LoRaWAN – Trechu trosedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd

Read this page in English

Yn fy mlog diwethaf, soniais am sut y mae LoRaWAN yn chwyldroi’r modd y mae synhwyro’n cael ei wneud. Ers hynny, mae’n anhygoel gweld sut y mae LoRaWAN yn cael ei fabwysiadu fwyfwy a hynny yn gyflym.

Er enghraifft, mae cwmni cyfleustod dŵr yn buddsoddi mewn 5000 o byrth LoRaWAN a 3 miliwn o synwyryddion a fydd yn cael eu hôl-osod i fesuryddion dŵr sydd eisoes yn bodoli.  Wrth gyfuno hynny â deallusrwydd artiffisial, bydd hyn yn fodd o wella’r gwaith o ganfod gollyngiadau a sicrhau bod y rhwydwaith dŵr ar ei orau.

Erbyn hyn hefyd, mae synwyryddion tymheredd a lleithder LoRaWAN heb fatris ar gael sy’n cael eu pweru naill ai gan olau (yn debyg i hen gyfrifiannell) neu hyd yn oed gan blanhigion cartref!  Mae’r rhain yn fodd o wella opsiynau o ran eu defnyddio a gwella opsiynau synhwyro hyd yn oed ymhellach.

Nesaf, mynd i’r afael â newid hinsawdd

Mae datblygiadau cyffrous yn un peth, ond mae eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â heriau byd-eang megis newid hinsawdd yn rhywbeth arall.

Dyma lle y mae Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn dod i’r amlwg. Yn rhaglen sydd wedi ei hanelu at landlordiaid cymdeithasol sy’n gosod amryw o fesurau datgarboneiddio, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddull pragmatig o ddatgarboneiddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli ac yn un sy’n edrych ar y tŷ cyfan.  Mae’n gwneud hyn drwy ystyried yr adeiladwaith neu’r deunyddiau y gwneir cartrefi ohonynt yn ogystal â’r ffordd rydym yn gwresogi a storio ynni.  Mae hefyd yn ystyried sut y mae ynni yn cyrraedd ein cartrefi.

Mae Cymdeithas Tai Barcud, landlord cymdeithasol sy’n cymryd rhan ac yn un a fabwysiadodd LoRaWAN yn gynnar, yn un o’r rhai cyntaf i’w ddefnyddio i adrodd i Lywodraeth Cymru am effeithiolrwydd ymyriadau a ariennir gan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, a hynny bron mewn amser real.

Un o’r ffyrdd ymarferol y mae Barcud wedi cyflawni hyn yw drwy osod synwyryddion o fewn paneli inswleiddio wrth eu gosod. Mae hyn wedi galluogi Barcud i gasglu data ynghylch pa mor effeithiol yw’r deunyddiau, gan helpu i lywio polisïau’r dyfodol a’r gwaith o ddatblygu cynhyrchion gyda’r nod o leihau carbon hyd yn oed ymhellach.

Mae buddsoddiad Barcud yn LoRaWAN wedi’u galluogi hefyd i arloesi wrth ddiwallu eu gofynion statudol o brofi goleuadau argyfwng a hynny drwy osod fersiwn awtomataidd a ddefnyddir o bell yn hytrach na system a ddefnyddir â llaw. Mae hyn wedi arbed amser ac arian i Barcud yn ogystal â lleihau’r ôl-troed carbon yn sgil y fflyd o gerbydau a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gwblhau’r gwaith hwn.

Trechu trosedd a gofalu am denantiaid

Mae Barcud yn gallu casglu data o’r synwyryddion mewn eiddo i ganfod tenantiaid sy’n agored i niwed a allai fod yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Gall hyn ymddangos yn rhywbeth rhyfedd i’w wneud ond mae Barcud wedi canfod patrymau yn y data a gasglwyd sy’n ymwneud ag enghreifftiau o sefyllfaoedd o ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol.

Un enghraifft yw canfod sefyllfaoedd o gogio (cuckooing). Math o drosedd yw cogio sydd yn ei hanfod yn cymryd rheolaeth dros gartref person sy’n agored i niwed er mwyn sefydlu cyrchfan i ddelio cyffuriau anghyfreithlon, a hynny fel rheol yn rhan o weithrediadau llinellau cyffuriau.

Yn aml, mae dioddefwyr cogio yn amharod i rannu pryderon rhag ofn i bobl ddial arnynt. Fodd bynnag, pan fo swyddogion tai yn amau bod tenantiaid yn dioddef sefyllfa o gogio, gellir casglu data a’i ddadansoddi er mwyn adnabod cyflawnwyr posibl, ac os oes angen, cymryd camau pellach heb beryglu’r dioddefwr.

Gan ddefnyddio data o’r synwyryddion gan gynnwys nifer y bobl, lefelau CO2, lefelau lleithder ystafelloedd, lefelau golau, symudiadau a setiau eraill o ddata, gall Barcud ganfod patrymau. Gellir defnyddio’r patrymau hyn i nodi cyfres o ymddygiadau a fydd o ganlyniad yn gallu bod o gymorth i nodi ymddygiadau gwrthgymdeithasol posibl neu bryderon eraill o ran tai megis eiddo sydd wedi’u gadael yn wag, diffyg awyru neu wres a allai arwain at lwydni.

Ffordd arall y gall LoRaWAN helpu tenantiaid yw drwy helpu i ganfod niwsans sŵn. Gellir monitro’r lefelau sŵn a’u cofnodi er mwyn dangos i gyflawnwyr y lefelau sŵn y maen nhw’n eu creu.

Er bod y data a gesglir drwy gyfrwng y synwyryddion yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu tenantiaid, mae’n hollbwysig ystyried a yw’n foesol defnyddio’r data a gesglir yn y modd hwn ac a oes unrhyw faterion o ran diogelu data.  Er mwyn ymdrin â hyn, mae Barcud yn sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei gasglu gyda chytundeb y tenantiaid a’u bod yn cael gwybod pan fo data yn cael ei gasglu mewn ardaloedd cymunedol.

Ond nid hynny yw’r diwedd arni

Mae Barcud bellach yn ystyried sut y gellir defnyddio LoRaWAN i ganfod mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu heiddo. Maent yn ystyried cynnal cynllun treialu ‘bloc clyfar’ sef bloc o fflatiau lle y byddai synwyryddion LoRaWAN yn cael eu gosod yn yr ardaloedd cymunedol.

Y rhesymeg dros hyn yw wrth ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol y byddai modd creu algorithmau i ymateb i ddigwyddiadau penodol. Felly, er enghraifft, gellid defnyddio’r data i gadarnhau statws diogelwch y bloc, a phe byddai angen, gellid ffonio am gymorth gan y swyddogion priodol megis swyddogion tai neu swyddogion cynnal a chadw.  Y gobaith yw y byddai’r dull hwn yn rhoi arwyddion cynnar ynghylch unrhyw floc a fyddai’n datblygu’n destun pryder.

Mae defnyddio’r technolegau hyn ym maes rheoli tai yn ddatblygiad arloesi newydd yn y DU gyda Barcud yn chwarae rhan flaenllaw yng Nghymru.

Arloesi yn y Sector Cyhoeddus

“Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu rhwydwaith arloesi, gan ddefnyddio LoRaWAN a thechnolegau eraill i drawsnewid sut mae’r sector cyhoeddus a phreifat yn darparu ac yn datblygu gwasanaethau – mae gwaith rhagorol Barcud yn y gofod RhoB yn dangos sut y gallwn dyfu y rhanbarth a thorri carbon.”

David Owen – Rheolwr Rhaglen ddigidol, tyfu canolbarth cymru

Mae sawl un yn credu mai’r sector preifat sydd yn arwain ar arloesi ond yn aml, nid yw hynny’n wir. Byddai rhai yn dweud mai myth llwyr yw hynny – gwyliwch y fideo hwn:

Yn fy mlog nesaf, byddaf yn ymdrin â sut y mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnal gweithgareddau arloesi mewnol gyda LoRaWAN a hynny o reoli llifogydd yn well i fonitro iechyd coed.

Blog gan Peter Williams – Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru

Ymadawiad – darparwyd y dwy fideo gan ffynhonnell allanol felly maent ar gael yn Saesneg yn unig

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s