Yn fy niweddariad ar 23 Mawrth 2020, amlinellwyd sut yr oeddem yn bwriadu adolygu ein casgliadau data, ein gweithgarwch ymchwil a’n hallbynnau arfaethedig yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae hyn wedi’i wneud er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i’r sefyllfa bresennol – o safbwynt ein hadnoddau ein hunain o fewn Llywodraeth Cymru, ond yr un mor bwysig hefyd adnoddau ein darparwyr data sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r nodyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau.
Archif Awdur: Chief Statistician
Diweddariad y Prif Ystadegydd: esbonio ffynonellau data marwolaethau COVID-19 ar gyfer Cymru
Yn y blog hwn dw i am geisio helpu i roi dealltwriaeth o’r gwahanol ffynonellau o ddata ar farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru. Mae llawer o graffu cyhoeddus wedi bod ar y ffigurau hyn dros yr wythnos diwetha’, ac rydyn ni heddiw wedi cyhoeddi, am y tro cynta’, gyfanswm y marwolaethau sydd wedi bod mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros gyfnod yr haint.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol
Mae ystadegwyr ac ymchwilwyr o fewn Llywodraeth Cymru yn casglu, dadansoddi ac yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ac adroddiadau ymchwil i helpu’r Llywodraeth, busnes a’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2018
Ym mis Hydref, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn mynd i ohirio’r amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2017. Roedd ein blog blaenorol yn disgrifio’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad hwnnw, a chyhoeddwyd hefyd nodyn byr yn disgrifio’r heriau a gawsom gyda’r gwaith.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: dod yn fuan, data newydd ar gyfer deall meysydd o amddifadedd yng Nghymru
Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. Bydd hyn yn set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.
Mae bwlch o bum mlynedd ers MALIC 2014. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cyffrous o ran data, ynghyd â gwelliannau i dechnegau. Gall y rhain ein helpu â’r cyfrifon cymhleth sydd eu hangen.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gohirio amcanestyniadau is-genedlaethol poblogaeth a thai sail-2017
O blith y setiau gwybodaeth yr ydym yn eu llunio, ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol yw un o’r rhai a ddefnyddir fwyaf. Mae’r amcanestyniadau yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd i’r boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio hynny i ragweld tueddiadau’r dyfodol. Maent yn cael eu defnyddio i helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol (er enghraifft, i gynllunio tai, ysgolion, meithrinfeydd a gwasanaethau cymdeithasol), ac maent o gymorth hefyd er mwyn helpu i ddosbarthu arian hefyd. Nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiadau gwleidyddol nac economaidd a allai ddigwydd yn y dyfodol (er enghraifft, Brexit).
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: a all ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr?
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae awdurdodau lleol yn gwario oddeutu chwarter o’u cyllid ar y gwasanaethau hyn. Yn ystod y flwyddyn 2017-18, rhoddwyd gwasanaethau i dros 75,000 o oedolion drwy gynllun gofal a chymorth, a chafodd bron i 50,000 o blant eu hasesu i weld a oedd angen gofal a chymorth arnynt.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: datblygu arolwg masnach i Gymru
Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi‘ Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau ffyniant i bawb drwy gefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth ac yn gwella ein llesiant. Er mwyn darparu cymorth effeithiol i economi Cymru mae’n bwysig deall gweithgaredd busnes cyfredol yng Nghymru … Faint o bobl mae busnesau yn eu cyflogi? Pa mor fawr yw eu trosiant? Beth maen nhw’n ei brynu a’i werthu? Gyda phwy maen nhw’n masnachu? Ydyn nhw’n masnachu gyda gwledydd eraill?
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: trafodaeth am ddata ar y Gymraeg sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Cafodd canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar y Gymraeg eu cyhoeddi gennym heddiw ar ein gwefan StatsCymru. Rydym wedi bod yn cyhoeddi’r data hyn ers cryn amser, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu mwy o ddiddordeb yn y data gan ddefnyddwyr. Y rheswm am hynny yw’r cynnydd graddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg a awgrymwyd gan y data, a Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, sef Cymraeg 2050, sy’n cynnwys y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwella ein gwefan ar gyfer defnyddwyr ystadegau ac ymchwil

I lawer ohonoch sydd eisiau ystadegau neu ymchwil, ein gwefan LLYW.CYMRU yw’r lle y byddwch yn mynd i gael yr wybodaeth honno. Yn wir, mae dros 30,000 ohonoch yn edrych ar ein tudalennau bob blwyddyn i ganfod y data a’r wybodaeth yr ydych eu heisiau, sy’n golygu ei bod yn un o’r mannau sy’n cael ei defnyddio fwyaf ar safle Llywodraeth Cymru.