Read this page in English
Mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn bwyllgor arbenigol sy’n sefydlu strategaeth geo-ofodol y DU ac yn hyrwyddo’r defnydd orau o ddata geo-ofodol. Yn y blog gwadd yma mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn cyflwyno eu Strategaeth Geo-Ofodol Cenedlaethol.
Mae’r blog hwn yn rhan o gyfnewid blog gyda Llywodraeth Cymru
Mae lleoliad yn elfen ddiffiniol o’r ffordd rydym yn byw, gweithio a chymdeithasu. Mae’n gallu cael effaith ar y gwasanaethau a mannau y mae gennym fynediad atynt, yr iaith a’r acen y siaradwn ynddynt, hyd yn oed ansawdd ein cysylltiad wi-fi. Mae deall y byd yn nhermau lleoliad, gan ddefnyddio data wedi eu seilio ar leoliad, yn hanfodol i weithrediad cymdeithas fodern. Mae hyn yn cael ei arddangos yn fwyaf trawiadol heddiw gan y rôl mae data lleoliad yn parhau i’w chwarae yn yr ymateb i’r pandemig coronafeirws a’r adferiad ar ei ôl. Ydy’r cwestiwn o ‘ble?’ erioed wedi bod yn fwy perthnasol? Parhau i ddarllen →