Prentisiaeth Digidol, Data a Thechnoleg – nid yw fyth yn rhy hwyr!

Read this page in English

Llun o Jane, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg

Efallai ei fod yn ymddangos yn ddewis rhyfedd a minnau yn ganol oed. Prentisiaeth? Ym maes Digidol, Data a Thechnoleg? Pan es i amdani yn 2020, doedd gen i ddim syniad mewn gwirionedd beth oedd o fy mlaen. Er hynny, dyma un o’r penderfyniadau gorau imi eu gwneud.

Felly, pam dewis prentisiaeth?

Roeddwn i wedi bod yn gweithio am flynyddoedd lawer fel cynorthwyydd addysgu anghenion arbennig. Wedi i fy mhlant fy hun ddechrau gadael y nyth, roeddwn yn chwilio am her newydd ar gyfer cyfnod nesaf fy mywyd. Roeddwn i’n awyddus i ddod o hyd i yrfa a fyddai’n rhoi boddhad imi, cyfle i ddysgu sgiliau newydd, gyrfa lle byddai’r gwaith caled a’r ymdrech yn werth ei wneud. Er nad oedd gen i brofiad blaenorol ym maes Digidol, Data a Thechnoleg, cefais fy nenu gan yr ystod o yrfaoedd a oedd ar gael a’r cyfle i ennill cymwysterau tra’r oeddwn i’n gweithio, ynghyd â’r oriau gwaith hyblyg a oedd yn cael eu cynnig.

Sut oedd y profiad mewn gwirionedd?

Yn ystod fy mhrentisiaeth 18 mis, gweithiais mewn tair adran wahanol ac roeddwn i’n rhan o ystod o brosiectau diddorol ac amrywiol. Cefais fanteisio ar bob math o brofiadau, fel llunio cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cynllunio a chynnal sesiynau hyfforddi, profi meddalwedd a datblygu gwefannau. Cefais gyfleoedd hefyd i ddysgu sgiliau newydd a chael profiadau gwerthfawr, drwy weithio gyda phobl angerddol a gwybodus a roddodd yn hael o’u hamser a rhannu eu harbenigedd. Fe wnes i hefyd sylwi fy mod i eisoes yn meddu ar lawer o’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn rôl ym maes Digidol, Data a Thechnoleg. Roedd y rhain yn cynnwys sgiliau cyfathrebu da, sgiliau gweithio mewn tîm, sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau, ynghyd â sgiliau meddwl yn ddadansoddol, yn feirniadol ac yn greadigol.

Mae blynyddoedd lawer ers imi fod mewn ystafell ddosbarth ddiwethaf, ond fe wnes i lwyddo i gwblhau’r BTEC a chymwysterau’r brentisiaeth, a wnaeth fy helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r maes Digidol, Data a Thechnoleg.

Roedd fy nghefndir a fy mhrofiadau i yn wahanol i’r prentisiaid eraill. Er hynny, roeddent yn rhoi cymorth, cyngor ac anogaeth imi, ac yn dal i wneud hynny. Roedd fy ngoruchwyliwr, fy nhiwtor BTEC a fy rheolwyr lleoliadau bob amser yn barod i helpu hefyd drwy gydol fy mhrentisiaeth. Fe wnaeth hyn fy helpu i wireddu fy mhotensial. Hefyd, roedd y gallu i weithio o bell ac yn y swyddfa, gan drefnu fy oriau gwaith yn unol â fy nghyfrifoldebau eraill, yn golygu y gallwn gynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Llun o tystysgrifau NVQ a BTEC

Swydd barhaol

Ar ôl pasio fy mhrentisiaeth, rwyf yn awr yn gweithio ar MapDataCymru, platfform datblygu meddalwedd yn yr adran Data a Daearyddiaeth. Rwy’n ymwneud â phob rhan o’r broses ddatblygu, gan gynnwys gwaith dadansoddi busnes, profi, dylunio cynnwys a phrofiad y defnyddiwr. Mae’r profiadau a’r hyfforddiant a gefais pan oeddwn yn brentis yn golygu fod gen i’r hyder i arwain ar brosiectau a chynrychioli fy nhîm ymysg cyd-weithwyr a’r cyhoedd. Fodd bynnag, rwy’n parhau i ddatblygu fy sgiliau ac yn mwynhau goresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â gweithio mewn rôl mor gyffrous a heriol.

Rwy’n argymell prentisiaeth ym maes Digidol, Data a Thechnoleg gyda Llywodraeth Cymru yn fawr, dim ots faint oed ydych chi na beth yw eich profiadau hyd yma. Nid yn unig mae’n ffordd dda o gael cyflwyniad i faes cyffrous sy’n datblygu’n barhaus, maes a fydd yn rhoi sgiliau a chymwysterau gwerthfawr ichi, ond mae hefyd yn rhoi’r cyfle ichi wneud gwahaniaeth er budd Cymru.

Post gan Jane, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg

Os yw blog Jane wedi eich ysbrydoli i ystyried dod yn Brentis DDaT, gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein holl gynlluniau prentisiaeth ar wefan Prentisiaid Llywodraeth Cymru. Byddwn yn recriwtio ein carfan nesaf o brentisiaid DDaT ym mis Mawrth 2022 a rydym yn rhedeg sesiynnau rhyth i chi gael ffeindio allan fwy am y Prentisiaeth DDaT a cwrdd â prentisiaid sydd eisioes wedi graddio. Mae’r sesiynnau i gyd yn rhyth trwy MSTeams ac yn para tua awr.

Dyma’r dyddiadau ar gyfer ein sesiynnau rhyth:

  • 25 Chwefror 13:00
  • 17 Mawrth 16:00
  • 11 Ebrill 11:00

I gofrestri eich diddordeb mewn mynychu un o’n sesiynnau, ebostiwch ddat@llyw.cymru