Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: a all ein hystadegau gwasanaethau cymdeithasol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr?

Read this blog in English

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae awdurdodau lleol yn gwario oddeutu chwarter o’u cyllid ar y gwasanaethau hyn. Yn ystod y flwyddyn 2017-18, rhoddwyd gwasanaethau i dros 75,000 o oedolion drwy gynllun gofal a chymorth, a chafodd bron i 50,000 o blant eu hasesu i weld a oedd angen gofal a chymorth arnynt.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: datblygu arolwg masnach i Gymru

Read this blog in English

Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi‘ Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau ffyniant i bawb drwy gefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth ac yn gwella ein llesiant. Er mwyn darparu cymorth effeithiol i economi Cymru mae’n bwysig deall gweithgaredd busnes cyfredol yng Nghymru … Faint o bobl mae busnesau yn eu cyflogi? Pa mor fawr yw eu trosiant? Beth maen nhw’n ei brynu a’i werthu? Gyda phwy maen nhw’n masnachu? Ydyn nhw’n masnachu gyda gwledydd eraill?

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: trafodaeth am ddata ar y Gymraeg sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Read this blog in English

Cafodd canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar y Gymraeg eu cyhoeddi gennym heddiw ar ein gwefan StatsCymru. Rydym wedi bod yn cyhoeddi’r data hyn ers cryn amser, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu mwy o ddiddordeb yn y data gan ddefnyddwyr. Y rheswm am hynny yw’r cynnydd graddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg a awgrymwyd gan y data, a Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, sef  Cymraeg 2050, sy’n cynnwys y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwella ein gwefan ar gyfer defnyddwyr ystadegau ac ymchwil

Read this blog in English

firstimage cy

I lawer ohonoch sydd eisiau ystadegau neu ymchwil, ein gwefan LLYW.CYMRU yw’r lle y byddwch yn mynd i gael yr wybodaeth honno. Yn wir, mae dros 30,000 ohonoch yn edrych ar ein tudalennau bob blwyddyn i ganfod y data a’r wybodaeth yr ydych eu heisiau, sy’n golygu ei bod yn un o’r mannau sy’n cael ei defnyddio fwyaf ar safle Llywodraeth Cymru.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Mesur Llesiant Cymru a chynlluniau adrodd y dyfodol

Read this blog in English

CapturecyAr 20 Medi, cyhoeddais ail adroddiad Llesiant Cymru 2017-18. Credaf fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd yng Nghymru, gan roi darlun eang o ganlyniadau llesiant megis disgwyliad oes, yr economi, tlodi, bioamrywiaeth a’r celfyddydau. Dyma wybodaeth a ddylai fod yn werthfawr tu hwnt i bobl sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i’w helpu i ddeall ein cenedl a gwneud gwell penderfyniadau.

 

Parhau i ddarllen

Diweddariad y Prif Ystadegydd: Cynlluniau’r dyfodol ar gyfer amcangyfrifon o Angen a Galw am Dai

Read this blog in English

Mae amcangyfrifon o’r angen a’r galw am dai ychwanegol yn allweddol i gynllunio at y dyfodol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Er bod ystadegwyr yn paratoi diweddariadau rheolaidd i amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd, mae cymhwyso’r rhain i’r angen am dai ychwanegol yn fater cymhleth a allai arwain at oblygiadau pwysig i gymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

Parhau i ddarllen

Diweddariad y Prif Ystadegydd: Mudo a tai – sut mae’r GSS yn gweithio gyda’i gilydd i wella ystadegau

Read this blog in English

Fel ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ein prif waith yw sicrhau ein bod yn cynhyrchu ystadegau sy’n ein helpu i ddeall pobl, cymdeithas ac economi Cymru. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ledled y DU i sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn rhannu syniadau ar y ffordd orau o ymateb i’r cwestiynau polisi mawr. Drwy gydweithredu gallwn rannu data a dadansoddiadau sy’n rhoi mwy o fewnwelediad i ddefnyddwyr ar bynciau penodol. Gyda hynny mewn golwg yr oeddwn eisiau rhannu dau ddiweddariad o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn yr wythnos diwethaf sydd yn amlygu sut yr ydym yn cydweithio.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Deall newidiadau i ddata addysg

Read this blog in English

Heddiw rydym wedi cyhoeddi canlyniadau terfynol Cyfnod Allweddol 4 2017 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n werth rhoi’r perfformiad cenedlaethol yn ei gyd-destun, boed drwy gymharu Cymru â gwlad arall neu drwy edrych ar dueddiadau dros amser. Gwnaed nifer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i’r ffordd y caiff mesurau perfformiad eu cyfrifo, ac yn y blog hwn rwyf am ddisgrifio effaith y newidiadau hyn ar ein gallu i gymharu. Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: Mesur Llesiant Cymru a y Newyddion diweddaraf am Gyfrifiad 2021

Read this blog in English

Mesur Llesiant Cymru

Llesiant Cymru: Cofnod adroddiadAr 25 Medi, cyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar Lesiant Cymru. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn inni adrodd yn flynyddol ar hynt y gwaith o gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol, gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol.

Roedd yn rhoi darlun o gyflwr llesiant y genedl a’r tueddiadau diweddar. Mae’r prif negeseuon i’w gweld yn y Slideshare hwn ac mae’r adroddiad llawn.

Parhau i ddarllen