnwys.

Mae sesiynau cyd-drafod hefyd yn rhoi cyfle i ni fod yn fwy agored yn y modd yr ydym yn cynllunio ein cynnwys ar gyfer y we. Trwy ddod â phobl ynghyd a rhannu ein gwaith yn agored, maent yn sicrhau ein bod yn cydweithio fwy gydag eraill o bob rhan o’r sefydliad.

Popeth yn iawn hyd yma

Hyd yma, rydym wedi cynnal cwpl o sesiynau cyd-drafod, a hynny’n ymwneud â chynnwys ar y we yn y maes iechyd a thai. Fel rhywun sy’n newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol roedd yn braf gweld cynifer o bobl yn mynychu’r sesiynau cyntaf hyn. Roedd amryw o bobl yno sydd ynghlwm ag ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys ar gyfer y we o bob rhan o’r sefydliad. Yn ogystal â chynllunwyr cynnwys, roedd hefyd reolwyr gwe a phobl sy’n ymwneud â marchnata a chyfathrebu digidol.

Rydym yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y sesiynau cyntaf hyn ac rydym eisoes wedi cynllunio nifer o sesiynau i’r dyfodol. Cyn hir, gobeithio y gwelwch fanteision y rhain wrth i ni barhau i ddatblygu LLYW.CYMRU.

Post gan Suzanne Donovan, Cynllunydd cynnwys, Tîm Corfforaethol Cyfathrebu Digidol, Llywodraeth Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s