Hoffech chi chwarae rhan arweiniol yn nyfodol dysgu digidol yng Nghymru?

Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Diwrnod arall, ac un arall o swyddi digidol mwyaf cyffrous yng Nghymru ar gael.

Read this post in English

Y tro hwn, swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Dysgu Digidol, swydd sydd wedi bod yn ganolog i’r gwaith anhygoel rydym wedi’i wneud ar ddysgu digidol yng Nghymru – sydd wedi bod mor bwysig dros y 18 mis diwethaf. Ond yn lle i fi ddweud wrthych pa mor wych yw swydd, meddyliais y byddwn yn gofyn i’r deiliad post blaenorol, Chris Owen, ysgrifennu’r blog gwadd isod yn dweud wrthych chi i gyd amdano.

Gallwch ceisio am swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr, Dysgu Digidol hyd at 19 Hydref 2021.

Parhau i ddarllen

Wythnos UX – Rhoi profiad defnyddwyr yn y sbotolau

Read this page in English

Ym mis Gorffennaf 2021 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei Wythnos UX gyntaf, wythnos o ddigwyddiadau ar bynciau profiad defnyddwyr a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.  Rydyn ni’n gwybod beth rydych chi’n ei feddwl – beth yw profiad defnyddwyr a pham oeddech chi eisiau cynnal digwyddiad wythnos o hyd arno? Gwnaethon ni holi Azul De Pol, sy’n rhan o’n cymuned UX yn Llywodraeth Cymru, i ysgrifennu blog i ddweud mwy wrthon ni…

Parhau i ddarllen

Strategaeth Ddigidol Cymru: Diolch am eich sylwadau

Wedi’i bostio gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Rydym bellach wedi gorffen cyhoeddi’r gyfres o flogiau ar Strategaeth Ddigidol Cymru. Mae’r chwe amcan yn disgrifio ein huchelgais ar gyfer creu Cymru ddigidol, y canlyniadau yr hoffem eu cyflawni a’r camau gweithredu a fydd yn eu gwireddu.

Parhau i ddarllen

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 6 – Sgiliau Digidol

Post gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Read this post in English

Dyma’r pumed mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol; Cenhadaeth 1; Cenhadaeth 2; Cenhadaeth 3; Cenhadaeth 4; Cenhadaeth 5.

Cenhadaeth 6 – Creu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y galluogrwydd a’r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.

Dyma’r olaf yn ein cyfres o flogiau am y cenadaethau yn ein strategaeth ddigidol. Ond nid dyma’r lleiaf o bell ffordd. Mae sgiliau a chymhwysedd digidol yn hanfodol i bob agwedd ar y strategaeth hon, er mwyn datblygu hyder pobl i ddefnyddio technolegau digidol mewn bywyd bob dydd, arwain trawsnewid digidol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella rhagolygon swyddi. Dyna pam mae gwella sgiliau digidol yn sail i’r strategaeth gyfan.

Parhau i ddarllen

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 5 – Cysylltedd Digidol

Postiad gan Lee Waters MS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Read this post in English

Dyma’r chweched mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu’r uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Ceir rhagor o wybodaeth yn y postiadau eraill yn y gyfres: blog rhagarweiniol ; Cenhadaeth 1 ; Cenhadaeth 2 ; Cenhadaeth 3.; Cenhadaeth 4.

Cenhadaeth 5: Cefnogir gwasanaethau gan seilwaith cyflym a dibynadwy

Ym mhob man o’n cwmpas, mae technoleg ddigidol yn sbarduno gwelliannau ym mron pob agwedd ar ein bywydau.  Wrth gwrs, ni all unrhyw ddigideiddio ddigwydd heb y seilwaith sylfaenol sy’n cysylltu ein cyfrifiaduron, ein dyfeisiau a’n gwasanaethau ar-lein.

Mae Covid wedi amlygu’r angen am fwy o gyflymder cysylltedd a mynediad band eang, ac wrth i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol, rydym yn dod yn fwy dibynnol ar wasanaethau digidol ar gyfer gweithio gartref, e-ddysgu, mynychu apwyntiadau meddygon teulu rhithwir, digwyddiadau ar-lein a llawer mwy.  Ers dechrau’r pandemig, mae angen i lawer mwy o bobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein, a bu mwy o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd am wybodaeth a chyngor sydd wedi sbarduno trawsnewid mewn gwasanaethau digidol.

Parhau i ddarllen