Ar y 5ed o Fedi, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, am y tro cyntaf, amcangyfrifon GDP tymor byr ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Yn y blog hwn, rydym yn esbonio beth mae’r data’n ei ddangos a beth maen nhw’n ei olygu i ddata eraill o Gymru.
Parhau i ddarllen
Archifau Categori: Data
Data Agored – Rydyn ni eich angen chi!

Mae’r cysyniad o Ddata Agored yn bodoli ers nifer o flynyddoedd ac er bod gwell dealltwriaeth bellach o’r hyn ydyw a sut y gellir ei ddefnyddio, mae cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn dal i wynebu heriau wrth gyhoeddi eu data yn agored.
Gweithio’n fwy agored – pennod newydd
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae trethi’n cael eu gwario yng Nghymru? Ydych chi erioed wedi tybio sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, neu sut mae Cyfraith Cymru yn cael ei datblygu? Os felly, efallai y bydd ein hymrwymiadau llywodraeth agored diweddaraf o ddiddordeb ichi.

Mapio ein ffordd at ddata mwy hygyrch
Mae gwerth data yn gwbl amlwg ers blynyddoedd – hyd yn oed mewn ffuglen. Yn 1892, dywedodd Sherlock Holmes:
“It is a capital mistake to theorize before one has data. Insensibly one begins to twist facts to suit theories, instead of theories to suit facts.”
Gweithio’n fwy agored – I ba raddau ydyn ni wedi llwyddo?
Ychydig dros 2 flynedd yn ôl, cyhoeddwyd ein set gyntaf o ymrwymiadau llywodraeth agored. Gan fod y gwaith yn mynd rhagddo ar y set nesaf, roedden ni’n meddwl y dylen ni roi gwybod ichi beth rydyn ni wedi ei gyflawni. Parhau i ddarllen
Agor ein data gweithlu sector cyhoeddus
Mae mwy na 300,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i’r sector cyhoeddus, sef tua 22.3% o’r swyddi yng Nghymru. Er hyn, nid ydyn ni’n gwybod llawer am nodweddion y bobl sy’n perthyn i weithlu’r sector cyhoeddus na’r ffordd y mae’n newid. Parhau i ddarllen
Oes modd inni ei gysylltu?……..oes gobeithio
Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o werth cyhoeddus data a’r ffordd y gallwn ni wneud y gorau ohono yw trwy ei gysylltu a’i rannu. Er enghraifft os bydd awdurdodau lleol yn cysylltu data ar draws gwahanol wasanaethau gall eu helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng gwasanaethau ac efallai deall mwy am sut y gellir defnyddio atal i gefnogi canlyniadau gwell i bobl. Parhau i ddarllen
Beth yw ‘Prentis Digidol’?
Ym mis Tachwedd fe groesawon ni ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol. Mae’r pedwar mis cyntaf wedi hedfan a phenderfynon ni dal lan gyda’r prentisiaid i ffeindio allan bach fwy amdanynt ac i weld beth maent yn feddwl o’r profiad hyd hyn. Felly, wna’i basio draw at ein ‘Digi squad’ am fwy.
Cwestiynau Cyflym i’n Datblygwr Newydd
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd blog oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio i rolau Digidol, Data a Thechnoleg ac yn sôn am ein dymuniad i gynyddu ein sgiliau a’n gallu mewnol yn y meysydd hyn. Fel rhan o’r broses recriwtio ddiweddar hon, rydym wedi cyflogi Datblygwr newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol, ac rydym yn hynod gyffrous i’w groesawu i’r sefydliad. Felly, pa ffordd well o ddod i’w adnabod na gofyn iddo ateb cyfres o gwestiynau cyflym?
Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi, ond os oes gennych set benodol iawn o sgiliau byddwn yn dod o hyd i chi…
Efallai i chi sylwi’n ddiweddar ar ffrwd Twitter y Prif Swyddog Digidol (ac os na, dylech ein dilyn ar @cdocymru) ein bod wedi dechrau hysbysebu am arbenigwyr digidol, data a thechnoleg. Gan y bydd nifer o ymarferion recriwtio dros y misoedd nesaf, fe benderfynom ysgrifennu blog i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein rhesymau dros recriwtio a’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig. Parhau i ddarllen