Mae’r pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol am y mathau o ddadansoddiadau yr ydym yn eu cynhyrchu, gyda llawer o’n cyhoeddiadau ystadegol arferol yn newid er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newydd neu bynciau o ddiddordeb. I roi ond un enghraifft o hyn, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad newydd yr wythnos hon sy’n edrych ar yr effaith ar ddysgwyr mewn addysg ôl-16.
Rydych yn ymwybodol rwy’n siŵr o’r cynnydd a fu mewn graddau Safon Uwch y llynedd, ond mae llawer mwy yn digwydd mewn addysg ôl-16 na’r hyn sydd yn y penawdau. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad sy’n edrych yn ehangach ar y deilliannau i ddysgwyr. Dyma rai o’r pethau yr ydym wedi ei ddysgu.
Mae’r math o addysg sy’n wynebu disgyblion sy’n gadael Blwyddyn 11 wedi newid
Yn ystod y pandemig, roedd pobl yn gofyn i ni beth sy’n digwydd i ddysgwyr ar ôl Blwyddyn 11. Felly, rydym wedi datblygu ystadegau newydd i weld lle aeth dysgwyr Blwyddyn 11 ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Nid oes newid mawr wedi bod yng nghyfran y dysgwyr o Flwyddyn 11 sy’n mynd ymlaen i addysg ôl-16, ond mae’r hyn y maent yn ei wneud wedi newid.
Yn ystod y pandemig mae mwy o ddysgwyr wedi bod yn dilyn cwrs Safon Uwch ac wedi mynd ymlaen i’r chweched dosbarth. Er hynny, mae mwy o bobl yn gadael neu’n newid rhaglen. Pan fo dysgwyr yn newid rhaglenni, maent yn fwy tebygol o symud i raglen lefel is.

Roedd disgyblion Blwyddyn 11 oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (sy’n dangos anfantais) yn fwy tebygol nag o’r blaen o fynd ymlaen i addysg ôl-16 yn 2021/22. Ond maent hefyd wedi bod yn fwy tebygol o adael addysg.
Yn yr un modd, rydym wedi dechrau tracio beth sy’n digwydd i ddysgwyr AS a dysgwyr galwedigaethol ar ôl iddynt orffen eu rhaglenni. Roedd dysgwyr UG yn fwy tebygol o fynd ymlaen i raglen A2 yn 2021/22 ac roedd dysgwyr galwedigaethol yn fwy tebygol o aros mewn addysg ôl-16.
Mae’n dibynnu ar y math o ddysgu
Nid Safon Uwch yw’r unig fath o addysg ôl-16. Ers dechrau’r pandemig, mae deilliannau wedi bod yn waeth ar gyfer dysgwyr mewn addysg galwedigaethol nad yw’n lefel 3, dysgu oedolion a phrentisiaethau.
Roedd rhai prentisiaid a dysgwyr ar raglenni galwedigaethol wedi profi oedi hir. Cafodd prentisiaeth arferol ei chwblhau 86 o ddiwrnodiau yn hwyr yn 2020/21, dros fis yn hwyrach na chyn y pandemig. Mae dysgwyr wedi bod yn llai tebygol o orffen eu rhaglenni, ac yn llai tebygol o lwyddo i ennill eu prif gymwysterau ar ôl gorffen.

Roedd addysg ôl-16 yn llai cyfartal yn 2020/21
Mae ein dadansoddiad wedi datgelu bod llawer o anghydraddoldebau o ran deilliannau wedi dod i’r amlwg unwaith eto neu wedi ehangu yn 2020/21. Er bod graddau Safon Uwch wedi cynyddu i’r rhan fwyaf o ddysgwyr, fe wnaethant ostwng yn sydyn i ddysgwyr â chefndiroedd ethnig Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig.

Gwelwyd mwy o gynnydd mewn graddau hefyd i ddysgwyr o gefndiroedd llai difreintiedig. O rna y cynnydd mewn graddau Safon Uwch, roedd nifer y dysgwyr a gododd radd yn y 10% o gymdogaethau lleiaf difreintiedig 5 gwaith yn uwch na dysgwyr yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig.
Roedd tueddiadau tebyg ar draws addysg ôl-16. Roedd bwlch o 7 pwynt canran o ran cyflawniad rhwng y cymdogaethau mwyaf difreintiedig a’r rhai lleiaf difreintiedig ar gyfer rhaglenni galwedigaethol lefel 3 llawnamser, bwlch o 6 phwynt ar gyfer prentisiaethau a bwlch o 8 pwynt o ran cyflawniad ar gyfer dysgu oedolion.
Ehangodd bylchau oedran a bylchau rhwng y rhywiau hefyd yn 2020/21. Mae ein hadroddiad llawn yn cynnwys mwy o fanylion am hyn a dadansoddiadau o’r anghydraddoldebau ar draws pob math o ddysgu ôl-16.
Rhagor o wybodaeth
Dim ond cipolwg ar dueddiadau ehangach mewn dysgu ôl-16 y llynedd yw hwn. Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn ar llyw.cymru Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021. Darllenwch yr adroddiad am ragor o gyd-destun i’r tueddiadau hyn, ac i weld canfyddiadau eraill a mwy o fanylder.
Os oes gennych gwestiynau neu adborth, gallwch eu hanfon atom drwy e-bostio ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.