Diweddariad y Prif Ystadegydd: cymharu ystadegau perfformiad y GIG ar draws y DU

Read this page in English

Mae darpariaeth gwasanaethau iechyd wedi’i ddatganoli ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, mae’r ffordd rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG ym mhob gwlad yn amrywio, er mwyn adlewyrchu gwahanol flaenoriaethau polisi ac amgylchiadau pob gwlad. Er bod tebygrwydd yn y mathau o ddata a gesglir, mae gwahaniaethau pwysig hefyd o ran yr hyn sy’n cael ei gynnwys a’r diffiniadau, sy’n golygu’n aml nad yw’n bosib cymharu’r prif ystadegau’n uniongyrchol. Fodd bynnag, deallwn fod diddordeb mawr yn y cymariaethau hyn, felly mae’r erthygl hwn yn ceisio cynnig cyngor ynglŷn â sut i wneud hyn.

Pa effaith mae’r pandemig wedi’i gael ar y GIG?

Cafwyd llawer iawn o ddiddordeb mewn deall sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau iechyd ar draws y DU a’r perfformiad o ran mynd i’r afael â hyn. O ganlyniad, nid yw’n anghyffredin i weld cymariaethau amlwg o’r ystadegau ar gyfer y pedair gwlad mewn erthyglau yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau cyhoeddus, er y gwahaniaethau pwysig mewn methodoleg. Oherwydd bod gwahanol fesurau yn bodoli ym mhob gwlad, nid yw hyn bob amser yn hawdd ei wneud. Un ffordd o ddatrys hyn yw edrych ar faint y cynyddodd y rhestrau aros ym mhob gwlad yn ystod y pandemig. Er y gall manylder yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn ffigurau rhestrau aros pob gwlad amrywio, mae’r dull hwn yn rhoi awgrym bras inni o’r newidiadau cymharol yn y galw am wasanaethau iechyd.

Gan ddefnyddio’r dull hwn, gallwn weld bod yr effaith yn gyffredinol wedi bod yn debyg ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda chynnydd o 55-75% mewn cleifion yn aros am driniaeth. Mae data ar gyfer Gogledd Iwerddon yn awgrymu cynnydd llai yn y rhestrau aros, er y gall hyn fod o ganlyniad i feddygon teulu’n atal atgyfeiriadau ar gyfer rhai afiechydon yn ystod y pandemig.

Os ydyn ni’n dymuno gwneud cymhariaeth fanylach, mae angen inni ddeall mwy am sut y mae’r mesurau’n wahanol ym mhob gwlad a beth yw effaith hyn ar y gallu i gymharu. Fel arall, rydym mewn peryg o beidio cymharu tebyg gyda thebyg.

Ar draws y pedair gwlad, mae data ar gael yn ymwneud ag ystod eang o weithgarwch y GIG gan gynnwys rhestrau aros am driniaeth, gofal mewn argyfwng a gwasanaethau canser. Yn yr erthygl hon rydym yn canolbwyntio ar yr ystadegau’n ymwneud â rhestrau aros, a elwir yn atgyfeiriadau at lwybrau triniaeth yng Nghymru.

Beth yw’r prif ystadegau am restrau aros a gynhyrchwyd gan bob gwlad?

Mae pob gwlad yn y DU yn cyhoeddi ystadegau ar restrau aros y GIG yn fisol neu’n chwarterol.

Yng Nghymru, ar ddiwedd mis Awst 2022 roedd ychydig dros 755,000 o lwybrau cleifion ar y rhestr aros.

Yn Lloegr, ar ddiwedd mis Medi 2022 roedd 7.1 miliwn o ‘atgyfeiriadau anghyflawn at lwybrau triniaeth’ (cleifion yn aros i ddechrau triniaeth).

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd ystadegau’n cael eu hadrodd ar gyfer cleifion sy’n aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, gwasanaeth diagnostig neu driniaeth. Nid yw gwybodaeth am apwyntiadau cleifion allanol dilynol yn cael eu hadrodd, yn wahanol i’r data ar gyfer Cymru a Lloegr. Ym mis Mehefin 2022, roedd oddeutu 748,000 o’r cleifion hyn yn aros yn yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd oddeutu 672,000 o gleifion yn aros yn y categorïau cleifion allanol, diagnostig a thriniaeth ym mis Mehefin 2022. Fodd bynnag, gwyddom fod hyn yn cynnwys peth dyblygu, sy’n golygu y gall y gwir ffigur fod yn is.

Ym mhob achos, y llwybrau neu’r atgyfeiriadau sy’n cael eu cyfrif, ac nid cleifion unigol, oherwydd gall un claf fod ag amryw o lwybrau ar agor ar unwaith. Mae disgrifiad manylach o’r gwahaniaeth rhwng llwybrau a chleifion yng Nghymru yn y blog ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG‘.

A yw’n bosib cymharu’r prif ystadegau hyn? Pa gymariaethau allwn ni eu gwneud?

Oherwydd nad yw ystadegau Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cynnwys pob cam o’r llwybrau cleifion fel yng Nghymru a Lloegr, nid yw’n bosibl cymharu’r prif ystadegau’n uniongyrchol o ran nifer y cleifion sy’n aros ar draws y pedair gwlad.

Mae mesurau Cymru a Lloegr ar gyfer y cyfanswm ar y rhestrau aros yn ymddangos yn llawer agosach. Fodd bynnag, o fewn y mesurau hyn mae rhai gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddwy wlad.

Mae’r prif wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn ymwneud â rhai mathau o ddiagnosteg a therapïau. Yn Lloegr, dim ond llwybrau ‘dan arweiniad meddyg ymgynghorol’ sy’n cael eu hadrodd, ond yng Nghymru bydd rhai llwybrau eraill yn cael eu cyfrif hefyd. Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o’r llwybrau hyn yng Nghymru’n syrthio i ddau grŵp: diagnosteg mynediad uniongyrchol a therapïau Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (er enghraifft ffisiotherapi, osteopatheg). Rydym yn amcangyfrif bod y rhain yn cyfrif am o leiaf 88,000 o’r 755,000 o lwybrau agored ym mis Awst 2022. Mae hyn yn seiliedig ar y math o weithgarwch yr ydym wedi gallu eu hadnabod, ond gall yr union nifer fod yn uwch.

Os byddwn ni’n dileu’r 88,000 o lwybrau hyn o’r cyfanswm o lwybrau agored ar gyfer Cymru, mae hynny’n gadael oddeutu 666,000 o lwybrau agored. Yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ar hyn o bryd, byddai hwn yn fesur y gellir ei gymharu’n well â Lloegr na’n prif ystadegyn rheolaidd (er fel y nodwyd, efallai bod mwy na’r 88,000 o lwybrau nad ydynt dan arweiniad meddyg ymgynghorol, ond nad ydym wedi’u hadnabod eto). Ar gyfer Cymru byddai hyn yn cyd-fynd ag oddeutu 21% o’r boblogaeth, neu un llwybr agored am bob 5 o bobl. Mae’r 7.1 miliwn o lwybrau yn Lloegr yn cyd-fynd ag 13% o’r boblogaeth, neu un llwybr am bob 8 o bobl.

Rydym wedi dangos y ffigurau hyn yma gan fod y cyfraddau’n helpu i roi cyd-destun a chynorthwyo gyda rhoi cymhariaeth. Ond mae’n bwysig cofio mai cyfrif o’r llwybrau ar gyfer Cymru a Lloegr yw hyn, ac nid cyfrif o’r cleifion unigol. Gall un claf fod ag amryw o lwybrau ar agor ar unwaith, felly nid yw’n wir i ddweud, er enghraifft, fod un o bob 5 o bobl yng Nghymru’n aros am driniaeth.

Beth rydyn ni’n ei wneud i gael gwell dealltwriaeth

Bydd gwahaniaethau pellach o ran yr hyn sy’n cael ei gynnwys a diffiniadau rhwng y gwledydd na allwn eto eu mesur yn hyderus. Fodd bynnag, mae’r rhain yn debygol o fod ar raddfa lai na’r therapïau a diagnosteg sydd wedi’u disgrifio yn yr erthygl hon. Bydd rhai enghreifftiau lle bydd mwy o bethau’n cael eu cynnwys yn Lloegr, ac enghreifftiau eraill lle bydd mwy yn cael eu cynnwys yng Nghymru, ond maent yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar y cyfansymiau.

Oherwydd y bydd diddordeb mawr o hyd yn yr ystadegau ar weithgarwch a pherfformiad y GIG ar draws y DU, rydym yn bwriadu parhau i edrych ar y gwahaniaethau hyn. Bydd hyn yn cynnwys gwneud gwaith manylach ar amseroedd aros, ond hefyd ar elfennau eraill o weithgarwch a pherfformiad y GIG fel gofal mewn argyfwng.

Rydym yn gweithio ar draws y DU gyda chydweithwyr o bob un o’r pedair gwlad i ganfod a chyfathrebu unrhyw wahaniaethau’n well, a’ch cefnogi i wneud cymariaethau mwy ystyrlon. Dros amser byddwn yn rhoi diweddariadau pellach ar y blog hwn wrth inni ddysgu mwy.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd