Gwneud defnydd da o brofion defnyddioldeb

Read this page in English

Yn ein blog blaenorol fe wnaethom ni gyflwyno’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i LLYW.CYMRU. Mae deall sut rydych chi, ein defnyddwyr, yn defnyddio’r wefan a’ch barn ar y newidiadau rydym yn eu gwneud yn rhan bwysig o’n gwaith. Gwnawn hyn drwy gynnal profion defnyddioldeb pryd bynnag y bo hynny’n bosib er mwyn ein helpu i nodi unrhyw broblemau’n gynnar a’u datrys cyn iddyn nhw fynd yn rhai rhy ddifrifol. Parhau i ddarllen

Cynhwysiant digidol…… mae lle i wella!

Read this page in English

Delwedd gwirfoddolwyr yn helpu pobl yn y cymuned gyda cyfrifiaduron

Delwedd gan Cymunedau Digidol Cymru

Ni all y mwyafrif helaeth ohonom ddychmygu bywyd heb y rhyngrwyd. Rydym yn dibynnu’n fwyfwy (efallai gormod ar adegau) ar dechnolegau digidol ar gyfer ein gwaith, ein haddysg a’n gweithgareddau hamdden. Er hyn, mae gormod o bobl yn parhau i golli allan ar fanteision y rhyngrwyd, gydag oddeutu 15% o oedolion yng Nghymru all-lein.  Parhau i ddarllen

Gwirfoddoli Cynhwysiant Digidol: Achos y mwnci’n drymio

Read this blog in English

Mae technoleg ddigidol bellach yn rhan o’n bywydau bob dydd, boed hynny’n ddefnyddio ap i brynu tocyn bws neu wneud taliad ar-lein trwy’r banc, mae technoleg ddigidol yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i neud pethau. Ond, dyw hyn ddim yn wir ar gyfer pawb. Mae aelodau o’r gymuned sy ddim yn gallu defnyddio technoleg ac sydd ddim yn meddu ar y sgiliau neu’r hyder i ddefnyddio’r dechnoleg newydd sydd ar gael.

Parhau i ddarllen