Blog gwadd: Beth sydd mewn enw?

Read this page in English

Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn nodi sut mae cyfle gwirioneddol i wasanaethau caffael yn y sector cyhoeddus gefnogi a datblygu busnesau Cymreig a sgiliau digidol.

Dyma’r trydydd flog yn ein cyfres am gaffael. Mae Victoria, aelod o’n tîm cyflenwi yn rhoi diweddariad ar sut mae’r ‘Ganolfan Ragoriaeth Caffael’ yn datblygu ac yn rhannu rhai canfyddiadau am enw posib wrth symud ymlaen.

Ym mis Hydref eleni fe wnaeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyhoeddi fod cyflenwr wedi’i benodi i gefnogi cynllun peilot ar gyfer creu ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael’. Yn ein blog cyntaf buom yn siarad am gefndir y gwaith hwn a’r dull o’i wneud a sut y gall cymunedau masnachol a chaffael yng Nghymru gymryd rhan.

Dewis enw

Un o’n tasgau cyntaf oedd meddwl am yr enw. Mae enwi rhywbeth bob amser yn anodd. Mae fel enwi plentyn. Mae gan bawb ddewisiadau ychydig yn wahanol ac mae gan bawb farn! Felly roedd hi’n bwysig i ni gamu’n ôl i ddilyn proses resymegol a meddwl am y cysyniadau. Ein hystyriaethau cyntaf oedd:

  • Ystyr: Beth mae’r enw’n ei ddweud wrthon ni?
  • Teimlad: Sut mae’n cyd-fynd â mewnwelediad enwi?
  • Manteision ac anfanteision: Beth ddylen ni ei ystyried?

Roedden ni’n gwybod bod angen i ni edrych ar y logisteg wedyn

  • Gwiriadau Tŷ’r Cwmnïau/Nod Masnach: Ydy’r rhain yn glir ac ydy’r enw ar gael?
  • Gwiriadau chwilio ar-lein: Oes unrhyw beth yn dangos? Os felly, beth yw lefel y risg?

Gwybodaeth ac adborth

Roedden ni am gael gwybodaeth ac adborth i ddeall beth fyddai’r enw gorau. Yn ogystal â chanfyddiadau’r Darganfyddiad, dywedodd ein harolwg yng Nghynhadledd Procurex Cymru wrthym fod rhai pobl yn teimlo y gallai’r enw ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael’ gael ei ystyried yn elitaidd, ac nid yn canolbwyntio ar y gymuned. O ystyried bod hyn i gyd yn ymwneud â chymuned, roedden ni am greu enw sy’n fwy cydweithredol a chynhwysol ac sy’n adlewyrchu’r teimlad roedden ni’n ei gael trwy’r adborth.

Detholiad o eiriau o adborth.

Cysyniadau

Roedd yn rhaid i ni hefyd edrych ar yr hyn oedd ar gael yn barod. Doedden ni ddim eisiau enw a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio neu ag ystyr gwahanol yn seiliedig ar ystyron hanesyddol. Roedd adolygiad o’r dirwedd wedi diystyru rhai o’r enwau disgrifiadol a allai fod wedi bod yn cael eu hystyried fel y Gwasanaeth Caffael neu’r Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol. Roedd hyd yn oed y Ganolfan Ragoriaeth Caffael eisoes yn cael ei defnyddio gan Swyddfa Gartref y DU!

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg oedd ein bod am ddod o hyd i enw sy’n arwydd o newid i rywbeth newydd. Symud oddi wrth hen ffyrdd o wneud pethau. Rydyn ni angen iddo adlewyrchu teimlad y gymuned newydd, a bod yn addasadwy i’w ddefnyddio gydag is-benawdau ac is-frandiau.

Cymraeg yn gyntaf

Roedden ni am sicrhau bod y Gymraeg yn arwain yn hytrach nag yn dilyn wrth greu’r gymuned gefnogol newydd hon. Roedden ni am ddod o hyd i enw a fyddai’n gweithio yn y ddwy iaith, ond yn deillio o’r Gymraeg. Brand a grëwyd gyda’r Gymraeg yn greiddiol iddo yn hytrach na’i ôl-ffitio unwaith y gwnaed penderfyniadau.

Roedden ni’n chwilio am air Cymraeg a oedd yn cynrychioli teimladau’r gymuned fasnachol a chaffael, a oedd yn hawdd ei ddweud i’r di-Gymraeg ac nad oedd wedi’i ddefnyddio gan neb arall yn ddiweddar. Ar ôl pori drwy eiriaduron Cymraeg a thesawrws, cytunwyd ar enw roedden ni i gyd yn teimlo oedd yn gweddu:

cyd1
1. a Uniad, cydiad, cyplysiad, cyswllt; undeb, cyfuniad:
a joining, a coupling, junction; union, combination.

Gair cryno, cysyniadol a fyddai’n gweithio’n dda gydag is-bennawd tebyg i ‘Yn dod â chymunedau masnachol a chaffael ynghyd’ / ‘Bringing commercial and procurement communities together’.

Mae hefyd yn addas iawn pan gaiff ei ddefnyddio fel rhagddodiad i ddatblygu is-benawdau o amgylch yr enw, a fydd yn gweithio ar gyfer gofodau cydweithredol y byddwn yn eu creu fel rhan o’r prosiect (mwy am hynny mewn postiadau yn y dyfodol!)

Mae'r ddelwedd hon yn dangos y logo newydd ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Caffael sydd wedi'i henwi'n 'cyd'.

Beth nesaf?

Rydyn ni nawr yn gweithio ar y cysyniadau brandio a fydd yn dod â’r enw yn fyw. Rydyn ni wedi rhannu’r briff a’r cefndir gyda’r dylunydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut fydd ein henw newydd yn edrych fel brand i adlewyrchu ffordd newydd, gydweithredol o weithio ar gyfer cymunedau masnachol a chaffael yng Nghymru.

Victoria