Ychydig dros 2 flynedd yn ôl, cyhoeddwyd ein set gyntaf o ymrwymiadau llywodraeth agored. Gan fod y gwaith yn mynd rhagddo ar y set nesaf, roedden ni’n meddwl y dylen ni roi gwybod ichi beth rydyn ni wedi ei gyflawni. Parhau i ddarllen
Archif Awdur: CDO
Diweddariad y Prif Swyddog Digidol: Gweddnewid ein gwasanaeth – yr hanes hyd yma
Ers cyflwyno ein blog digidol a data, rydym wedi cynnwys nifer o brosiectau gwahanol, ond gyda chymaint yn digwydd, dyma benderfynu rhannu rhai o’n straeon llwyddiant a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ambell brosiect newydd cyffrous.
Darparwr Hunaniaeth Addysg Cymru (AWE)
Os ydych chi’n athro neu’n ddysgwr yng Nghymru, mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â Hwb. Ond os nad ydych chi, Hwb yw’r llwyfan ar-lein sy’n darparu mynediad at amrywiaeth eang o offer ac adnoddau ar-lein dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu. Mae Hwb hefyd yn un o raglenni trawsnewid digidol mwyaf Llywodraeth Cymru a dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae camau wedi’u cymryd i drefnu bod yr holl waith sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth yn cael ei wneud yn fewnol. Parhau i ddarllen
Blog gwadd: Torri tir newydd gyda threthi yng Nghymru
Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yw awdurdod trethi newydd Cymru ac mae’n gyfrifol am weinyddu dwy dreth ddatganoledig newydd yng Nghymru. Sefydlwyd yr Awdurdod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ar 18 Hydref 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Rheolwr Gwasanaethau Digidol yr Awdurdod, Sean Melody, yn egluro’r dull gweithredu a ddefnyddiwyd a’r heriau a wynebwyd wrth sefydlu’r Awdurdod, a hynny o safbwynt digidol. Parhau i ddarllen
Agor ein data gweithlu sector cyhoeddus
Mae mwy na 300,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i’r sector cyhoeddus, sef tua 22.3% o’r swyddi yng Nghymru. Er hyn, nid ydyn ni’n gwybod llawer am nodweddion y bobl sy’n perthyn i weithlu’r sector cyhoeddus na’r ffordd y mae’n newid. Parhau i ddarllen
Oes modd inni ei gysylltu?……..oes gobeithio
Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o werth cyhoeddus data a’r ffordd y gallwn ni wneud y gorau ohono yw trwy ei gysylltu a’i rannu. Er enghraifft os bydd awdurdodau lleol yn cysylltu data ar draws gwahanol wasanaethau gall eu helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng gwasanaethau ac efallai deall mwy am sut y gellir defnyddio atal i gefnogi canlyniadau gwell i bobl. Parhau i ddarllen
Dechrau o’r newydd fel rhan o’r Llwybr Carlam Digidol, Data a Thechnoleg
![]()
‘Chi yw’r union fath o arweinydd y bydd ei angen ar y Llywodraeth yn y dyfodol, dylech ymuno â’r Llwybr Carlam’ – dyna’r sylw cwbl annisgwyl a’m sbardunodd i wneud cais i ymuno â Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil.
Beth yw ‘Prentis Digidol’?
Ym mis Tachwedd fe groesawon ni ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol. Mae’r pedwar mis cyntaf wedi hedfan a phenderfynon ni dal lan gyda’r prentisiaid i ffeindio allan bach fwy amdanynt ac i weld beth maent yn feddwl o’r profiad hyd hyn. Felly, wna’i basio draw at ein ‘Digi squad’ am fwy.
Cwestiynau Cyflym i’n Datblygwr Newydd
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd blog oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio i rolau Digidol, Data a Thechnoleg ac yn sôn am ein dymuniad i gynyddu ein sgiliau a’n gallu mewnol yn y meysydd hyn. Fel rhan o’r broses recriwtio ddiweddar hon, rydym wedi cyflogi Datblygwr newydd i’r Tîm Digidol Corfforaethol, ac rydym yn hynod gyffrous i’w groesawu i’r sefydliad. Felly, pa ffordd well o ddod i’w adnabod na gofyn iddo ateb cyfres o gwestiynau cyflym?
Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi, ond os oes gennych set benodol iawn o sgiliau byddwn yn dod o hyd i chi…
Efallai i chi sylwi’n ddiweddar ar ffrwd Twitter y Prif Swyddog Digidol (ac os na, dylech ein dilyn ar @cdocymru) ein bod wedi dechrau hysbysebu am arbenigwyr digidol, data a thechnoleg. Gan y bydd nifer o ymarferion recriwtio dros y misoedd nesaf, fe benderfynom ysgrifennu blog i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein rhesymau dros recriwtio a’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig. Parhau i ddarllen