Prosiectau Gwyddor Data: Nodi a disgrifio clystyrau o amddifadedd

Read this blog in English

Er bod ystadegau cywir ac amserol bob amser wedi cael eu cydnabod fel mewnbwn allweddol i benderfyniadau a llunio polisïau o ansawdd da o fewn y llywodraeth, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu bod data yn hynod bwysig o ran strategaeth ac adrodd mewn ffordd newydd oherwydd COVID-19. Mae awydd y cyhoedd am ddata wedi cynyddu ac mae cynhyrchion fel dangosfyrddau data yn cael eu defnyddio’n aml gan bobl nad ydynt efallai wedi cymryd rhan ym maes casglu data o’r blaen.

Ym mis Ebrill 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru Uned Gwyddor Data i edrych sut y gellid mabwysiadu ffynonellau, technegau a systemau data newydd i wella’r ffordd rydym yn defnyddio data a sut rydym yn gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch i bawb. Y blog hwn yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n cyflwyno rhywfaint o’r gwaith sydd ar y gweill.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – Clystyrau

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn allbwn llwyddiannus gan Lywodraeth Cymru sy’n sicrhau bod gwybodaeth am ystod eang o fathau o amddifadedd ar gael i’r cyhoedd ar lefel fanwl iawn. Cyhoeddir data ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, sy’n ardaloedd bach sy’n cynrychioli tua 1,600 o bobl, ac yn adrodd ar ddangosyddion amddifadedd ar gyfer incwm, cyflogaeth, iechyd ac addysg ymhlith eraill.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – Clystyrau

Yn ddiweddar, cyhoeddodd tîm MALlC flog yn trafod dadansoddi er mwyn deall cynrychiolaeth grwpiau penodol mewn ardaloedd difreintiedig yn well, a sut mae coronafeirws yng Nghymru wedi effeithio’n fwy difrifol ar ardaloedd difreintiedig.

Mae’r Uned Gwyddor Data wedi bod yn edrych ar MALlC ac yn defnyddio technegau gwyddor data i grwpio Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn seiliedig ar eu sgoriau ar draws yr holl ddangosyddion. Cyfeirir at y broses hon weithiau fel segmentu neu glystyru. Diben cynnal y dadansoddiad yw grwpio’r ardaloedd sy’n debyg o ran nodweddion amddifadedd allai ein galluogi i wella ein dealltwriaeth o sut mae gwahanol fathau o amddifadedd yn cyd-ddigwydd yn gyffredin. O’n grwpiau gallwn ddatblygu crynodebau disgrifiadol o’r gwahanol fathau o amddifadedd.

Mae’r broses rydyn ni’n edrych arni wedi nodi’n gyntaf dri grŵp o ardaloedd sydd fel petaent yn adlewyrchu’r rhaniad gwledig/trefol i ryw raddau. Yn ein dadansoddiad, rydym wedi canfod fod gan ddaearyddiaeth berthynas gref â’r mathau o amddifadedd a brofir gan ardaloedd. Ein cam nesaf yw rhannu’r grwpiau hyn yn is-grwpiau er mwyn deall yn well sut y gallai’r amddifadedd fod yn wahanol o fewn yr ardaloedd daearyddol hynny. Ar ddiwedd y broses glystyru bydd gennym tua 10 disgrifiad ysgrifenedig o grwpiau amddifadedd sy’n cynnwys ein 1,909 o ACEHIau.

Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn cyflawni dau beth. Yn gyntaf, y bydd y clystyrau yn rhoi cipolwg newydd i ni ar ddata’r dangosyddion o sefyllfa ehangach, i gefnogi dadansoddiad pellach gan y rhai sydd am archwilio’r data. Yn ail, bod modd uniaethu gyda a dehongli’r clystyrau drwy eu disgrifiadau fel y gall cynulleidfa ehangach ymgysylltu â’r wybodaeth, er enghraifft i nodi cymunedau sy’n wynebu mathau tebyg iawn o amddifadedd mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Drwy ddefnyddio gwyddor data gobeithiwn y gallwn helpu ein hallbynnau i ddod hyd yn oed yn fwy cynhwysol i bobl yn y cyhoedd a llywodraeth ehangach nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â data ond sy’n gallu ymwneud â’r disgrifiadau.

Tri grŵp clystyrau ar gyfer dangosyddion amddifadedd yng Nghymru

Tri grŵp clystyrau ar gyfer dangosyddion amddifadedd yng Nghymru.

Mae’r uned gwyddor data yn gwneud cynnydd da ar y gwaith hwn a bydd yn rhannu mwy yn y dyfodol. Hefyd, cadwch olwg am ran nesaf y gyfres blog hon lle byddwn yn cyflwyno sut rydym yn defnyddio data profion cyflymder rhyngrwyd i ddeall ansawdd y rhyngrwyd y mae pobl yn ei dderbyn ledled Cymru.

Mae’r dadansoddiad yn cael ei gynnal yn R, iaith rhaglennu ystadegol. Mae R yn iaith raglennu ffynhonnell agored sydd â chymuned ar-lein fawr ac sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio. I gael gwybod mwy am R gallwch edrych ar wefan y prosiect R.

Os ydych chi am gysylltu â ni, e-bostiwch at: unedgwyddordata@llyw.cymru

Steven Hopkins, Gwyddonydd Data Arweiniol