Wedi’i bostio gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Rydym bellach wedi gorffen cyhoeddi’r gyfres o flogiau ar Strategaeth Ddigidol Cymru. Mae’r chwe amcan yn disgrifio ein huchelgais ar gyfer creu Cymru ddigidol, y canlyniadau yr hoffem eu cyflawni a’r camau gweithredu a fydd yn eu gwireddu.
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb am yr adborth rydym wedi’i dderbyn drwy’r ffurflen ar-lein ac mewn ymateb i’r blogiau. Mae’r ymatebion rydym wedi’u derbyn a’r trafodaethau yn y digwyddiadau rydym wedi eu mynychu yn tystio i’r ffaith bod llawer o frwdfrydedd ac awydd i fwrw ymlaen â phob agwedd ar yr agenda ddigidol yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio’r holl wybodaeth hon ar gyfer mireinio ac atgyfnerthu’r fersiwn derfynol o’r Strategaeth Ddigidol a’r Cynllun Cyflawni.
Er bod y cyfnod swyddogol ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi dod i ben mae gennym ddiddordeb o hyn mewn clywed eich barn a byddem yn croesawu sylwadau ychwanegol. Gallwch anfon y rhain i’r cyfeiriad e-bost a nodir ar ddiwedd y blog yma.
Ein nod yw cyhoeddi’r Strategaeth Ddigidol a’r Cynllun Cyflawni yn y gwanwyn a byddwn yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf cyn gynted â phosibl. Mwy yn fuan!
E-bost: DDaT@llyw.cymru