Diweddariad y Prif Ystadegydd – Chwefror 2017

Read this blog in English

Llenwi bylchau yn ein gwybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bydd cyllid ar gael ar gyfer rhaglen waith dair blynedd i lenwi’r bwlch yn ein gwybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru.  O ystyried mai Arolwg Eiddo Byw yng Nghymru 2008 oedd y tro diwethaf i ddata cynhwysfawr gael eu casglu ar gyflwr tai yng Nghymru, dyma gam pwysig tuag at lenwi un o’r bylchau mawr mewn tystiolaeth y mae defnyddwyr yn aml yn ei godi gyda mi.

Parhau i ddarllen

Gwirfoddoli Cynhwysiant Digidol: Achos y mwnci’n drymio

Read this blog in English

Mae technoleg ddigidol bellach yn rhan o’n bywydau bob dydd, boed hynny’n ddefnyddio ap i brynu tocyn bws neu wneud taliad ar-lein trwy’r banc, mae technoleg ddigidol yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i neud pethau. Ond, dyw hyn ddim yn wir ar gyfer pawb. Mae aelodau o’r gymuned sy ddim yn gallu defnyddio technoleg ac sydd ddim yn meddu ar y sgiliau neu’r hyder i ddefnyddio’r dechnoleg newydd sydd ar gael.

Parhau i ddarllen

LLYW.CYMRU newydd

Mae miliynau o bobl yn defnyddio’n safle corfforaethol ni bob blwyddyn, ac rydyn ni’n gwybod bod rhai rhannau o’r safle yn anoddach eu defnyddio nag eraill. Rhan o’r rheswm am hynny yw’r swm enfawr o wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gennym ni fel llywodraeth, ond rydyn ni’n gwybod bod lle i wella.

Parhau i ddarllen