Strategaeth Ddigidol i Gymru: mwy o amser i helpu ni wella’r strategaeth

Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Read this post in English

Diolch i bawb am eich diddordeb yn y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru hyd yma.

Byddwn yn cyhoeddi’r blog terfynol (ar sgiliau) yn ddiweddarach yn yr wythnos. Gan fod hyn ychydig yn hwyrach nag yr oeddem yn gobeithio, ac rydyn yn gwybod bod pawb yn brysur iawn, yr ydym yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion ar-lein hyd at 31 Ionawr 2021. Peidiwch â theimlo eich bod wedi cyfyngu i’r cwestiynau ar y ffurflen – rydym hefyd yn croesawu ymatebion drwy’r blwch sylwadau neu’n uniongyrchol. A dechrau sgwrs yw hyn, felly os oes gennych unrhyw farn yn hwyrach na 31 Ionawr ar sut y dylem fod yn datblygu ein dull o ymdrin â digidol yng Nghymru, anfonwch i mewn unrhyw bryd.