Mae Covid-19 wedi cael effaith andwyol mewn sawl ffordd ac wedi sbarduno yr angen i ni, ac eraill, ddarparu gwasanaethau digidol ar fyrder yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Enghraifft ohono yw gwaith tîm Digidol Busnes Cymru, sy’n rhoi cymorth i fusnesau ledled Cymru – cymorth ariannol, hyfforddiant, marchnata a llawer mwy. Yn y blog hwn, mae Rhys Morris, Rheolwr Cyflenwi Gweithredol Busnes Cymru, yn egluro sut y bu i ef a’i dîm ddefnyddio dulliau hyblyg a chyflym o ddarparu y cymorth i Fusnesau Cymru y mae angen mawr amdano.
Parhau i ddarllenArchifau Categori: Digidol
Myfyrdodau arweinydd digidol newydd

Yr wythnos hon mae hi’n Wythnos Arweinwyr Digidol. Dyma adeg addas felly i ysgrifennu fy mlog cyntaf fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru wedi imi ddechrau yn y swydd ym mis Gorffennaf (nid y “100 diwrnod cyntaf” enwog y mae gwleidyddion yn cyfeirio ato, ond ddim yn bell chwaith). Mae’r misoedd cyntaf wedi bod fel corwynt wrth imi ddysgu beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad ac yn allanol, gan geisio datblygu darnau allweddol o waith sy’n bwysig i ni o ran ymateb i’r pandemig a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Fel mewn llawer o weithleoedd eraill, rydym wedi bod yn gweithio gartref yn bennaf ers mis Mawrth, wrth gwrs. Mae manteision aruthrol i hyn, y manylwyd arnynt dros y misoedd diwethaf, ond mae dechrau mewn swydd newydd yn y cyfnod hwn a methu dod i gysylltiad wyneb yn wyneb gyda fy nhimau newydd yn brofiad gwahanol iawn!
Parhau i ddarllenSylwadau cychwynnol prentis ym maes ymchwil ar ddefnyddwyr
Trwy gydol fy nyddiau ysgol roeddwn yn cymryd diléit mewn cynllunio a helpu i greu pethau newydd i eraill (fy hoff wers oedd Tecstilau). Dwi ddim yn awgrymu bod creu ffrog yr un peth â gweithredu polisi, ond maent yn galw am angenrheidiau tebyg. Ymhlith y rhain mae defnyddiwr hapus (gobeithio), cynnyrch terfynol, a’r ymdeimlad yna o lwyddiant! Fel mae’n digwydd, drwy ddarganfod yr hyn yr oedd pobl ei angen, a thrwy ymaddasu i’w hanghenion, roeddwn mewn gwirionedd yn gwneud rhywbeth a elwir yn ymchwil ar ddefnyddwyr.
Gweithdai Data Agored – yn dod cyn bo hir!
Yn dilyn y Gweithdy Data Agored ym mis Tachwedd, rydym yn gweithio gyda Data Cymru i gynnig dau weithdy ychwanegol yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynyddu faint o ddata agored sy’n cael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio drwy ddatblygu canllawiau ac arddangos ychydig o adnoddau defnyddiol. Parhau i ddarllen
Fy mhrofiad i fel rhiant sy’n gweithio ac fel prentis gyda Llywodraeth Cymru
Ym mis Mawrth 2019, dechreuais ar brentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru a rôl o fewn tîm Desg Wasanaeth Hwb oedd fy lleoliad cyntaf. Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol yw Hwb sy’n cynnwys casgliad cenedlaethol o raglenni digidol ac adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Parhau i ddarllen
Prentisiaethau – rhy dda i fod yn wir?

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, fe wnes i gwblhau cwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Reading. Ar ôl graddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr roeddwn i eisiau’i ddilyn o ran gyrfa, gan mai dim ond swyddi rhan-amser fel disgybl ysgol oeddwn i erioed wedi’u gwneud. Dros y Nadolig, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid mewn siop a dechreuais ddatblygu fy mhrofiad a’m sgiliau. Ar ôl tair blynedd mewn gwahanol rolau roeddwn i wedi dod i’r canlyniad nad gyrfa hirdymor mewn rheoli manwerthu oedd y peth i mi felly dechreuais edrych am lwybr gyrfa gwahanol oedd yn cyd-fynd â’m diddordebau. Yn y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd yn ôl i’r brifysgol i barhau â’m haddysg; ond roeddwn wedi fy siomi o weld y rhagolygon posibl yr oedd gradd meistr mewn Hanes yn eu cynnig. Anfonais un ffurflen gais ar ôl y llall am amrywiaeth eang o swyddi, o swydd gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i weithio yn y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr – gyda’m bryd ar roi tro ar rywbeth gwahanol. Parhau i ddarllen
O Farcio Llyfrau i Ddadansoddi Busnes!
Ym mis Mawrth 2019, gadawais fy swydd addysgu i ymuno â Llywodraeth Cymru fel Prentis Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg. Rwy’n tynnu tuag at derfyn fy lleoliad cyntaf ar y cynllun erbyn hyn ac mae hi eisoes yn amlwg na allwn fod wedi gwneud dewis gwell i adfywio fy ngyrfa a’i diogelu ar gyfer y dyfodol.
Cyn cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg, treuliais 5 mlynedd yn gweithio fel Athro, gan arbenigo mewn Addysg Gynradd ac Anghenion Addysgol Arbennig. Er fy mod yn cael bodd wrth weithio, roedd ffocws y gwaith yn aml yn weinyddol ac roedd rhaid imi weithio y tu allan i oriau fy nghontract yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion y rôl. Roedd y gwyliau haf chwe wythnos yn helpu rhywfaint i unioni’r cydbwysedd ond roeddwn yn dal i orfod gweithio yn ystod y gwyliau hyd yn oed.
Parhau i ddarllen
Ai dim ond opsiwn i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yw prentisiaethau? #nidrhyhennebiddysgu #olddognewtricks
Newid gyrfa a chychwyn Prentisiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg
Sut gyrhaeddais i yma?
Roeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.
Roeddwn i wedi mwynhau fy ngyrfa efo BT, ond roeddwn i’n teimlo fy mod, ar ôl treulio’r 10-15 mlynedd flaenorol yn rheoli prosiectau a oedd yn cyflwyno seilwaith TG, eisiau cyfle ‘i weld pethau o’r ochr arall’ ac i ymwneud â’r ochr dechnegol o’r byd TGCh. Parhau i ddarllen
Gweithio’n fwy agored – pennod newydd
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae trethi’n cael eu gwario yng Nghymru? Ydych chi erioed wedi tybio sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, neu sut mae Cyfraith Cymru yn cael ei datblygu? Os felly, efallai y bydd ein hymrwymiadau llywodraeth agored diweddaraf o ddiddordeb ichi.

Mapio ein ffordd at ddata mwy hygyrch
Mae gwerth data yn gwbl amlwg ers blynyddoedd – hyd yn oed mewn ffuglen. Yn 1892, dywedodd Sherlock Holmes:
“It is a capital mistake to theorize before one has data. Insensibly one begins to twist facts to suit theories, instead of theories to suit facts.”

