Yn fy mlog diwethaf, ym mis Tachwedd, gwnes i sôn yn fras am ap cyntaf MapDataCymru, Teithio Llesol. Yn y post hwn, dwi am roi rhagor o fanylion am hyn a’r elfen beta, ac esbonio beth sy’n digwydd nesaf.
Y daith hyd yma
I unrhyw un sy’n ddiarth â MapDataCymru, dyma beth rydym am ei wneud:
Yn fras, ein gweledigaeth yw creu un ffynhonnell ddata geo-ofodol a phlatfform prosesu ar gyfer holl ddata geo-ofodol sector cyhoeddus Cymru. Y nod yw creu platfform data cyffredin i gyrff cyhoeddus allu cyhoeddi eu data, er mwyn i bawb gael mynediad at y data sydd eu hangen arnynt; y Llywodraeth, y Dinesydd, y Sector Gwirfoddol a Masnach.
Yn dilyn ein fersiwn alffa, cafodd fersiwn beta MapDataCymru ei lansio ar 1 Mawrth ac y mae nawr ar agor i’r cyhoedd ei brofi. Mae’r fersiwn ar gael i bawb ei defnyddio, ac yn golygu y cewch bori a chwilio ynddi, addasu mapiau, lawrlwytho data a gweld ffrydiau byw o feddalwedd GIS.
Mae’n cefnogi sawl agwedd ar y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru. Wrth ddatblygu MapDataCymru rydym wedi dilyn safonau digidol drafft y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a gweithio gyda defnyddwyr y system i wneud yn siŵr ei fod yn ateb eu gofynion trwy gyfres o ganllawiau ac esboniadau cyflym. Mae’n cefnogi’n huchelgais hefyd i ddarparu data a gwasanaethau cydgysylltiedig, gan ddefnyddio platfformau cyffredin, a gwneud yn siŵr bod y data ar gael yn rhwydd i’r rheini sydd am eu defnyddio.
Beth yn gwmws yw Beta?
Yn y fersiwn Beta, byddwn yn cymryd y syniadau gorau o’r fersiwn alffa a dechrau eu datblygu. Mae’n golygu meddwl sut bydd ein gwasanaethau’n clymu â gwasanaethau eraill (neu’n dechrau cymryd eu lle) a pharatoi ar gyfer mynd yn fyw.

Ein hamcan yn y cam hwn yw canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod yr hyn rydym wedi’i ddatblygu yn y cam alffa (yn yr achos hwn, MapDataCymru) yn gweithio cystal ag y gall trwy gynnal ymchwil gyda defnyddwyr a dechrau casglu data ynghylch pa mor lwyddiannus yw’r gwasanaeth a’i addasu yn ôl yr hyn a ddysgwn gan ddefnyddwyr.
Beth sydd ei angen ichi ei wneud
Wrth inni gasglu’r ymatebion yn ystod y cam beta ac wedi hynny, byddwn yn caboli MapDataCymru fel ei fod yn gallu gwneud y pethau y dylai allu eu gwneud a bod ganddo’r offer i gefnogi’n gwasanaethau cyhoeddus, ein pobl a masnach.
Rydym felly am i bawb roi cynnig arno a rhoi eu hymateb da a drwg i ni, er mwyn i ni allu adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma. Rydym am wybod am unrhyw broblemau ac am unrhyw drafferthion gyda’r Gymraeg neu wrth gysylltu â’r system. Byddwn hefyd am fonitro cyflymder a pherfformiad, a hefyd unrhyw sylwadau am y data eu hunain.
Os ydy hyn yn rhywbeth y byddech chi am gymryd rhan ynddo, neu’ch bod jest am weld beth ydyn ni wedi bod yn ei wneud, yna ewch i safle beta MapDataCymru trwy glicio ar y ddolen hon: https://mapdata.llyw.cymru/
Ac os oes gennych chi ymateb, rhowch wybod i ni yn: DMWSupport@gov.wales
Am y profiad gorau, rydym ni’n eich cynghori i ddefnyddio porwr modern fel Google Chrome, Microsoft Edge (chromium), Apple Safari neu rywbeth tebyg. Fydd rhai nodweddion ddim yn gweithio gyda Microsoft Internet Explorer (a fydd yn diflannu cyn hir).
Teithio Llesol – Ein ap cyntaf

Rhag ofn nad ydych wedi clywed am Deithio Llesol, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi nifer o ddyletswyddau ar Awdurdodau Lleol. Un ohonyn nhw yw cynhyrchu map o’u llwybrau teithio llesol, a’r llwybrau sydd ar y gweill, yn eu hardal. Y rhain fydd y Map Rhwydwaith Teithiau Llesol sef glasbrint yr awdurdod llesol o’i rwydwaith o deithiau llesol integredig.
Felly beth yw’r cysylltiad rhwng hynny a MapDataCymru? Wel, ap Teithio Llesol MapDataCymru yw’r system newydd i awdurdodau lleol allu paratoi eu Map Rhwydwaith ac ar gyfer cyflwyno’r map i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.

Trwy weithio’n glos â thîm Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’n partneriaid allanol dros yr 8 mis diwethaf, rydym wedi datblygu ap MapDataCymru ddaeth yn fyw ar 1 Mawrth. Mae’n golygu bod Awdurdodau Lleol bellach yn gallu rheoli data Teithio Llesol mewn un lle, gan olygu bod un lle y gall staff a Gweinidogion fynd iddo i weld darlun cyflawn o Deithio Llesol yng Nghymru.
Beth sydd ar y gorwel?
Mae MapDataCymru’n parhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi cynllun adfer Covid Cymru, gan gynnwys mapio’r safleoedd gorau ar gyfer cynnal canolfannau brechu, nodi’r amser teithio i ysbytai dros dro a chynllunio ar gyfer Cymru iachach trwy fentrau fel y Cynllun Teithio Llesol.
Bydd yn effeithio hefyd ar y byd ar ôl Covid, trwy gynllunio, ymgynghori, dadansoddi, rhannu a deall ein byd ffisegol a rhifyddol a’r ffyrdd newydd rydym am ymwneud â’n gilydd, yn ein gwaith a hamdden.
Mae gennym nifer o apiau eraill ar eu ffordd, yn ymdrin â nifer o bynciau fel yr amgylchedd, trafnidiaeth, diogelu’r cyhoedd, iechyd a lles, ymgynghoriadau, y môr, cynlluniau argyfwng, rheoli asedau ac addysg. Mae gennym ddigon i’w wneud felly!
Byddwn wrth gwrs am barhau i gadw mewn cysylltiad â chi, felly gwyliwch am y bwletinau nesaf am FapDataCymru.
Kevin Williams – Rheolwr Cynnyrch MapDataCymru