Diweddariad y Prif Ystadegydd: ble i gael data a dadansoddiadau ar yr argyfwng costau byw

Read this page in English

Mae costau byw wedi bod yn cynyddu ledled y Deyrnas Unedig ers dechrau 2021. Ym mis Hydref 2022, roedd y gyfradd chwyddiant yn 11.1%, y lefel uchaf ers 41 o flynyddoedd. Cododd Banc Lloegr gyfraddau llog i 3% ym mis Tachwedd, y lefel uchaf ers argyfwng ariannol 2008. Mae hyn yn effeithio ar ba mor fforddiadwy yw nwyddau a gwasanaethau i aelwydydd, ac mae hefyd yn effeithio ar fusnesau.

Nid nod y blog hwn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng costau byw gan y byddai’n dyddio’n gyflym. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at ffynonellau allweddol o ddata sy’n berthnasol i’r sefyllfa gyfnewidiol hon, gan ganolbwyntio ar wybodaeth sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd ac ar Gymru. Mae llawer o’r ffynonellau a nodir yn ystadegau swyddogol. Mae’r blog hefyd yn cyfeirio at sefydliadau trydydd sector a melinau trafod gan y gall y rhain ddarparu gwybodaeth gyflenwol neu ddangosyddion rhagfynegi i fonitro’r argyfwng.

Crynodebau defnyddiol

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn llunio nifer o setiau data ac erthyglau perthnasol, ac mae gwaith presennol a gwaith sydd ar ddod yn cael eu disgrifio ar ei gwefan. Mae hyn yn cynnwys adnodd costau byw i  helpu i lywio’r cyfoeth o wybodaeth am wariant, ynni, tai, cyflogaeth, busnes a chymdeithas. Mae modd rhannu rhai o’r setiau data yn ôl gwledydd a rhanbarthau’r DU, gan gynnwys Cymru.

Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn llunio nifer o bapurau briffio perthnasol ar gyfer y DU, sydd ar gael ar ei gwefan. Mae ei phapur briffio ar gostau byw cynyddol yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am chwyddiant, cymorth gan y llywodraeth, a’r effaith ar aelwydydd.

Mae Data Cymru yn datblygu dangosfwrdd data costau byw i gynnwys gwybodaeth amrywiol i awdurdodau lleol Cymru, Cymru a’r DU yn ei chyfanrwydd, bydd yn cael ei gyhoeddi yn chwarter cyntaf 2023.

Chwyddiant a chyfraddau llog

Mae chwyddiant yn mesur cyfradd y cynnydd mewn prisiau. Mae mesurau chwyddiant prisiau defnyddwyr yn olrhain prisiau y mae defnyddwyr yn eu talu am fasged gynrychiadol o nwyddau a gwasanaethau, y gellid eu hystyried sy’n rhan o ‘gostau byw’.

Siart y SYG sy'n dangos bod cyfraddau chwyddiant prisiau defnyddwyr yn y DU wedi codi'n sydyn ers 2021.

Rôl Banc Lloegr yw cadw costau byw yn sefydlog, ac un o’i ddulliau allweddol o alluogi hyn yw’r gallu i newid y brif gyfradd llog yn y DU. Maent yn cyhoeddi esboniad o gyfradd y banc (a elwir hefyd y gyfradd sylfaenol neu’r gyfradd llog) ynghyd â’r ffigurau diweddaraf a set ddata hanesyddol. Mae Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc yn gwneud penderfyniadau am y gyfradd llog gan ddefnyddio dadansoddiadau economaidd ac amcanestyniadau chwyddiant o’r Adroddiad Polisi Ariannol chwarterol. Mae amcanestyniadau a dadansoddiadau eraill ar gael gan sefydliadau fel y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Resolution Foundation, a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

Ysgogwyr chwyddiant

Mae chwyddiant wedi cynyddu’n sydyn yn y misoedd diwethaf, yn sgil ystod eang o bethau. Cyhoeddodd y SYG erthygl ar bethau diweddar a oedd wedi ysgogi chwyddiant prisiau defnyddwyr yn y DU ym mis Mawrth 2022. Yna, ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd erthygl ar yr heriau diweddar sydd wedi wynebu busnesau bwyd a diod a’u heffaith ar brisiau. Os oes gennych ddiddordeb mewn setiau data ar ysgogwyr penodol, gallwch hidlo o dan y CPI cyffredinol a lawrlwytho data ar gyfer categorïau fel trafnidiaeth, bwyd a nwy.

O ran ynni a thanwydd, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cyhoeddi casgliad o ystadegau ar brisiau ynni ac ar danwydd ffordd ac ystadegau prisiau petrolewm eraill.

Effaith ar aelwydydd

Bob pythefnos, mae’r SYG yn diweddaru gwybodaeth am farn y cyhoedd a thueddiadau cymdeithasol ym Mhrydain Fawr, ar sail yr Arolwg Barn a Ffordd o Fyw. Mae’r arolwg yn gofyn i bobl a yw eu costau byw wedi cynyddu yn ystod y mis diwethaf, ac os felly, beth sydd wedi cyfrannu at y cynnydd hwn, gan gynnwys biliau nwy a thrydan, pris tanwydd, pris siopa bwyd, a chostau rhent neu forgais. Yna, mae ymatebwyr yn cael eu holi am newidiadau i’w ffordd o fyw yn sgil y costau byw cynyddol, megis defnyddio llai o nwy a thrydan, gwario llai ar siopa bwyd a nwyddau hanfodol, neu dorri’n ôl ar deithiau nad ydynt yn hanfodol yn eu cerbyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i seilio ar nifer o setiau data, gan gynnwys un ar gyllid aelwydydd.  

Yn llai aml, mae’r SYG yn cyhoeddi set ddata fwy, wedi’i seilio ar sawl ton o’r arolwg. Mae hyn wedi cynnwys data ar gyfer Cymru, a dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig a nodweddion cartrefi, statws o ran anabledd, statws cyflogaeth ac incwm personol. Gan ddefnyddio’r set ddata fwy hon, mae’r SYG wedi llunio dadansoddiadau manwl, gan gynnwys yr erthyglau canlynol:

Mae cyhoeddiad blynyddol y SYG ar wariant teuluoedd yn y DU yn cyflwyno data ar wariant aelwydydd yn ôl oedran, incwm, statws economaidd, pwy sy’n byw yn yr aelwyd a rhanbarth. Mae hyn yn helpu i nodi’r math o aelwydydd y mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau penodol fwyaf tebygol o effeithio arnynt.

Incwm a chyllid aelwydydd

Gall gwybodaeth reoli amserol am y niferoedd sy’n manteisio ar gronfeydd caledi neu wasanaethau cynghori ddynodi tueddiadau o ran yr effaith ar gyllid aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data’n rheolaidd ar daliadau i aelwydydd o’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae’r gronfa hon yn darparu grantiau mewn argyfwng ar gyfer costau hanfodol.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cyhoeddi dangosfwrdd costau byw ar gyfer Cymru a Lloegr, yn ogystal â dangosfwrdd misol yn benodol i Gymru. Mae hyn yn cynnwys nifer y bobl sy’n cysylltu â nhw i gael cymorth yn sgil argyfwng, ar faterion gan gynnwys ynni, bwyd a digartrefedd.

Siart Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod nifer y cleientiaid dyled a welwyd yng Nghymru wedi codi'n gyson ers 2020.

I olrhain cynnydd tymor byr mewn cyflogau neu enillion, mae’r SYG yn cyhoeddi ystadegau misol ar enillion wythnosol cyfartalog ym Mhrydain Fawr. Mae data manylach ar enillion ar gael o arolwg blynyddol y SYG o oriau ac enillion, gan gynnwys data yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru, a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Serch hynny, dim ond un agwedd ar incwm aelwydydd yw enillion. Bydd polisïau’r llywodraeth, gan gynnwys polisïau trethi personol, budd-daliadau a phensiynau, hefyd yn effeithio ar incwm aelwydydd. Yn dilyn datganiadau cyllidebol gan Lywodraeth y DU, mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn cyhoeddi papurau briffio ar yr effaith debygol, gan grynhoi dadansoddiadau gan sefydliadau fel y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Trysorlys EF, melinau trafod dethol ac eraill.

Mae sawl arolwg swyddogol o aelwydydd yn gofyn cwestiynau am incwm a chyllid, a phynciau megis diffyg diogeledd bwyd. Serch hynny, mae ystadegau o’r arolygon mwy hyn gan y llywodraeth yn tueddu i gael eu cyhoeddi’n flynyddol gydag oedi o rai misoedd neu ragor yn sgil prosesu data. Ymysg ffynonellau o’r fath y mae’n werth edrych arnynt i gael manylion pellach y mae Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Adnoddau Teuluoedd a chyfres ddata Aelwydydd o dan yr Incwm Cyfartalog gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Arolwg Cyllid Aelwydydd gan y SYG a’i data blynyddol ar incwm gwario gros rhanbarthol aelwydydd. Mae sawl un o ddangosyddion llesiant cenedlaethol Cymru yn defnyddio’r ffynonellau data hyn, ac yn ymwneud ag effeithiau’r argyfwng costau byw.

Costau ynni

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru, a hynny ar gyfer mis Hydref 2021. Maent yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl nodweddion cartrefi ac anheddau, a rhywfaint o wybodaeth am effaith bosibl y cynnydd mewn prisiau tanwydd ym mis Ebrill 2022. Mae hefyd yn cyflwyno data ar dlodi tanwydd ledled y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu dangosfwrdd data tlodi tanwydd a fydd yn ymgorffori data o ffynonellau mewnol ac allanol, gan gynnwys adrannau llywodraethol eraill ac Ofgem. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn chwarter cyntaf 2023.

Siart sy'n dangos bod nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi rhwng 2018 a 2021 ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed a phob cartref.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl ar gostau cynyddol tanwydd, gan egluro sut y caiff ynni ei brisio, tueddiadau diweddar ym mhrisiau ynni, achosion ac ymatebion.

Mae porth data Ofgem yn cyflwyno data am y diwydiant ynni ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys data am ddyled ynni.

Mae Arolwg Barn a Ffordd o Fyw y SYG yn gofyn i’r rhai y mae nwy neu drydan yn cael ei gyflenwi i’w cartref a ydynt ar ei hôl hi o ran taliadau a pha mor hawdd yw fforddio eu biliau ynni.

Tlodi bwyd

Ddwywaith y flwyddyn mae Trussell Trust yn cyhoeddi nifer y cyflenwadau bwyd sy’n cael eu dosbarthu i bobl mewn argyfwng gan fanciau bwyd yn ei rhwydwaith, gan gynnwys data yn ôl rhanbarthau ac awdurdodau lleol y DU. Mae Independent Food Aid Network yn casglu ac yn cyhoeddi data gan fanciau bwyd annibynnol yn rheolaidd, ac mae The Food Foundation yn comisiynu arolygon rheolaidd i asesu lefelau diffyg diogeledd bwyd yn y DU.

Costau tai

Mae’r SYG yn cyhoeddi Mynegai misol o Brisiau Tai yn y DU, a Mynegai arbrofol misol o Brisiau Rhentu Tai Preifat, sy’n olrhain prisiau sy’n cael eu talu am rentu eiddo oddi wrth landlordiaid preifat yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau ar renti tai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn flynyddol. Mae Banc Lloegr yn cyfrifo cyfres fisol o gyfraddau llog a ddyfynnir, ar ffurf cyfartaleddau wedi’u pwysoli ar gyfer ystod o gynhyrchion benthyg a blaendaliadau a gynigir i aelwydydd, gan gynnwys morgeisi.

Mae Arolwg Barn a Ffordd o Fyw y SYG yn gofyn i’r rhai sy’n talu taliadau rhent neu forgais a yw’r rhain wedi cynyddu yn y 6 mis diwethaf, a ydynt ar ei hôl hi o ran taliadau a pha mor hawdd yw fforddio eu rhent neu eu morgais.

Siart ONS sy'n dangos amrywiad fesul oedran yn y cyfrannau sy'n adrodd anhawster fforddio biliau ynni, a thaliadau rhent neu forgais.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gamau hawlio meddiant mewn llysoedd sirol gan fenthycwyr morgeisi a landlordiaid cymdeithasol a phreifat yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys data yn ôl gwlad ac awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau digartrefedd blynyddol, gan ddarparu ffigurau ar nifer yr aelwydydd sy’n gwneud cais i awdurdodau lleol am gymorth tai a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro.

Dadansoddiadau eraill o’r effaith ar aelwydydd

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ymchwil yn edrych ar effaith yr argyfwng costau byw ar grwpiau neu ardaloedd penodol gan gynnwys aelwydydd incwm isel, menywod, gofalwyr di-dâl a gofal cartref, cymunedau gwledig, a phobl anabl.

Mae yna ystod o felinau trafod a sefydliadau eraill sy’n dadansoddi materion yn ymwneud â chostau byw, ac mae rhai ohonynt yn darparu gwybodaeth am Gymru, yn ogystal â’r DU. Mae’r rhain yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Sefydliad Bevan, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Resolution Foundation, a Sefydliad Joseph Rowntree.

Effaith ar fusnesau

Mae costau byw cynyddol yn effeithio ar fusnesau hefyd, gyda llawer ohonynt yn dweud bod rhaid iddynt amsugno costau neu basio cynnydd mewn prisiau ymlaen i gwsmeriaid.

Bob pythefnos, mae’r SYG yn rhyddhau bwletin newydd ar Fewnwelediadau Busnes ac Effeithiau ar yr Economi, gan ddefnyddio data o’r Arolwg Mewnwelediadau ac Amodau Busnes gwirfoddol. Ei nod yw darparu gwybodaeth amser real am faterion sy’n effeithio ar fusnesau ac economi’r DU, gan gynnwys perfformiad ariannol, y gweithlu, masnach, a chadernid busnesau.

Mae’r SYG hefyd wedi rhyddhau dadansoddiad o gynnydd mewn ansolfedd ymysg busnesau a phrisiau ynni uchel.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn disgrifio cymorth ariannol sydd ar gael i helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, gan gynnwys cynlluniau cymorth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â ffynonellau ehangach o gymorth a chyngor. Ceir hefyd dudalen we sy’n dwyn ynghyd adnoddau a chymorth i fusnesau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio erthygl sy’n cyfeirio at ystod o gymorth a gwybodaeth gan y llywodraeth ac eraill ar gyfer yr argyfwng costau byw, ac erthygl ar gymorth sydd ar gael i fusnesau.

Asesu cynlluniau cymorth

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad dosbarthiadol o’i hymateb i’r argyfwng costau byw, gan archwilio effaith tri pholisi i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ar incwm aelwydydd. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn darparu dadansoddiadau a phapurau briffio ar effaith polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Ar lefel y DU, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Resolution Foundation a Sefydliad Joseph Rowntree i gyd yn darparu dadansoddiadau o gynlluniau Llywodraeth y DU.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd