Ym mis Gorffennaf, mae’r Pasiodd y Senedd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru). Mae bellach wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol a bydd yr Awdurdod Tomenni nas Defnyddirnewydd yn cael ei sefydlu yn 2027 – carreg filltir fawr. Ond er bod y ddeddfwriaeth wedi’i phasio’n ddiweddar, mae’r gwaith i’w gweithredu wedi bod ar y gweill ers peth amser. Dechreuodd ein gwaith digidol a data ym mis Mawrth 2024 ac mae wedi bod yn adeiladu’n gyson ers hynny.
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog blaenorol, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst.
Mae’r neges hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith i ddisodli OData nes bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar waith yn 2025.
Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers fy mlog diwethaf a oedd yn ymdrin â sut mae LoRaWAN yn helpu i drechu trosedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Ers hynny, rydym wedi gweld y rhaglen Trefi Smart yn ffynnu, gyda’r tîm yn gwneud llawer iawn o waith ymgysylltu, ac yn cynnal cynhadledd Smart oedd yn canolbwyntio ar drefi, y gyntaf o’i bath mae’n debyg, a hynny yn Wrecsam (sy’n eironig yn ddinas!).
Roedd y gynhadledd yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru a Lisa Perkins, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Byd-eang BT, Adastral Park.
Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar astudiaeth achos Trefi Smart o Wrecsam isod:
Roedd pwysigrwydd rhannu data a data agored yn neges arbennig o gryf a ddaeth o’r gynhadledd, yn ogystal â chytundebau mynediad agored, sy’n ffordd symlach o gael cysylltedd symudol gwell a chyflymach mewn rhannau prysur o drefi. Mae hyn yn rhywbeth y mae David Evans, Swyddog Datblygu Trefi Smart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi arwain arno, ac yn ddiweddar dathlwyd yr hyn a ystyrir yn “Gytundeb Mynediad Agored” cyntaf Cymru gyda gweithredwr rhwydwaith symudol.
Rhannodd y gynhadledd amrywiaeth o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru, gan gynnwys un yn canolbwyntio ar reoli seilwaith gwyrdd yn well gan ddefnyddio synwyryddion a data yn Y Fenni, siop goffi sy’n defnyddio synwyryddion clyfar yn Wrecsam, ynghyd â chyflwyniadau gan “Global Urban Futurist” Peter Griffiths o Bable Smart Cities, a Paul Sandham o Patrwm.
Ond pwy arall yng Nghymru sy’n rhoi negeseuon yr arweinwyr digidol ar waith?
Buddsoddi er mwyn arbed
Mae llygaid pawb ar Gonwy am y tro gan eu bod wedi bod yn gweithio ar sawl prosiect sy’n seiliedig ar Ryngrwyd Pethau (IoT) LoRaWAN, megis monitro coed i gynorthwyo twf yn ystod y blynyddoedd bregus cychwynnol hynny, cwlfertiau, C02 a llawer o “bethau” eraill.
Pam monitro coed? Mae monitro coed ag IoT yn cynnig nifer o fanteision:
“Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod ar daith Tref Smart / IoT gan ddefnyddio Synwyryddion Clyfar.
Golygodd grant ariannol gan Lywodraeth Cymru bod ein dealltwriaeth o synwyryddion gwahanol wedi cyflymu wrth wella darpariaeth IoT ar draws yr Awdurdod.
Mae’r sylw wedi bod yn allweddol i ddiwallu anghenion gwahanol adrannau drwy ddarparu prosiectau mor amrywiol â monitro lleithder pridd, monitro lefelau dŵr afonydd, amodau amgylcheddol mewn ysgolion, swyddfeydd ac ardaloedd byw a’r defnydd a wneir o doiledau cyhoeddus.
Mae casglu data empirig diduedd yn hanfodol wrth ganiatáu i Awdurdodau Lleol wneud penderfyniadau allweddol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar wasanaethau a phrofiadau cyhoeddus. Mae’r data’n ein galluogi i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar realiti yn hytrach na gwybodaeth ddeongliadol/ anecdotaidd. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i Swyddogion a Chynghorau wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd.
Mae defnyddio Technoleg IoT yn allweddol i’n dyfodol sy’n rhoi platfform pellach i wasanaethau cyhoeddus archwilio eu heffeithlonrwydd eu hunain a darparu gwasanaethau mwy effeithiol sydd mor bwysig i’r sefydliad a’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.”
Arloesi wrth arbed carbon:
Mae llawer o academyddion yn darganfod y gall LoRaWAN eu helpu i leihau eu hôl troed carbon a bod yn llawer mwy craff wrth gasglu data.
Roedd un sefydliad, er enghraifft, yn teithio yn ôl ac ymlaen i ogledd Sir Benfro i gasglu data lefel nitradau ar fferm arddangos Cyswllt Ffermio lle gellid defnyddio LoRaWAN.
Trwy fabwysiadu technoleg LoRaWAN, fe wnaethon nhw lwyddo i dorri i lawr ar y teithiau a wnaed i’r fferm a lleihau’r risg y byddai data’n mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi.
Cyfuno setiau data ar gyfer canlyniadau gwell:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cwblhau prawf cyfunol o gysyniad data ac maent yn barod i weithredu datrysiad newydd gan ddefnyddio gorsafoedd monitro presennol Cyfoeth Naturiol Cymru a synwyryddion LoRaWAN y cyngor ei hun a ddefnyddir mewn ardaloedd nad oedd yn bosibl gyda thechnolegau hŷn. Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos bod modd rhagweld risg llifogydd yn well, ac mae Scott Andrews o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn tynnu sylw at hyn ar un o’i negeseuon ar LinkedIn yma.
Wrth gwrs, rydym yn gwybod nad am y dechnoleg y mae hyn (er ei fod yn cyffroi llawer ohonom), ond am y diwylliant, y data, a’r canlyniadau.
Trawsnewid Digidol
Mae cael pawb yn gytûn ar y daith drawsnewidiol hon yn heriol, ond mae data’n grymuso pobl ac yn dod yn offeryn i’w cynorthwyo.
Rydym bellach yn gallu cael data iddynt o leoedd lle nad oeddem erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl 10 mlynedd yn ôl, diolch i LoRaWAN a thechnolegau IoT eraill.
Dychmygwch yr hyn y gallai IoT o’r Gofod ei wneud…
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst. Mae hyn oherwydd y bydd Microsoft yn rhoi’r gorau i gefnogi’r dechnoleg ac ni fydd ein datrysiad newydd yn barod tan 2025.
Mae’r postiad hwn yn esbonio beth fydd yn digwydd, sut bydd yn effeithio arnoch chi a pha drefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith.
Gallai gefeilliaid digidol sicrhau budd gwerth £7bn i economi’r DU erbyn 2050, yn ôl adroddiad diweddar Centre for Digital Built Britain (CDBB). Canfu’r adroddiad hefyd y gallai gefeilliaid digidol leihau costau hyd at 25%, gwella cynhyrchiant hyd at 15%, a lleihau allyriadau hyd at 20%.
Gyda hyn mewn golwg, mae’r Arolwg Ordnans yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i archwilio a allai gefeilliaid digidol gefnogi’r Strategaeth Ddigidol i Gymru mewn meysydd polisi sylfaenol a nodi lle y gallent ychwanegu’r gwerth mwyaf.
24 Awst yw Diwrnod Cenedlaethol Wcráin, neu Diwrnod Annibyniaeth fel y mae’n cael ei alw hefyd.
Ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, mae Cymru wedi dod yn Genedl Noddfa i filoedd o bobl sydd wedi dianc rhag y gwrthdaro. Yn y blog hwn, rydym yn disgrifio rhywfaint o’r gwaith gan ddefnyddio adnoddau digidol yng Nghymru i helpu pobl Wcráin yn ddiogel ac wedi eu cefnogi.
Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi sut ydym am roi cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ddefnyddio technoleg ddigidol yn y byd modern.
Mae technoleg ddigidol bellach yn agwedd sylfaenol ar ein bywydau bob dydd – caiff ei defnyddio ar gyfer adloniant a gweithgareddau hamdden, mewn gwaith ac addysg, i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae llawer ohonom ni’n cael budd o allu defnyddio offer a thechnoleg ddigidol yn hyderus, ond wrth i newidiadau mewn technoleg ddigidol gyflymu, mae risg y bydd mwy o bobl yn cael eu hallgáu’n ddigidol, neu’n parhau i fod wedi’u hallgáu. Y bobl sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol yw’r rheini sydd heb fynediad, sgiliau, hyder, na chymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu offer digidol.
Yn fy mlog diwethaf, soniais am sut y mae LoRaWAN yn chwyldroi’r modd y mae synhwyro’n cael ei wneud. Ers hynny, mae’n anhygoel gweld sut y mae LoRaWAN yn cael ei fabwysiadu fwyfwy a hynny yn gyflym.
Er enghraifft, mae cwmni cyfleustod dŵr yn buddsoddi mewn 5000 o byrth LoRaWAN a 3 miliwn o synwyryddion a fydd yn cael eu hôl-osod i fesuryddion dŵr sydd eisoes yn bodoli. Wrth gyfuno hynny â deallusrwydd artiffisial, bydd hyn yn fodd o wella’r gwaith o ganfod gollyngiadau a sicrhau bod y rhwydwaith dŵr ar ei orau.
Os felly, mae nawr yn gyfnod cyffrous i ymuno â’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT) yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol i helpu i gefnogi’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau’n ddigidol i ddinasyddion, trawsnewid ein ffyrdd mewnol o weithio, a rheoli a datblygu ein seilwaith a’n gwasanaethau technegol yn Llywodraeth Cymru.
Mae’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ neu ‘IoT’ wedi dod yn ymadrodd cyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai ei fod yn ymddangos yn haniaethol iawn, a dim byd i’w wneud â’ch bywydau bob dydd, neu efallai nad ydych erioed wedi clywed amdano hyd yn oed. Ond ydych chi’n gwisgo Fitbit i ddal eich camau bob dydd a gwneud yn siŵr eich bod yn symud digon? Neu efallai y bydd eich Alexa dibynadwy yn eich atgoffa i godi llaeth ar eich ffordd adref yn nes ymlaen? Wel, heb wybod hyd yn oed, rydych chi wedi bod yn cysylltu â’r Rhyngrwyd Pethau.