Ar 4 Mawrth 2022, cyhoeddwyd ‘Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19: cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig’. Mae’r cynllun hwn yn esbonio bod y cysylltiad rhwng haint COVID-19, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth wedi gwanhau’n sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau symud y tu hwnt i ymateb argyfwng i’r pandemig a chynllunio dyfodol lle rydym yn symud yn raddol i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws, yn yr un modd ag yr ydym yn byw gyda nifer o glefydau heintus arall.
Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu’n fawr ar ddata a dadansoddiadau i lywio ein dull gweithredu. Gan weithio gyda phartneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac eraill, mae ystod fawr o ddata a dadansoddiadau newydd wedi’u cyhoeddi, gan ddarparu tryloywder ynghylch y dystiolaeth a ddefnyddir i wneud penderfyniadau.
Mae dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu’r prif ddata dyddiol ynglŷn â phrofi, achosion, marwolaethau a brechu. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor gwyddonol rheolaidd, modelau, data dyddiol am weithgarwch mewn ysbytai a dadansoddiadau am bresenoldeb ysgolion, cartrefi gofal, olrhain cysylltiadau, y canlyniadau diweddaraf o Arolwg Heintiadau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol a mwy.
Adolygu ystadegau COVID-19
Mae dadansoddwyr yn Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyhoeddi nifer mawr o allbynnau data ac ystadegau rheolaidd am COVID-19, sydd ar gael ar dudalen Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Wrth i ni symud y tu hwnt i’r cam ymateb i argyfwng, rydym bellach mewn sefyllfa lle gallwn edrych ar ba ddata a dadansoddiadau sydd eu hangen arnom ni nawr, a beth fydd yn dal i fod angen arnom yn y dyfodol. Er mwyn llywio’r adolygiad hwn, rydym wedi ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- a fydd y data’n parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth fonitro’r coronafeirws a COVID-19 yn y dyfodol
- a yw’r gwasanaethau rydym yn eu mesur yn mynd i newid yn sylweddol, gan gynnwys sut y bydd hyn yn effeithio ar lif data a ph’un a allwn gynhyrchu dadansoddiadau ystyrlon ai peidio
- a fydd y gwasanaethau a fesurwn yn dod i ben pan fydd y llifau data’n gorffen
- a yw’r diddordeb yn y pwnc wedi lleihau. Rydym wedi defnyddio gwybodaeth am nifer yr ymweliadau â gwefannau i lywio’r ffactor hwn
Er enghraifft, daeth profion PCR ar gyfer y cyhoedd i ben ar 31 Mawrth a chaewyd canolfannau profi torfol. Mae hyn yn golygu bod gostyngiad mawr wedi bod yn nifer y profion PCR a gynhelir bob dydd ac mae’r adroddiad wythnosol a luniwn am weithgarwch profi PCR bellach yn llai perthnasol nag yr arferai fod.
Pa newidiadau rydyn ni’n eu gwneid?
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gwneud rhai newidiadau i’n hadroddiadau COVID-19. Y bwriad yw y bydd y newidiadau hyn yn dechrau symud ein dull gweithredu i gyd-fynd yn fwy â’r ffordd y caiff clefydau anadlol eraill eu monitro. Bydd newid ein allbynnau rheolaidd presennol hefyd yn rhoi mwy o gapasiti inni wneud dadansoddiadau ar bynciau eraill, gan gynnwys yr ystod eang o niweidiau sydd wedi codi yn sgil y pandemig.
Ein bwriad yw parhau i gyhoeddi nifer o ddogfennau ystadegau allweddol mor aml ag yr ydym yn gwneud nawr, ond lleihau neu roi’r gorau i gyhoeddi dogfennau ystadegol eraill. Yn fras, y bwriad yw:
- Parhau i gyhoeddi adroddiadau ar ganlyniadau Arolwg Heintiadau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gyfer y gyfradd bositifedd a gwrthgyrff gan ddilyn amserlen gyhoeddi sy’n cyd-fynd â chyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
- Parhau i gyhoeddi rhai setiau data allweddol ar StatsCymru gan ddilyn yr un amserlen â’r un bresennol, ond lleihau pa mor aml y cyhoeddir adroddiadau ysgrifenedig sy’n mynd gyda nhw. Dyma’r sefyllfa ar gyfer data rheolaidd ar weithgarwch ysbytai, a data Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion. Byddwn yn parhau i adolygu pa mor aml y cyhoeddir diweddariadau ar StatsCymru. Bydd adroddiadau ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn parhau ar eu ffurf bresennol am weddill y flwyddyn ysgol, o leiaf.
- Parhau yn y tymor byr ac yna roi’r gorau i ddarparu data ac adroddiadau ar gyfer gwasanaethau sy’n mynd i ddod i ben yn fuan neu sy’n mynd i newid yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys ein datganiad ar brofi a fydd yn dod i ben ar 13 Ebrill, yn dilyn y newidiadau diweddaraf i brofion PCR, a’r datganiad Profi, Olrhain, Diogelu (olrhain cysylltiadau). Rydym yn disgwyl y bydd hwn yn gorffen ar ôl i’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau ddod i ben ddiwedd mis Mehefin.
- Rhoi’r gorau i gyhoeddi rhai dogfennau nad yw pobl wedi dangos diddordeb rheolaidd ynddynt yn ddiweddar, neu lle mae amgylchiadau eisoes wedi newid ac nid ydynt yn berthnasol bellach. Mae hyn yn cynnwys y datganiad am Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) a’r datganiad am Stoc a Dosbarthiad Brechlynnau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn adolygu ei gynlluniau adrodd rheolaidd a’i ddangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym ar hyn o bryd.
Caiff rhagor o wybodaeth am y newidiadau ei chynnwys yn y datganiadau unigol, gyda rhai newidiadau’n dechrau’r wythnos nesaf. Rydym yn bwriadu parhau i fonitro pa ddata a gwybodaeth reolaidd sydd eu hangen, a phe bai amgylchiadau’n newid yn y dyfodol, byddwn yn ystyried a oes angen cynyddu’r adroddiadau hyn eto. Amlinellir ein cynlluniau penodol isod. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y cynlluniau hyn, anfonwch e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.
Crynodeb o’r newidiadau
Cyhoeddiad | Math | Cynnig |
Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) | Tabl StatsCymru | Parhau i gyhoeddi ar ddydd Llun a dydd Gwener |
Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) | Adroddiad | Newid pa mor aml y caiff ei gyhoeddi o bob wythnos i bob mis |
Absenoldeb staff y GIG a’r gyfradd hunanynysu | Tabl StatsCymru | Parhau i gyhoeddi’n wythnosol |
Arolwg heintiadau coronafeirws (COVID-19) (amcangyfrifon positifedd) | Adroddiad | Parhau i gyd-fynd ag amserlen gyhoeddi’r ONS – pob wythnos ar hyn o bryd |
Arolwg heintiadau coronafeirws (COVID-19) (data gwrthgyrff) | Adroddiad | Parhau i gyd-fynd ag amserlen gyhoeddi’r ONS – pob pythefnos ar hyn o bryd |
Rhaglen frechu COVID-19 (stoc a dosbarthiad) | Tabl StatsCymru | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Rhaglen frechu COVID-19 (stoc a dosbarthiad) | Adroddiad | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Profi, Olrhain, Diogelu (olrhain cysylltiadau ar gyfer coronafeirws (COVID-19)) | Tabl StatsCymru | Newid pa mor aml y caiff ei gyhoeddi o bob wythnos i bob pythefnos, yna rhoi’r gorau i gyhoeddi ar ôl i’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau ddod i ben ddiwedd mis Mehefin |
Profi, Olrhain, Diogelu (olrhain cysylltiadau ar gyfer coronafeirws (COVID-19)) | Adroddiad | Newid pa mor aml y caiff ei gyhoeddi o bob wythnos i bob pythefnos, yna rhoi’r gorau i gyhoeddi ar ôl i’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau ddod i ben ddiwedd mis Mehefin |
Data o brofion ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) | Tabl StatsCymru | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Data o brofion ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) | Adroddiad | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Darparu eitemau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) | Tabl StatsCymru | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Darparu eitemau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) | Adroddiad | Rhoi’r gorau i gyhoeddi |
Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion | Tabl StatsCymru | Parhau i gyhoeddi’n wythnosol |
Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion | Adroddiad | Newid pa mor aml y caiff ei gyhoeddi o bob pythefnos i bob mis |
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir | Adroddiad a data | Parhau i gyhoeddi’n wythnosol |
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd