O ddylunio gwefannau i weithio i Lywodraeth Cymru

Read this page in English

Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ennill wrth ddysgu, ond beth maen nhw’n ei gynnwys mewn gwirionedd?! Mae James, cyn-brentis o’n cynllun DDaT diweddar yma i ddweud wrthych.

Sut wnes i gyrraedd yma

Llun o James

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roeddwn i wedi bod yn gweithio fel dylunydd gwefannau hunangyflogedig am 10 mlynedd. Roeddwn i’n dda am ddylunio gwefannau ar gyfer busnesau bach, ond roeddwn i eisiau ehangu fy ngwybodaeth a dysgu mwy am holl agweddau’r byd digidol. Roeddwn i hefyd yn anhapus ynglŷn â pha mor ansicr oedd bod yn hunangyflogedig, ac roeddwn i’n awyddus i sicrhau gyrfa a oedd yn fwy sefydlog i mi a fy nheulu.

O fod wedi dysgu’n hun ar y cyfan, roeddwn i’n gwybod y byddai angen imi gael rhywfaint o gymwysterau ffurfiol. Roeddwn i’n gyndyn o ddychwelyd i addysg amser llawn gan mod i’n teimlo bod y dyddiau hynny wedi hen fynd heibio, ac ni fuaswn chwaith wedi gallu ymdopi â’r toriad cyflog fyddai’n dod gyda hynny. Gan gnoi cil ar beth oedd orau i’w wneud, mi wnes i ddechrau gweithio dros dro fel swyddog gweinyddol yn Llywodraeth Cymru er mwyn helpu cadw dau ben llinyn ynghyd. Wrth weithio yno, ces wybod am y Brentisiaeth Digidol Data a Thechnoleg. Dyma oedd yr ateb perffaith i mi; buaswn i’n gallu ennill profiad wrth weithio, ehangu fy ngwybodaeth ac ennill cymhwyster ar y diwedd, hyn i gyd wrth ennill cyflog digonol. Beth sydd ddim i’w hoffi!

Beth wnes i yn ystod fy lleoliadau gwaith

Fe wnes i gais am brentisiaeth, ac er syndod imi, roeddwn i’n llwyddiannus! Ces i fy lleoliad cyntaf gyda’r tîm sy’n gyfrifol am y gwaith o ddylunio, datblygu, profi a chefnogi systemau meddalwedd. Roeddwn i’n gyffrous i fod yn rhan o’r tîm hwn gan y buaswn i’n cael dysgu am gylch oes cyfan darn o feddalwedd. Ces i’r cyfle i gwrdd â phawb ac roedden nhw’n gefnogol iawn.  Roeddwn i wedi setlo’n dda…ond yn fuan, roedd ein bywydau i gyd ar fin newid!

Dechreuodd y pandemig COVID-19 tua’r un amser a wnes i ddechrau fy mhrentisiaeth ac wedi ond pum wythnos yn y tîm, cawsom wybod y buasem i gyd yn gweithio gartref o hynny ymlaen. Ar y pryd, roedd hynny’n ofid mawr imi! Sut oeddwn i am weithio’n effeithiol? A fuaswn i’n gallu dysgu gan bobl pan doedden ni ddim yn yr un ystafell? A fuaswn i’n cael y gefnogaeth roeddwn i ei hangen?

Doedd dim rhaid imi boeni. Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad pan mae’n dod i weithio’n hyblyg, ac roedd yr holl gyfarpar roeddem eu hangen yn eu lle. Ar y dechrau, roedd ychydig o heriau wrth inni gyd addasu, a symudodd y cyfarfodydd a’r hyfforddiant o’r swyddfa i fod yn rhai ar-lein. Ond gyda chefnogaeth wych gan y tîm a Llywodraeth Cymru, daeth pawb i drefn yn fuan. Roedd y tîm yn wych am gadw mewn cysylltiad a rhoi cefnogaeth yn rhithiol. Felly, er gwaethaf y ffaith mod i wedi treulio 95% o’r brentisiaeth yn gweithio gartref, dw i ddim yn teimlo bod hynny wedi bod o anfantais imi o gwbl. Dw i wedi llwyddo i gyfrannu at y gwaith a dysgu mor rhwydd â phe buaswn i yn y swyddfa’n bersonol.

Fel arfer, buasem yn cael tri lleoliad gwaith yn ystod y brentisiaeth, ond oherwydd COVID-19, mae pethau wedi bod ychydig yn wahanol, a gohiriwyd yr ail leoliad. Ond ar ôl ychydig o amser (pan ddaeth i’r amlwg na fuasem yn mynd yn ôl i normal yn fuan!) fe symudom yn ein blaenau i’r ail leoliad. Roedd fy ail leoliad yn wahanol iawn i’r cyntaf. Roeddwn yn gwneud llawer o waith Technoleg Gwybodaeth ymarferol yn y lleoliad cyntaf, yn yr ail leoliad roedd gan y tîm fwy o rôl trosfwaol o edrych ar bolisïau a dyfodol Digidol, Data a Thechnoleg yn Llywodraeth Cymru. Roedd fy ddau brif ffocws yn ymwneud â sicrhau y byddai data yn parhau i allu llifo i Ewrop, ac oddi yno wedi Brexit, a strategaeth Llywodraeth Cymru i’r dyfodol sef y Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Dw i wedi dysgu llawer yn ystod fy mhrentisiaeth wrth roi cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth i eraill, profi systemau, cwblhau dadansoddiadau busnes, rheoli prosiectau, gweithio ystwyth, dysgu am y Strategaeth Ddigidol i Gymru, yn ogystal â dysgu am ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit a COVID-19. Er hyn, y rhannau gorau o’r brentisiaeth imi yw pan wnes i lwyddo i ddatrys problemau. Ces i nifer o gyfleoedd i wneud hynny wrth weithio ar y ddesg gymorth yn ystod fy lleoliad gwaith cyntaf. Roedd pob diwrnod yn wahanol a doeddech chi byth yn gwybod beth oedd am ddod i mewn i’r mewnflwch!

Beth nesaf?

Erbyn hyn, dw i wedi gorffen fy mhrentisiaeth Digidol, Data a Thechnoleg a dw i’n ei hargymell gyda’m llaw ar fy nghalon. Mae’r brentisiaeth wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, datblygu sgiliau sy’n bodoli’n barod, adeiladu rhwydwaith wych, ac ennill cymhwyster.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi creu argraff fawr arnaf. Maent yn dda am feddwl ymlaen ac maent yn hyblyg o safbwynt arferion gweithio. Mae hynny’n gwneud pethau’n hawdd o ran cynnal cydbwysedd da rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref.

Wedi gorffen fy mhrentisiaeth, roeddwn i wrth fy modd o gael cynnig swydd barhaol yn y tîm lle wnes i weithio yn fy lleoliad cyntaf. Dw i methu aros nawr i weld lle mae’r daith honno am fynd â fi!

Post gan James, Prentis Digidol, Data a Thechnoleg

Os yw blog James wedi eich ysbrydoli i ystyried dod yn Brentis DDaT, gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein holl gynlluniau prentisiaeth ar wefan Prentisiaid Llywodraeth Cymru. Byddwn yn recriwtio ein carfan nesaf o brentisiaid DDaT ym mis Mawrth 2022 a byddwn yn diweddaru’r wefan gyda manylion yn fuan. Yn y cyfamser, cadwch lygad allan am fwy o flogiau prentis dros y misoedd nesaf