Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Dim ond blog byr i dynnu sylw at rai cyfleoedd swyddi yn ein hadran gwasanaethau IT ar hyn o bryd.
Dadansoddwr Seiber
Rydym yn recriwtio dadansoddwyr Seiberddiogelwch ar draws gwahanol raddau i’n helpu i wella ein capasiti yn y maes hwn. Gwyddom fod y bygythiad i lywodraeth o ymosodiadau seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ac nad yw’n diflannu. Dyna pam rydym am gynyddu ein gwaith monitro a’n gallu rhagweithiol i ymateb yn y maes hwn, drwy adeiladu i fyny ein tîm o seiber-arbenigwyr. Mae’n gyfle gwych i weithio yng nghanol Lywodraeth Cymru a helpu i sicrhau bod gennym systemau mwy diogel a gwydn i gefnogi’r gwasanaethau a ddarparwn i ddinasyddion.
Prif Swyddog Gweithredol Uwch Ddadansoddwr Seiberddiogelwch
Swyddog Gweithredol Uwch: Dadansoddwr Seiberddiogelwch
Swyddog Gweithredol Dadansoddwr Seiberddiogelwch Cyswllt
Dyddiad cau: 28 Mehefin
Rheolwr Meddalwedd
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer rheolwr gwasanaeth meddalwedd newydd. Mae’r swydd hon yn allweddol i reoli ein hasedau meddalwedd ar draws Llywodraeth Cymru, deall defnydd, rheoli trwyddedau a gweithio gyda’n cyflenwyr.
Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Asedau Gwasanaeth a Rheoli Ffurfweddiadau
Dyddiad cau: 22 Mehefin