O Wenyn i Goed a phopeth yn y canol – Cymru’n defnyddio’r Rhyngrwyd Pethau

Read this post in English

Mae’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ neu ‘IoT’ wedi dod yn ymadrodd cyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai ei fod yn ymddangos yn haniaethol iawn, a dim byd i’w wneud â’ch bywydau bob dydd, neu efallai nad ydych erioed wedi clywed amdano hyd yn oed. Ond ydych chi’n gwisgo Fitbit i ddal eich camau bob dydd a gwneud yn siŵr eich bod yn symud digon? Neu efallai y bydd eich Alexa dibynadwy yn eich atgoffa i godi llaeth ar eich ffordd adref yn nes ymlaen? Wel, heb wybod hyd yn oed, rydych chi wedi bod yn cysylltu â’r Rhyngrwyd Pethau.

Mae gan filiynau ohonom ddyfeisiau bob dydd fel offer cartref, bylbiau clyfar a thracwyr ffitrwydd sy’n rhan o’r IoT. Maent wedi’u gwreiddio â synwyryddion bach sy’n gallu anfon gwybodaeth at ddyfeisiau a systemau eraill dros y rhyngrwyd, ac mae’r cyfan yn bodoli i wneud ein bywydau’n haws. Fodd bynnag, dim ond nawr y mae’r dyfeisiau bach clyfar hyn yn dechrau cael effaith ar ein byd ehangach.

Chwyldroi sut mae synhwyro’n cael ei wneud

Un o’r rhesymau am hyn yw ein bod bellach yn haws cysylltu â’r synwyryddion hyn oherwydd bod Rhwydweithiau Ardal Pŵer Isel (LPWAN) ar gael, megis LoRaWAN, DS-IoT & Sigfox.  Defnydd isel o ran cost, isel mewn pŵer ac sy’n gallu cwmpasu ardaloedd mawr, mae’r rhwydweithiau hyn yn darparu cysylltedd i synwyryddion sy’n ein galluogi i ddweud a yw maes parcio’n llawn neu pa mor gyflym y mae afon yn llifo.

Ni ellir gwadu bod y potensial ar gyfer casglu data drwy ddyfeisiau IoT a gwneud synnwyr o’n hamgylchedd yn dod yn haws ac yn rhatach – ac nid oes diwedd ar y posibiliadau. Yn wir, a oeddech chi’n gwybod y gallwch hyd yn oed osod trap rat i ddweud wrthych a yw wedi’i sbarduno fel nad oes angen i chi fynd i’w wirio eich hun? Ie, wir!

Morgan Walsh Consultancy Ltd

Mae’r ffordd y mae arloeswyr ledled Cymru yn harneisio IoT yn chwyldroi’n dawel sut rydym yn gwneud cymaint o bethau. Ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn gweld newid sylfaenol yn y ffordd y gallwn wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, yn Lloegr maent yn ystyried sut i fynd i’r afael â materion fel dŵr yn gollwng, tra yma yng Nghymru rydym yn edrych ar bethau megis gwella’r ffordd yr ydy ni yn cynllunio ar gyfer rhybuddion llifogydd yr holl ffordd drwodd i fonitro cynhyrchion fferyllol ar gyfer milfeddygon.

Gall batris synhwyrydd bara am flynyddoedd lawer ynghyd â’r ffaith bod rhwydweithiau sy’n cyrraedd yn bell ac yn eang, heb ddefnyddio llawer o bŵer, yn golygu ein bod yn gallu casglu data mewn dull mwy cynaliadwy nag erioed o’r blaen, (gweler fideo y LoRa Alliance).  

Noder: Cychwynodd y LoRa Alliance gan arweinwyr y diwydiant gyda chenhadaeth i safoni Rhwydweithiau Pŵer Isel Ardal Eang sy’n cael eu defnyddio ledled y byd i alluogi y Rhyngrwyd Pethau.

Introduction to LoRaWAN – LoRa Alliance

Fodd bynnag, wrth i’r dywediad fynd “gyda phŵer mawr daw cyfrifoldeb mawr”. Nid yw’r ffaith y gallwn gasglu llawer o ddata diddorol drwy ddyfeisiau IoT yn golygu y dylem. Bydd llawer yn troedio tir newydd o ran defnyddio IoT a LorRaWAN, felly mae’n hanfodol, cyn cynnal unrhyw ddefnydd i IoT, ein bod yn asesu a oes unrhyw faterion moesegol neu breifatrwydd posibl fesul achos.

Blas ar bethau i ddod

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn mynd â chi ar daith ledled Cymru, gan edrych ar ein cymunedau, ein trefi a’n dinasoedd a’n hamgylchedd naturiol i dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud a phosibiliadau diddiwedd IoT.  Felly, byddwch yn barod am fwy o’n blogiau.

Er hynny, roeddem yn meddwl y byddem yn mynd â chi ar daith i arfordir hardd Ceredigion; Mwnt i fod yn benodol. Gallai Mwnt fod y traeth gorau yn y byd. Mae’n wir! A hynny oherwydd bod IoT wedi cyrraedd yno. Gall gwylwyr y glannau weld o nifer y ceir sy’n cyrraedd y traeth anghysbell a oes angen iddynt ymweld ar eu patrolau. Mae perchennog y caffi yn gwybod o’r data ymwelwyr a yw’n werth agor yn y gaeaf a phryd y gallai’r amseroedd prysuraf fod. Gallwch hyd yn oed fod yn siŵr bod y peiriant diffibriliwr ar gael mewn argyfwng, a’i fod yn gweithio. Mae’r holl bethau hyn yn hysbys drwy ddefnyddio dyfeisiau IoT ac fe’u rheolir gan Gyngor Cymuned lleol. Gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr…

Gweithio Gyda’n Gilydd i greu rhwydwaith

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â chwe awdurdod lleol a phartneriaethau rhanbarthol, yn cydweithio i gyflwyno pyrth LoRaWAN ledled Cymru. Mae’r pyrth hyn yn gweithredu fel pontydd rhwng y synwyryddion a lle mae angen i’r wybodaeth gyrraedd drwy anfon a derbyn signalau pŵer isel LoRaWAN.

Mae Bargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu rhwydwaith arloesi, gan ddefnyddio LoRaWAN a thechnolegau eraill i drawsnewid sut mae’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn darparu ac yn datblygu gwasanaethau

Gareth Jones, Arweinydd y Rhaglen Ddigidol, Bargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Bydd sefydlu’r pyrth hyn yn cynnwys ardaloedd ac yn rhoi mynediad diogel drwy lwyfan rhad ac am ddim a elwir yn ‘Y Rhwydwaith Pethau‘.  Yn y bôn, mae hynny’n golygu y bydd hyd yn oed yn haws dechrau defnyddio dyfeisiau IoT, neu os ydych eisoes yn eu defnyddio, yna ddefnyddio mwy ohonynt. Ac os oes angen eich argyhoeddi mwy mai IoT yw’r dyfodol, mae’r erthygl hon a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn werth edrych arni.

Yn fy mlog nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar sut mae Cymdeithas Tai Barcud, sy’n gwasanaethu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio IoT i drawsnewid sut maent yn cynnal eu hystâd a gwella bywydau eu trigolion.

Peter Williams – Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru

Ymadawiad – darparwyd y dwy fideo gan ffynhonnell allanol felly maent ar gael yn Saesneg yn unig

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s