Croeso i fy nghyfraniad cyntaf i’r blog Digidol a Data.
Fel Prif Swyddog Digidol i Lywodraeth Cymru dwi’n lwcus gan fy mod yn cael goruchwylio’r gwaith sy’n mynd ‘mlaen o fewn holl adrannau Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o brosiectau digidol, data a TG.
Pam blog a pham nawr?
Rydyn ni eisiau dweud wrthoch am y gwaith ni’n ‘neud ynghylch digidol, data a TG. Mae nifer o ddatblygiadau wedi digwydd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd a hoffen i rannu rhein gyda chi – a dwi ddim yn cyfeirio at gyflawniad tîm pêl droed Cymru yn yr Euros! Rydym wedi datblygu sgiliau digidol Llywodraeth Cymru, gwella a rhesymu ein gwefannau, a datblygu nifer o wasanaethau ar lein ar gyfer busnesau, ffermwyr a phobl Cymru. Yn y gorffennol dyn ni ddim wedi bod yn dda iawn yn dweud wrthoch am y prosiectau yma, felly, penderfynon ni newid hwnna. Yn ogystal, mae nifer o ddatblygiadau newydd ar y gorwel a dwi’n meddwl byddech yn hoffi clywed amdanynt. Rydym ni eisiau bod yn dryloyw a dweud wrthoch am y gwaith rydyn ni’n neud, hyd yn oed os yw ar ei hanner.
Trwy ddweud mwy wrthoch, y bwriad yw i chi fod yn fwy ymwybodol am ein gwaith a sut fydd e o fudd i chi. Rydym ni hefyd yn gweld hwn fel cyfle i chi ymgymryd â rhai o’r prosiectau a rhoi eich barn am y datblygiadau.
Ein gobaith yw trwy rannu ein profiadau gall eraill sy’n gweithio ar brosiectau tebyg dysgu o beth ni wedi gwneud.
Ffocws ar ddata
Fydd fy nghyd-weithwyr yn cyfrannu eu straeon nhw, ond dwi eisiau defnyddio’r blog cyntaf yma i ganolbwyntio ar Cynllun Data Agored Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Craidd y cynllun oedd i ni wella’r safon data agored ar gyfer y data ni’n cyhoeddi fel Llywodraeth Cymru, edrych am ddata newydd i gyhoeddi ac i hyrwyddo data agored yn fwy eang.
Rydym wedi gwneud datblygiad – ym Mehefin, siaradodd y Prif Ystadegwr, Glyn Jones, yn ‘Digital 2016’ a chyhoeddodd y datblygiad o wella cynnwys ar StatsCymru.
Rydym wedi trefnu fforwm data newydd o fewn Llywodraeth Cymru i edrych ar y data rydym yn defnyddio sy ddim yn ystadegau. Mae llawer o’r data wedi ei gyhoeddi’n barod, ond rydym yn ystyried yr opsiynau gorau i gasglu ffynonellau data ac i wella safon cyhoeddi o safbwynt data agored.
Rydym hefyd yn cynllunio datblygu catalog o ein holl ffynonellau data i helpu defnyddwyr, ac ystyried opsiynau ar gyfer datblygu llwyfan cyhoeddi cyffredin gov.wales ar gyfer ein holl ddata lleoliad a data sy ddim yn ystadegau.
Cyfrannwch
Rydyn ni eisiau clywed beth y chi’n feddwl am ein blog a’r prosiectau sy’n cael ei bortreadu. Yn ogystal, hoffwn glywed os ydych chi’n gweithio ar brosiect digidol neu ddata, yn enwedig os yw’n debyg i’r prosiectau sy’n cael ei bortreadu ac os hoffech gyd-weithio gyda ni.
Rydym wedi cael adborth da ar gyfer y Cynllun Data Agored ond hoffen ni glywed ohonoch ar rhai elfennau:
- Pa ddata ddylen ni cyhoeddi?
- Beth yw eich diddordeb yn data agored?
- Beth ydych chi’n meddwl yw’r cyfleoedd ar gyfer rhannu llwyfan data agored ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru?
Gallwch wneud hyn trwy adael eich sylwadau isod neu danfon ebost.
Gobeithio byddwch yn ffeindio’r blog yma’n ddiddorol a byddwch yn cadw llygad mas am ein cyfraniadau nesaf.
Caren Fullerton, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru
Hysbysiad Cyfeirio: Introducing Welsh Government’s Digital & Data Blog | Digital and Data Blog