Ychydig dros 2 flynedd yn ôl, cyhoeddwyd ein set gyntaf o ymrwymiadau llywodraeth agored. Gan fod y gwaith yn mynd rhagddo ar y set nesaf, roedden ni’n meddwl y dylen ni roi gwybod ichi beth rydyn ni wedi ei gyflawni.
Wrth gymryd cam yn ôl, hwyrach ei bod yn werth egluro beth yn union mae ymrwymiadau llywodraeth agored yn ei olygu a pham bod angen yr ymrwymiadau hyn. Yn syml, llywodraeth agored yw bod yn dryloyw yn ein ffordd o weithio a gwneud penderfyniadau. Mae’n cydnabod pwysigrwydd trafod â’r rheini y mae ein penderfyniadau’n effeithio arnynt a gweithio gyda nhw, a sicrhau hefyd bod gwybodaeth ar gael am ddim ac yn hwylus er mwyn i bobl Cymru allu ein dal i gyfrif.
Fel y soniwyd yn ein blog blaenorol, ochr yn ochr â gweddill y DU, rydyn ni wedi ymuno â’r Bartneriaeth Llywodraeth Agored, sef menter fyd-eang sydd â’r nod o hyrwyddo’r agenda llywodraeth agored. Gan hynny, rhaid i’r DU ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol bob 2 flynedd yn nodi ein hymrwymiadau llywodraeth agored. Mae hynny’n creu’r cyfle inni ddatgan yn gyhoeddus sut rydyn ni’n gweithio i fod yn fwy agored. Fel rhan o’r broses, mae hefyd yn ofynnol inni adrodd yn rheolaidd ar hynt ein hymdrechion, a chynnal asesiadau annibynnol o sut yr ydyn ni’n llwyddo. Felly, does dim modd inni guddio!
Y newyddion da ydy erbyn inni gyrraedd canol ffordd yn y broses hon, roedden ni eisoes wedi cyflawni llawer mewn perthynas â nifer o’n 9 ymrwymiad. Ac yn well fyth, roedd yr asesiad annibynnol canol tymor wedi nodi bod dim ond 2 o holl ymrwymiadau’r DU wedi cael eu categoreiddio fel rhai ‘Star’[1], a’r ddau hynny’n eiddo i ni.
Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma…
Rydyn ni’n falch o’r ffaith ein bod wedi cyflawni pob un o’n hymrwymiadau heblaw am 1, a hynny mewn cyfnod o ddwy flynedd. Fodd bynnag, dim ond dechrau’r daith ydy hwn, ac mae angen inni barhau i adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni hyd yma. Rydyn ni’n cydnabod yn benodol bwysigrwydd gweithio’n agosach â’r gymdeithas sifil yng Nghymru. Dyma rywbeth rydyn ni wedi bod yn ceisio ei wneud drwy weithio gyda Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru i ddatblygu’r set nesaf o ymrwymiadau, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni.
Os hoffech chi wybod rhagor am sut yr ydyn ni wedi cyflawni ein hymrwymiadau, cewch fynd at adroddiad hunanasesiad diwedd tymor Llywodraeth Cymru
[1]Ymrwymiadau ‘Star’ ydy’r ymrwymiadau hynny sydd wedi eu nodi fel rhai penodol, perthnasol, gyda’r potensial i drawsnewid, ac sydd wedi eu gweithredu yn llawn neu i raddau helaeth.