Blog gwadd: mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn symud yn swyddogol i MapDataCymru!

#CaruData23

Read this page in English

Efallai mai mis Chwefror yw mis rhamant, ond nid calonnau a blodau yw’r unig bethau sy’n bwysig. Mae San Ffolant yn rhannu’r sylw gydag Wythnos Caru Data! 

Mae Wythnos Caru Data yn ddathliad rhyngwladol o ddata, ac mae’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos Dydd San Ffolant. Mae prifysgolion, sefydliadau dielw, asiantaethau’r llywodraeth, corfforaethau ac unigolion yn cael eu hannog i gynnal a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sy’n ymwneud â data.

Mae’r ddelwedd hon yn set ddata gofodol o Ardaloedd Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gan ei bod yn Wythnos Caru Data, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn manteisio ar y cyfle i ddweud wrth ein cwsmeriaid ein bod bellach wedi symud ein holl ddata o Borth-Daear Lle i MapDataCymru. Er y gallai llawer o gwsmeriaid CNC fod wedi dechrau defnyddio’r platfform newydd yn naturiol, rydym bellach wedi diweddaru ein gwefan a’n metadata darganfod er mwyn cyfeirio at MapDataCymru.

Y stori hyd yn hyn

Ers mis Medi, pan aeth MapDataCymru yn fyw, rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i symud, diweddaru a gwella’r data ydym yn eu cadw. Rydym wedi trosi rhywfaint o’r data i ffurf geo-ofodol (os nad oedd felly cyn hynny) ac wedi cyflwyno setiau data ychwanegol.

Mae’r ddelwedd hon yn giplun o gatalog data MapDataCymru.

Mae setiau data newydd CNC yn cynnwys mwy o ddata ecolegol, mwy o ddata am ein hystad goedwig, ardaloedd draenio ac adnoddau dŵr, ac mae’r cyfan ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored.

Drwy sicrhau bod ein data ar gael i’w ailddefnyddio mewn ffordd hygyrch, gall CNC helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gwyddonwyr a llunwyr polisïau drwy ddarparu’r data cywir i lywio newidiadau a materion sy’n bwysig i Gymru.

Mae’r ddelwedd hon yn set ddata gofodol sy’n cynnwys ffiniau digidol pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

Yn naws Wythnos CaruData, dyma rai pethau eraill yr ydym yn eu caru am MapDataCymru. Rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr a darparwyr data posibl eraill yn eu caru hefyd.

  • Gall ein staff “brofi cyn prynu”, drwy edrych ar ddata a ddarperir gan gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ochr yn ochr â’n data ni i benderfynu a fydd yn ddefnyddiol yn ein system fewnol.
  • Gallwn ddefnyddio data gan gyrff cyhoeddus gan ddefnyddio Gwasanaethau Mapio’r We (WMS) sy’n arbed amser ac ymdrech i ni wrth reoli data ac rydym yn gwybod fod y copi diweddaraf ar gael gennym bob amser. Mae hefyd yn ein helpu i osgoi dyblygu data oherwydd gallwn reoli’r broses hon yn ganolog.
  • Drwy ddarparu data CNC i MapDataCymru, mae’n darparu tryloywder o ran y data sydd gennym yn ogystal â dileu’r angen i’n staff gyflenwi data â llaw i eraill sawl gwaith ac mewn gwahanol fformatau, gan ryddhau amser i ymdrin â cheisiadau ac ymholiadau mwy cymhleth am ddata.
  • Gallwn grwpio haenau data dan gofnodion catalog sengl, gan sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i’n data. Rydym yn bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o’r nodwedd hon yn y dyfodol.
  • Rydym yn rhan o gymuned o randdeiliaid a gallwn fwydo ceisiadau am welliannau a datblygiadau i Lywodraeth Cymru.
  • Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth edrych ymlaen at ymarferoldeb newydd, yn enwedig o ran darparu data rastr.

Rhannwch eich storïau

Byddwn yn ychwanegu mwy o ddata at MapDataCymru dros yr ychydig fisoedd nesaf a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwch ebostio ni trwy opendata@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ddweud sut yr ydych yn defnyddio ein data cyfredol er budd pobl Cymru neu’n ehangach. Gallwch hefyd roi gwybod i ni a oes data, yr ydym yn eu rheoli yr hoffech inni sicrhau ei fod ar gael.

Gall cwsmeriaid hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael mynediad at holl ddata agored a data cyfyngedig CNC, drwy fynd i wefan CNC Cyfoeth Naturiol Cymru/Cael mynediad i’n data.

Post gan, Monica, Cyfoeth Naturiol Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s