Yn gynnar yn ystod pandemig COVID-19, roedd llif ddi-dor o gwestiynau manwl am gyfansoddiad yr economi a’r farchnad lafur yng Nghymru yn codi.
Parhau i ddarllenArchifau Categori: Prif Ystadegydd
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: pa gyfran o bobl sydd wedi cael eu brechu yng Nghymru?
Pa ganran o bobl dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu rhag COVID-19 yng Nghymru? Faint o bobl ifanc 30 i 39 oed sydd heb dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru? Gellir ateb y cwestiynau hyn a chwestiynau tebyg mewn gwahanol ffyrdd.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall safbwyntiau a bywydau pobl yn ystod y pandemig
Arolwg Cenedlaethol Cymru yw’r prif arolwg cymdeithasol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, ac mewn cyfnodau arferol bydd pobl yn cael eu cyfweld yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r arolwg yn ymdrin â sawl pwnc, o iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ysgolion, gwasanaethau’r cyngor, a barn am yr ardal leol.
Parhau i ddarllenDangosyddion Cenedlaethol: beth mae’r pandemig wedi ei ddysgu i ni am sut rydym yn mesur llesiant?
Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig. O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: cynlluniau ar gyfer ystadegau brechu COVID-19
Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd, mae’n siŵr y bydd y ffaith fod y rhaglen frechu ar y gweill yn belydr o obaith i lawer. Yn sgil hyn, mae cryn ddiddordeb yn hynt y broses, a llawer o bobl eisiau gwybod pryd y byddant hwy neu aelodau o’u teulu yn cael brechiad (os nad ydynt wedi cael un eisoes). Yn y blog hwn, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan epidemiolegwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym am nodi’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld mewn data brechu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Parhau i ddarllenYstadegau addysg trawsbynciol ac ôl-16 yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)
Bydd ein cyhoeddiadau ystadegol ar gyfer gwanwyn 2021 ar addysg ôl-16 yn ystod 2019/20 yn wahanol i gyhoeddiadau’r blynyddoedd blaenorol. Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n drwm ar sawl agwedd ar ein cymdeithas, yn enwedig addysg. Amharwyd ar ddysgu yn dilyn y cyfnod clo ym mis Mawrth a chanslwyd cyfres arholiadau’r haf. Mae’r newidiadau mawr hyn yn effeithio ar ein hadroddiadau ac rydym am gael eich adborth ar ein dull gweithredu arfaethedig.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: diwallu anghenion defnyddwyr yn ystod pandemig
Dyma fy mlog cyntaf fel Prif Ystadegydd interim i Gymru. Mae cymryd yr awenau yn ystod cyfnod y pandemig wedi bod yn heriol, roedd hynny’n anochel, gyda galw enfawr am ystadegau a thystiolaeth mor uchel eu proffil.
Sut mae MALlC 2019 yn ein helpu i dynnu sylw at anghydraddoldeb, flwyddyn yn ddiweddarach
Flwyddyn yn ôl, ar 27 Tachwedd 2019, cyhoeddwyd chweched rhifyn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: rhai myfyrdodau olaf fel Prif Ystadegydd
Heddiw yw fy niwrnod olaf fel y Prif Ystadegydd ar ôl bron i ddeng mlynedd yn y swydd (gan ddibynnu ar sut rydych chi’n diffinio fy nyddiad dechrau, pethau pwysig i ni ym myd data wrth gwrs).
Diweddariad y Prif Ystadegydd: Arolwg Masnach Cymru
Ysgrifennais mewn blog blaenorol am ein cynlluniau ar gyfer arolwg masnach peilot dros Gymru. Mae’r peilot bellach wedi’i gwblhau a chyhoeddir y canlyniadau heddiw. Parhau i ddarllen