Mae heddiw’n garreg filltir bwysig wrth ryddhau data Cyfrifiad 2021. Ar 28 Mehefin, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gymru. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd. Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys amcangyfrifon aelwydydd, a gwybodaeth am ddwysedd y boblogaeth.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, amcangyfrifwyd mai maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,500, y boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli twf poblogaeth o tua 1.4% ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, neu gynnydd o tua 44,000 o bobl. Yn ystod yr un cyfnod, amcangyfrifir bod y boblogaeth yn Lloegr wedi tyfu tua 6.6%, bron i 3.5 miliwn (mwy na maint y boblogaeth yng Nghymru!).
Mae’r data a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu bod twf y boblogaeth yng Nghymru yn arafu. Rhwng y cyfrifiadau yn 2001 a 2011, tyfodd y boblogaeth tua 5.5%, neu ychydig dros 160,000. Amcangyfrifir hefyd bod cyfradd twf y boblogaeth wedi arafu yn Lloegr, ond i raddau llai nag yng Nghymru. Yn Lloegr, roedd twf y boblogaeth yn 7.9% rhwng 2001 a 2011, gan arafu i 6.6% rhwng 2011 a 2021.
Er yr amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi tyfu yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru, amcangyfrifir bod gan nifer o awdurdodau lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y boblogaeth wedi gostwng fwyaf ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%). Ar y llaw arall, amcangyfrifir bod twf y boblogaeth ar ei uchaf mewn awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru. Yr awdurdodau lleol a welodd y cyfraddau uchaf o gynnydd yn y boblogaeth ers 2011 oedd Casnewydd (9.5%), Caerdydd (4.7%), a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5%).
Felly, beth sydd y tu ôl i’r newidiadau hyn yn y twf yn y boblogaeth? Mae data’r SYG yn dweud wrthym fod 321,000 o enedigaethau byw a 332,000 o farwolaethau wedi’u cofrestru yng Nghymru o fis Ebrill 2011 tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Mae hyn yn ostyngiad cyffredinol o tua 11,000 o breswylwyr arferol. Mae’r twf amcangyfrifedig yn y boblogaeth ers 2011 yn deillio o fudo net positif (tua 55,000 o drigolion arferol) i Gymru. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a symudiadau o fewn y Deyrnas Unedig.
Sut mae hyn yn cymharu ag amcangyfrifon eraill o’r boblogaeth?
Gwelwyd cyfradd ymateb gwych i’r cyfrifiad. Cynhaliodd yr SYG broses sicrhau ansawdd cynhwysfawr, gan gynnwys awdurdodau lleol am y tro cyntaf. Fodd bynnag, efallai y bydd rhywfaint o’r data a gyhoeddir heddiw yn annisgwyl i rai pobl. Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd gan yr SYG yn awgrymu y bu twf yn y boblogaeth ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ers Cyfrifiad 2011, ac eithrio yng Ngheredigion.
Bydd nifer o resymau pam mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn edrych yn wahanol. Un rheswm yw y gallai newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu sut yr effeithiodd y pandemig ar ddewis pobl o breswylfa arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai’r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai ac yn fwy hirdymor i eraill. Nid yw’n glir chwaith sut mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi effeithio ar newid yn y boblogaeth yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod yr amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf o’r boblogaeth gan yr SYG yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011. Daw’r amcangyfrifon yn fwyfwy ansicr dros amser wrth i ni symud ymhellach i ffwrdd o linell sylfaen Cyfrifiad 2011. Felly, mae Cyfrifiad 2021 wedi rhoi cyfle i ni ddiweddaru ein dealltwriaeth o’r boblogaeth fel yr oedd ym mis Mawrth 2021.
Yn ddiweddarach eleni mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi mwy o ddadansoddiadau sy’n cymharu amcangyfrifon poblogaeth y Cyfrifiad â ffynonellau eraill o ddata poblogaeth. Bydd hyn yn cynnwys cymariaethau â’r amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf o’r boblogaeth a’r amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol mwy arbrofol. Bydd yr SYG hefyd yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr hyn y mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn ei olygu i ddiweddaru’r gyfres bresennol o ystadegau poblogaeth ac ymfudo.
Bydd y dadansoddiad hwn yn arbennig o bwysig wrth i’r SYG ymchwilio i ddull newydd o gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth. Nod yr SYG yw darparu ystadegau poblogaeth amlach a mwy amserol, ac hefyd i fynd i’r afael â’r heriau o amcangyfrif y boblogaeth o un cyfrifiad i’r llall. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r SYG ar hyn, yn ogystal â chydweithio i ddeall yn well rhai o’r gwahaniaethau a welwn rhwng amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 a ffynonellau eraill o ddata poblogaeth ar gyfer Cymru.
Beth sy’n dod nesaf o Gyfrifiad 2021?
Mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi crynodebau o bynciau data Cyfrifiad 2021 o fis Hydref eleni. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am bynciau newydd a gasglwyd fel cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a gwasanaeth blaenorol yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, yn ogystal â gwybodaeth am ethnigrwydd a hunaniaeth, iechyd, tai a chyflogaeth, a faint o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg.
Bydd y cyfoeth o ddata a fydd ar gael o Gyfrifiad 2021 yn rhoi darlun manwl i ni o sut beth oedd bywyd yng Nghymru yng nghanol pandemig byd-eang, ac fe’i defnyddir am flynyddoedd i ddod ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Defnyddir y data i helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn gwella ein lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb barodrwydd y cyhoedd yng Nghymru i gymryd rhan yn y cyfrifiad, a gwaith gwych ein cydweithwyr yn yr SYG, gyda chefnogaeth llywodraeth leol a sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Diolch bawb!
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd