Diweddariad Gwyddor Data: ansawdd rhyngrwyd – defnyddio gwybodaeth newydd

Read this blog in English

Croeso i ail ran ein cyfres o flogiau sydd yn cyflwyno rhai o’r prosiectau sydd ar waith yn yr Uned Gwyddor Data. Cyhoeddwyd Rhan 1 yr wythnos diwethaf

Bydd y blog hwn yn dilyn prosiect sydd yn ymchwilio i’r defnydd o ddata profion cyflymder rhyngrwyd i gefnogi’r wybodaeth sy’n bodoli eisoes o ran y ddarpariaeth ar hyd a lled Cymru.

Data profion cyflymder rhyngrwyd Ookla

Mae mynediad i ryngrwyd cadarn a chyflym yn hanfodol i nifer o bobl a busnesau ar hyd a lled Cymru gan effeithio ar economïau lleol. Mae argaeledd band eang yn ddangosydd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ac mae gan Lywodraeth Cymru fentrau sy’n ffocysu ar ddod â rhyngrwyd i Gymru gyfan sy’n gyflym a dibynadwy pan nad yw’r farchnad wedi llwyddo i wneud hynny. 

Yn ystod y pandemig, mae cael gafael ar y rhyngrwyd o’n cartrefi wedi bod yn hollbwysig i nifer ohonom er mwyn medru dilyn y cyngor i weithio a dysgu gartref lle y bo hynny’n bosibl.  Mae llawer o’n rhyngweithio cymdeithasol gyda ffrindiau a theulu hefyd wedi symud i fod ar-lein yn ystod y cyfnod hwn. Mae argaeledd y rhyngrwyd ond yn un rhan o’r darlun oherwydd nid yw cael cysylltiad yn golygu ei fod o ansawdd da. Rydyn ni wedi bod yn archwilio data cyflymder rhyngrwyd Ookla i gefnogi ein dealltwriaeth o fynediad i’r rhyngrwyd a’i ansawdd.

Mae Ookla yn brif ddarparwr profion cyflymder ac os ydych wedi cynnal prawf gartref neu ar eich ffôn symudol mae’n debygol eich bod wedi defnyddio eu gwasanaethau. Y llynedd, dechreuodd Ookla ryddhau setiau data cyhoeddus byd-eang o ganlyniadau eu profion cyflymder ac annog sefydliadau ac academyddion i archwilio’r data i weld sut y medrir eu defnyddio.

Cyhoeddir diweddariadau o’r data’n chwarterol ac mae dau fath o setiau data, un ar gyfer cysylltiad band eang ac un ar gyfer data rhyngrwyd symudol. Mae’r data yn cael eu cyd-gasglu yn ôl ardaloedd sgwâr, tua 600×600 metr. Mae felly’n cynnig adroddiad lleol iawn ar gyflymderau’r rhyngrwyd, ac mae’n darparu nifer o fetrigau gan gynnwys:

  • cyflymder lawrlwytho (kb yr eiliad ar gyfartaledd)
  • cyflymder lanlwytho (kb yr eiliad ar gyfartaledd)
  • oedi (milieiliadau)

Cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho yw’r cyfraddau y medrir trosglwyddo ffeiliau i’r rhyngrwyd neu o’r rhyngrwyd. Mae oedi yn cyfeirio at y saib cyn i weithred a geisiwyd cael ei chyflawni. Er enghraifft, os ydw i’n clicio ar fotwm ar dudalen ar y rhyngrwyd, pa mor hir yw’r cyfnod rhwng clicio’r botwm a’r wefan yn derbyn y signal fy mod wedi gwneud hynny.

Yr hyn sydd yn ddiddorol am y data hyn yw eu bod yn rhoi cipolwg ar y cyflymderau rhyngrwyd a brofir gan ddefnyddwyr yn hytrach na’r cyflymderau sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd.

Mae’r ddelwedd isod, a gynhyrchwyd mewn R (iaith raglennu ystadegol), yn esiampl o sut mae’r data hyn yn edrych yn awdurdod lleol Abertawe pan gaiff haenau ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol Abertawe eu hychwanegu atynt (mae’r rhain yn ardaloedd ystadegol sy’n cynnwys tua 7,500 o bobl).

Cyflymder lawrlwytho ar gyfartaledd (mb yr eiliad) ar gyfer ardaloedd bach yn Awdurdod Lleol Abertawe

Trefnir pob cell fesul lliw yn ôl y cyflymder lawrlwytho ar gyfartaledd a gofnodwyd yn yr ardal sgwâr. O fewn rhai ffiniau yn Abertawe ni chynhaliwyd unrhyw brofion cyflymder, felly ni threfnir yr ardaloedd hynny fesul lliw.  Oblegid hyn, nid oes gwybodaeth amdanynt yn y data.

Ar gyfer yr ail ddelwedd rydym wedi cyfrifo cyfartaledd pwysedig ar gyfer pob ardal cynnyrch ehangach haen ganol yn seiliedig ar y metrigau sydd ar gael i ddangos y cyflymder lawrlwytho ar gyfartaledd fesul ardal. Mae hyn yn amharu ar eglurder y data, ond mae’n darparu map y gellir ei gymharu ar gyfer yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol gwahanol yn Abertawe.

Cyfartaledd pwysedig cyflymderau lawrlwytho (mb yr eiliad) ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol Abertawe

Mae’r map hwn yn ein galluogi i wneud rhai arsylwadau sylfaenol am y data a allai gyd-fynd â’n disgwyliadau os oes gennym wybodaeth leol am ardal Abertawe. Er enghraifft, mae gan Benrhyn Gŵyr yn y de-orllewin, ardal wledig iawn yn Abertawe, gyflymderau lawrlwytho arafach ar gyfartaledd na chanol y dref yn y de-ddwyrain.

Dim ond dechrau archwilio’r data hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn gweld sut y gellir eu defnyddio i gefnogi Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach. Dim ond rhan o’r broblem yw c casglu gwybodaeth ystyrlon o ddata Ookla. Mae hefyd angen i ni fod yn ofalus o ran sut yr ydym yn dehongli’r hyn y mae’r data’n ei gynrychioli. Mae’r ddelwedd uchod yn dangos prinder y data mewn rhai rhanbarthau o’u cymharu ag eraill. Bydd hyn yn effeithio ar gadernid yr wybodaeth. Gallai ffactorau cymdeithasol ddylanwadu ar y data hefyd. Er enghraifft, mae’n bosibl fod mwy o bobl yn debygol o gynnal prawf cyflymder pan fyddant yn cael problemau gyda’u cysylltiadau. Mae’n bosibl y bydd hyn yn achosi tuedd yn yr wybodaeth. Er ei bod yn anodd deall effaith ffactorau fel hyn, mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt ac archwilio setiau data eraill a allai ein galluogi i ddilysu neu amcangyfrif unrhyw duedd yn y data. 

Rydym wedi cyhoeddi’r cod i dynnu data Cymru allan a’i ddosbarthu, ar dudalen Github yr uned gwyddor data. Byddwn yn rhannu mwy am y gwaith hwn yn y dyfodol.

Os ydych chi am gysylltu â ni, e-bostiwch at: unedgwyddordata@llyw.cymru.

Steven Hopkins, Gwyddonydd Data Arweiniol