Os ydych chi’n agosáu at ddiwed eich amser yn yr ysgol neu’r brifysgol ac yn ystyried pa yrfa i’w dilyn, neu os ydych chi am newid gyrfa ac â diddordeb yn y maes digidol, ddylech ystyried Prentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn y maes Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT).
Pam dylwn i ystyried prentisiaeth?
Mae prentisiaethau’n ffordd dda o ddatblygu sgiliau wrth weithio. Fel prentis, fe gewch chi’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi a chyfle i ddatblygu gyrfa wrth ennill cyflog ar yr un pryd. O’n rhan ni, mae’n golygu y gallwn hyfforddi pobl i’r swyddi sydd eu hangen arnom.
Beth sy’n wahanol am y Brentisiaeth DDaT?
Mae’r Brentisiaeth DDaT yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol, data a thechnoleg. Yn ystod y brentisiaeth 18 mis, bydd ein prentisiaid yn symud o gwmpas gwahanol dimau ac yn cyflawni amryw o wahanol swyddogaethau o fewn Llywodraeth Cymru.
Bydd symud o gwmpas yn caniatáu i’r prentisiaid brofi nifer o wahanol rolau o fewn y proffesiwn DDaT ac yn rhoi’r cyfle iddynt weld lle yn union mae eu sgiliau a pha lwybr gyrfa yr hoffent ei ddilyn.
Does gen i ddim profiad TG na chymwysterau – alla i wneud cais o hyd?
Does dim angen gwybodaeth na phrofiad o weithio ymlaen llaw ym maes digidol, data a thechnoleg, dim ond diddordeb a brwdfrydedd am y pwnc.
Le alla’i ffeindio allan fwy am Prentisiaeth DDaT?
Sesiynnau Rhyth:
Eleni, am y tro cyntaf, rydym yn rhedeg sesiynnau rhyth i chi gael ffeindio allan fwy am y Prentisiaeth DDaT a cwrdd â prentisiaid sydd eisioes wedi graddio. Mae’r sesiynnau i gyd yn rhyth trwy MSTeams ac yn para tua awr.
Dyma’r dyddiadau ar gyfer ein sesiynnau rhyth:
- 22 Chwefror 13:00 (sesiwn Cymraeg)
- 25 Chwefror 13:00
- 17 Mawrth 16:00
- 11 Ebrill 11:00
I gofrestri eich diddordeb mewn mynychu un o’n sesiynnau, ebostiwch ddat@llyw.cymru
Blogiau:
Rydym eisioes wedi cyhoeddi blogiau gan prentisiaid yn trafod eu profiadau amrywiol ar y cynllun DDaT. Gallwch ffeindio rhain o dan y “Categori DDaT”.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi blogiau newydd can prentisiaid dros y mis nesaf felly cadwch llygad allan am rheina!
Gwefan Prentisiaid:
Am y gwybodaeth diweddaraf am prentisiaethau yn Llywodraeth Cymru, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd cofrestri eich diddordeb i gael diweddariadau pan fydd ein cynllun prentisiaeth yn fyw.