Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG

Wedi’i ddiweddaru ar 21 Gorffennaf 2022 i gynnwys gwybodaeth ar ddata newydd.

Read this page in English

Cyhoeddwyd y nodyn blog hwn ym mis Mawrth 2022 yn wreiddiol i esbonio sut rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG. Mae’r  nodyn wedi’i ddiweddaru heddiw i gynnwys datblygiadau newydd ar mesur y nifer o gleifion sy’n aros am driniaeth.

Cefndir

Bob mis rydym yn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ynghylch gweithgarwch a pherfformiad y GIG. Bu diddordeb cynyddol yn yr ystadegau hyn dros y blynyddoedd diweddar, o ystyried effaith bellgyrhaeddol y pandemig. Nod y blog hwn yw darparu rhagor o gyd-destun i’r prif gysyniadau fel bod ein hystadegau’n cael eu deall yn eang a’u defnyddio’n briodol.

Mae’r datganiad ystadegol yn crynhoi lefelau gweithgarwch gwasanaethau’r GIG yn ystod y mis diweddaraf sydd ar gael. Mae hefyd yn adrodd yn ôl targedau perfformiad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cyflenwi data ar gyfer y datganiad hwn.

Yr hyn y mae’r data’n ei fesur 

Fel rheol, mae’r data a gofnodir yn cyfrif sawl gwaith y caiff un o wasanaethau’r GIG ei ddefnyddio. Camsyniad cyffredin yw eu bod yn cyfrif nifer y cleifion a ddefnyddiodd y gwasanaeth.

Yn ymarferol, golyga hyn ein bod yn adrodd ar nifer y canlynol:

  • y galwadau a wnaed i’r gwasanaeth ambiwlans, nid nifer y bobl a alwodd y gwasanaeth ambiwlans
  • derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, nid nifer y bobl a fu’n bresennol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys
  • atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, nid nifer y bobl a atgyfeiriwyd
  • llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig neu therapïau, nid nifer y bobl sy’n aros
  • llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, nid nifer y bobl sy’n aros

Pam y mae defnyddio’r termau hyn o bwys

Er y gall ymddangos bod termau fel ‘llwybrau cleifion’ a ‘cleifion’ gyfystyr â’i gilydd, y gwahaniaeth allweddol yw y gallai’r un claf ddefnyddio gwasanaethau’r GIG sawl gwaith. Unwaith yn unig y bydd claf unigol yn cael ei gyfrif wrth fesur cleifion, ond gall gael ei gyfrif sawl gwaith wrth fesur llwybr cleifion. Mae egwyddorion tebyg yn gymwys i alwadau am ambiwlans, derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac atgyfeiriadau.

Golyga hyn fod nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau’r GIG bob amser yn is na nifer y llwybrau cleifion sydd ar agor. O ganlyniad, mae defnyddio mesuriadau fel llwybrau cleifion yn caniatáu inni fesur gweithgarwch y GIG yn gyfan mewn modd na fyddai cyfrif “cleifion” yn unig yn ei ganiatáu.

Hyd at yn ddiweddar iawn, mae’r data sydd gennym  fynediad at yn Llywodreaeth Cymru wedi bod ar lefel llwybrau yn unig, ac felly nid yw wedi bod yn bosib i fesur gweithgarwch yn seiliedig ar gleifion. Fodd bynnag, mae gwybodaeth rheoli newydd yn awgrymu ym mis Mawrth 200, pan roedd yna dros 701,000 o lwybrau cleifion ar agor, roedd yna 544,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru. Mae hyn yn seiliedig ar ddull newydd ac mae yna ychydig o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrifiad, felly rydym yn gweithio i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data yn gwella’r potensial am ddadansoddiadau pellach. Yn y cyfamser, gan ystyried y diddordeb mewn deal y nifer o gleifion ar restrau aros, credwn ei fodd yn rhoi cyd-destun defnyddiol a phwysig ochr yn ochr â’r prif ffigurau ar lwybrau cleifion.

Ar gyfer gwasanaethau canser, lle mae’r broses newydd ar gyfer casglu data ynghylch llwybrau lle’r amheuir canser yn galluogi dadansoddiadau ar lefel cleifion, mae’r darlun yn eithaf gwahanol. Mae’n dangos bod nifer y llwybrau cleifion a agorir mewn mis dim ond 2% i 3% yn uwch na nifer y cleifion yr agorwyd llwybrau iddynt. Gan mai diben y datganiad hwn yw mesur gweithgarwch a pherfformiad gwasanaethau’r GIG mewn mis penodol, ‘llwybrau cleifion’ yw’r mesuriad mwyaf priodol i’w ddefnyddio o hyd.

Sut y mae llwybrau cleifion yn gweithio

Bydd llwybr claf yn agor pan fydd yr ysbyty’n cael atgyfeiriad. Bydd amser aros y claf yn dechrau ar yr adeg honno. Meddygon teulu sy’n cyflwyno atgyfeiriadau gan amlaf, ond gallant hefyd ddeillio o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gall cleifion sydd ag anghenion cymhleth fod ag atgyfeiriadau ar gyfer sawl math o driniaeth, ac felly gall nifer o lwybrau fod wedi’u hagor ar eu cyfer. Y prif ddull o fesur gweithgarwch o ran yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yw cyfrif nifer y llwybrau cleifion sydd ar agor ar ddiwedd bob mis. Dyma’r ‘rhestr aros’ i bob pwrpas. 

Caiff perfformiad yn erbyn y ddau darged perfformiad o ran yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ei fesur drwy gyfrifo:

  • canran y llwybrau lle’r oedd yr amser aros yn llai na 26 wythnos
  • nifer yr amseroedd aros a oedd yn hwy na 36 wythnos mewn mis penodol

Os oes mwy nag un atgyfeiriad mewn perthynas â chlaf, bydd y claf yn ymddangos yn y set ddata fwy nag unwaith. Golyga hyn y gellir cyfrif llwybrau gwahanol ar gyfer yr un claf wrth gyfrifo’r ddau darged.

Caiff llwybr claf ei gau os bydd y claf yn dechrau’r driniaeth, neu os nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymgynghoriad ag arbenigwr ysbyty. Gallai hyn gynnwys:

  • claf a gaiff ei dderbyn i’r ysbyty ar gyfer llawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth nad oes angen aros yn yr ysbyty ar ei chyfer (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol fel brês coes
  • dechrau cyfnod y cytunwyd arno ar gyfer monitro cyflwr y claf i asesu’r angen am driniaeth bellach

Gellir ystyried y data ynghylch llwybrau cleifion a gaewyd yn y datganiad ystadegol yn fesuriad o’r ‘atgyfeiriadau a gwblhawyd’. Achosion yw’r rhain y mae cleifion wedi cael y gwasanaeth y cawsant eu hatgyfeirio ar ei gyfer.

Mewn geiriau eraill:

  • mae llwybrau agored yn cyfrif rhestrau aros ar gyfer pob triniaeth
  • mae llwybrau a gaewyd yn cyfrif nifer y llwybrau sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros

Er mwyn i’r rhestr aros leihau, rhaid i nifer y llwybrau a gaewyd mewn mis fod yn fwy na nifer y llwybrau newydd a ychwanegwyd at y rhestr aros yn yr un mis.

Sut y mae hyn yn cymharu â gwledydd eraill y DU  

Mae pob un o bedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amryw o ystadegau perfformiad a gweithgarwch y GIG. Ni ellir cymharu ystadegau’r gwledydd â’i gilydd yn union. Mae’r dulliau o gasglu data’n amrywio ar draws y DU gan eu bod yn tracio targedau perfformiad sydd wedi datblygu ar gyfer pob gwlad. Fodd bynnag, mae pob gwlad yn mesur y cysyniad o lwybrau cleifion yn hytrach na chleifion.

Mae ystadegwyr ym mhob un o wledydd y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Mae’r grŵp yn edrych ar draws yr ystadegau iechyd a gyhoeddwyd, yn arbennig amseroedd aros, ac yn llunio cymhariaeth o’r canlynol:

  • yr hun a fesurir ym mhob gwlad
  • sut y mae’r ystadegau’n debyg i’w gilydd
  • ble y mae gwahaniaethau allweddol rhyngddynt

Mae’r wybodaeth hon ar gael drwy wefan Gwasanaeth Ystadegol Llywodraeth y DU ac mae’n faes gwaith yr ydym yn bwriadu ei ailgychwyn cyn bo hir.

Rhagor o wybodaeth

Mae adroddiadau ansawdd yn darparu rhagor o wybodaeth am bob maes pwnc yn y datganiad ystadegol. 

Gwasanaethau ambiwlans: adroddiad ansawdd

Yr amser a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys: adroddiad ansawdd

Atgyfeiriadau cleifion allanol: adroddiad ansawdd

Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi: adroddiad ansawdd

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth: adroddiad ansawdd

Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd