Efallai eich bod eisoes wedi dod ar draws Porth-Daear Lle, platfform data agored a ddatblygwyd ar y cyd gan gangen Ddaearyddiaeth a Thechnoleg Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Nod y safle yw gwneud data gofodol yn fwy agored i’r cyhoedd, ateb ceisiadau am ddata a gwasanaethau y byddwn fel arall wedi’u bodloni drwy ddefnyddio prosesau llaw.
Fel y gallwch ddisgwyl, mae’r gynulleidfa hyd yn hyn yn cynnwys grwpiau â diddordeb arbennig yn bennaf, o ymgynghorwyr cynllunio i gymunedau geogelcio. Datblygwyd y safle gan ein tîm presennol ac esblygodd yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu data a gwasanaethau gan ddefnyddio’r fformatau a’r protocolau y gofynnir amdanynt amlaf ac y gellir eu rhyngweithredu. Mae hyn yn gwneud yr wybodaeth yn fwy hygyrch.
Pam mae angen Lle arnom ni?
Mae ymgynghoriadau, datganiadau ystadegol a pholisïau’r llywodraeth yn aml yn gofyn bod mwy nag un set o ddata ar gael yn allanol i’r cyhoedd, fel map o ryw fath. Yn y gorffennol roedd hyn yn aml yn cynnwys creu degau neu gannoedd o ddogfennau’n cynnwys mapiau statig a oedd yn dangos rhanbarth penodol.
Er bod cyhoeddi mapiau digidol wedi gwella effeithlonrwydd a phrofiad defnyddwyr, roedd pob rhaglen fapio yn ddatblygiad pwrpasol ar gyfer diben penodol yn bennaf; megis ymgynghoriad penodol. Gan ein bod bellach yn derbyn mwy o geisiadau am y cynnyrch hwn, rydym wedi penderfynu datblygu mapiau mwy cyffredinol fydd yn addas ar gyfer mwyafrif yr achosion.
Y diweddaraf?
Rydym wedi datblygu nodwedd mapio y gallwch ei defnyddio drwy fynd i http://lle.llyw.cymru/map. Gall defnyddwyr ffurfweddu’r map yn ôl yr angen ac anfon dolen i eraill gael gweld yr un map.
I gyd-fynd â’r hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, gwnaethom hefyd ryddhau cyfres unigryw o luniau o’r awyr o’r ardal yn dyddio yn ôl i 1945 – http://lle.llyw.cymru/map/aberfan.

Er mwyn cofio hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, creodd Lywodraeth Cymru gyfres unigryw o luniau i ddangos y tirlun o amgylch y pentref cyn ac ar ôl y trychineb yn 1966
Y rhan dechnegol
Mae’r broses fapio wedi’i datblygu drwy ddefnyddio amrywiaeth o gydrannau ffynhonnell agored. Yn bennaf ASP.NET MVC, Angular 2, a OpenLayers 3 (er cafodd ei hadeiladu mewn ffordd fel y gallwn ei newid i API mapio gwahanol yn y dyfodol), a Material Design. Fel gyda gweddill Porth-Daear Lle, mae’n cael ei gynnal ar y cwmwl Azure, gan ddefnyddio PaaS (Platform as a Service) yn hytrach na’r VMs (Virtual Machines) traddodiadol, lle y bo’n bosib.
Ble nesaf?
Mae gennym restr hir o ofynion yr ydym yn gweithio ein ffordd drwyddynt ar hyn o bryd. Mae rhai o’r rhai mawr ar gyfer 2017 yn cynnwys –
- Mwy o broffiliau map a data gofodol i ateb y galw presennol. Byddwn yn rhyddhau proffil ar gyfer damweiniau ffyrdd os ydym yn disgwyl y byddent o ddiddordeb i’r dinesydd cyffredin ac ymchwilwyr.
- Y gallu i gynnal mapiau y gellir eu mewnosod er mwyn iddynt allu cael eu cynnwys ar wefannau trydydd parti.
- Y gallu i fapio data ystadegol yn uniongyrchol o StatsCymru. Bydd hyn yn destun blog arall yn ei dro.
- Cael gwared ar raglenni mapiau annibynnol ar y we dros amser, unwaith y byddant wedi cael eu hychwanegu at y nodwedd mapio newydd.
- Gwelliannau i’r gwasanaethau data gofodol sylfaenol (yn bennaf GeoServer) o ran sefydlogrwydd a pherfformiad.
- Gwneud y prosiect yn ffynhonnell agored ar GitHub.
- Bydd y blog hwn yn parhau i gynnwys materion sy’n ymwneud â chamau Llywodraeth Cymru i wneud mwy o’n data’n agored. Cadwch lygad am flog yn y dyfodol fydd yn trafod datblygiadau diweddar i’n gwasanaethau data ystadegol.
Byddwn yn eich diweddaru am eu datblygiad drwy’r blog hwn.
Post gan Peter Newcombe, Tim Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru
Hysbysiad Cyfeirio: Many Maps in one Lle | Digital and Data Blog