Diweddariad y Prif Swyddog Digidol: Gweddnewid ein gwasanaeth – yr hanes hyd yma

Read this page in English

Ers cyflwyno ein blog digidol a data, rydym wedi cynnwys nifer o brosiectau gwahanol, ond gyda chymaint yn digwydd, dyma benderfynu rhannu rhai o’n straeon llwyddiant a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ambell brosiect newydd cyffrous.

Ar waith

Bu’r llynedd yn gyfnod prysur dros ben, ac fel sefydliad, rydym wedi cyflawni cymaint trwy ddefnyddio dulliau digidol i gyflwyno gwasanaethau newydd a thrawsnewid rhai cyfredol. Dyma ambell enghraifft:

  • Pen-blwydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru

Awdurdod Cyllid Cymru yw’r sefydliad gwasanaeth sifil ‘cwmwl’ cyntaf i’w ffurfio yng Nghymru, ac fe ddathlodd ei ben-blwydd cyntaf ym mis Hydref 2018. Er hynny, mae eisoes yn llwyddo i ddenu clod a bri gyda gwobr TG y DU am ei system dreth ddigidol a lansiwyd ym mis Ebrill. Fe wnaeth Sean Melody o’r Awdurdod Cyllid ysgrifennu blog gwadd yn esbonio’r gwaith y tu ôl i’r prosiect trawsnewid digidol

  •  Gwasanaeth adnabod defnyddwyr Hwb yn symud yn fewn ôl

Os nad ydych chi wedi clywed am Hwb o’r blaen, gwefan sy’n rhoi llwyfan i bob math o adnoddau a phecynnau ar-lein dwyieithog i gefnogi dysgu ac addysg. Dyma un o’n rhaglenni digidol mwyaf ni.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae criw Hwb wedi gweithio’n galed i ddod â rhan o’r gwasanaeth i ddwylo mewnol. Os hoffech ddysgu mwy am eu gwaith, cymrwch gip ar eu blogbost diweddaraf .

  • Lansio Porth Cynllunio Cymru

Ym mis Mai 2018, aethom ati i lansio porth cynllunio digidol o’r enw ‘Ceisiadau Cynllunio Cymru’. Mae’r gwasanaeth unswydd i Gymru hwn, sy’n gwbl ddwyieithog, yn helpu pobl i gyflwyno ceisiadau cynllunio’n electronig gyda ffurflenni clyfar.

Wedi’i gyflwyno fel gwasanaeth olynol i’r un Lloegr a Chymru gynt, bachwyd ar y cyfle i weithredu gwasanaeth newydd er mwyn adolygu a symleiddio, lle bo modd, cynnwys ein ffurflenni er mwyn helpu defnyddwyr.

  • Cynllun Technoleg Cymru

Efallai eich bod wedi gweld y Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n amlinellu ein nod o gynyddu’r defnydd o dechnoleg cyfrwng Cymraeg. Y gobaith yw y bydd gweithredu’r camau yn y cynllun yn galluogi defnyddio’r iaith defnyddio mewn cymaint o sefyllfaoedd ag y bo modd, ac o ganlyniad cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fwy cyffredinol. I ddarganfod mwy am y cynllun gweithredu cymherwch olwg ar y fideo byr hwn:

 

 

Beth sy’n newydd?
Rwy’n falch ein bod ni’n adeiladu ar ein llwyddiannau ac yn dysgu o brofiad – y da a’r drwg! Credaf fod hyn yn hollbwysig, yn enwedig wrth inni ganolbwyntio ar y prosiectau canlynol:

  • Lle nesaf?

Un o’n blogiau cyntaf erioed, ac un o’r rhai mwyaf poblogaidd gennych chi, oedd hwnnw am ‘Lle’ ein platfform geo-ofodol. Ers cyhoeddi’r blog, mae llond gwlad o bethau wedi digwydd, yn enwedig wrth sylweddoli bod modd defnyddio porth ‘Lle’ i helpu i wneud penderfyniadau polisi a chyflawni effeithiol ledled Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach eleni, defnyddiwyd ‘Lle’ gan Dasglu’r Cymoedd er mwyn helpu i benderfynu ar leoliadau posib ar gyfer yr hybiau strategol. Diolch i’w gyfraniad llwyddiannus, cafodd ‘Lle’ ei enwi gan y tasglu fel un o dri chynllun digidol peilot i’w cyflwyno.

Gyda diddordeb cynyddol, a rhagor o sylw i ddata geo-ofodol, rydym yn datblygu ‘Lle’ i fod yn blatfform geo-ofodol awdurdodol ar gyfer data’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y dull hwn yn helpu pobl i gael gafael ar ddata’n hawdd ac yn dileu’r angen i gyrff cyhoeddus eraill brynu neu ddatblygu eu platfformau geo-ofodol eu hunain.

Bydd rhagor o fanylion ar gael wrth i’r gwaith fynd rhagddo, ond y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm gydag unrhyw farn neu adborth: data@wales.gsi.gov.uk

  •  Lansio’r Cynllun Prentisiaeth Ddigidol

Y llynedd, soniwyd am griw o brentisiaid digidol sydd wedi ymuno â Llywodraeth Cymru.  Yn sgil llwyddiant hynny, rydym wedi datblygu cynllun llwybr prentisiaeth mwy penodol ar ddigidol, data a thechnoleg.

Drwy’r cynllun hwn, bydd y prentisiaid yn cael blas ar y rolau gwahanol sydd ar gael yn y proffesiwn wrth feithrin eu sgiliau digidol, data a thechnoleg. Y nod yw helpu’r prentisiaid i fod yn aelodau o’r proffesiwn digidol, data a thechnoleg a gosod llwybr gyrfa clir ar eu cyfer os ydyn nhw’n dymuno.

Rydym yn edrych ymlaen at dreialu’r cynllun hwn ac yn disgwyl croesawu ein criw cyntaf o brentisiaid erbyn mis Ebrill 2019. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun, dilynwch @CDOCymru am fwy o fanylion ar sut i ymgeisio.

  • Porth newydd i allforwyr

Efallai yr hoffech wybod ein bod ni newydd gyhoeddi rhaghysbysiad i ddarpar gyflenwyr gaffael porth ar-lein newydd i allforwyr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Gwerthwch i Gymru.

 

Newyddion eraill

  •  Panel newydd ar drawsnewid digidol

Mae Julie James AC, Arweinydd y Tŷ, a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am faterion digidol, wedi sefydlu panel newydd i gynghori a herio’r ffyrdd o wella gwasanaethau cyhoeddus trwy wneud defnydd gwell o dechnolegau digidol.

Mae’r panel, sy’n cael ei gadeirio gan Lee Waters AC, yn gofyn am adborth gan sector cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd, i weld y ffordd orau o drawsnewid pethau trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol yn well. Mae’n gobeithio cwblhau rhai casgliadau cychwynnol fis nesaf. Mae rhagor o fanylion yn ein datganiad i’r wasg diweddar.

  • TGCh yn dod gartre’

Ym mis Ionawr 2019, ni’n hunain fydd yn gyfrifol am reoli ein seilwaith a’n gwasanaethau TGCh.

Pam benderfynon ni wneud hyn? Mae datblygiad gwasanaethau Cwmwl, a’r ffaith fod ein contract cyfredol wedi dod i ben, yn cynnig cyfle inni weddnewid ein ffordd o reoli a gweithredu ein gwasanaethau TGCh mewnol. Hefyd, diolch i gyfleoedd Cwmwl, gallwn greu gwasanaethau digidol mwy hyblyg, sy’n ymateb i anghenion defnyddwyr a gofynion a blaenoriaethau newydd sy’n dod i’n rhan.

Felly, mae misoedd cyffrous ond prysur iawn o’n blaenau. Fe gewch chi’r manylion diweddaraf am y prosiect hwn ac eraill drwy’r blog hwn, ond yn y cyfamser, mae croeso i chi gadw mewn cysylltiad trwy anfon nodyn isod neu mewn e-bost gan ddefnyddio blogdigidoladata@llyw.cymru

Caren Fullerton – Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru