Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi sut ydym am roi cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ddefnyddio technoleg ddigidol yn y byd modern.
Mae technoleg ddigidol bellach yn agwedd sylfaenol ar ein bywydau bob dydd – caiff ei defnyddio ar gyfer adloniant a gweithgareddau hamdden, mewn gwaith ac addysg, i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae llawer ohonom ni’n cael budd o allu defnyddio offer a thechnoleg ddigidol yn hyderus, ond wrth i newidiadau mewn technoleg ddigidol gyflymu, mae risg y bydd mwy o bobl yn cael eu hallgáu’n ddigidol, neu’n parhau i fod wedi’u hallgáu. Y bobl sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol yw’r rheini sydd heb fynediad, sgiliau, hyder, na chymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu offer digidol.

Mae’r gagendor rhwng y rheini sydd â mynediad at ddyfeisiau – gliniaduron, ffonau clyfar, tabledi, pecynnau data addas, sgiliau a hyder digidol a’r rhai sydd ddim, wedi dod i’r amlwg ers y pandemig, ac yn fwy nag erioed nawr, drwy effaith yr argyfwng costau byw.
Yn y blog hwn rydym am ddweud wrthych am ddarn pwysig o ymchwil i archwilio Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru a allai chwarae rhan bwysig wrth wella bywydau pobl Cymru. Comisiynwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru o Brifysgol Lerpwl, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Loughborough, Cwmpas a’r Good Things Foundation.
Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o flogiau wrth i’r gwaith ar y Safon fynd rhagddo drwy gydol y flwyddyn i ddod.
Beth yw Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol?
Mae’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn ddiffiniad sy’n canolbwyntio ar bobl o’r hyn y mae cynhwysiant digidol yn ei olygu yng Nghymru fodern. Mae’r safon yn ystyried ‘pecyn o nwyddau digidol’ – mae hyn yn cynnwys y math o ddyfais, cyflymder band eang a/neu ddata dyfeisiau symudol a’r sgiliau digidol sylfaenol sy’n cael eu hystyried yn angenrheidiol i allu defnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.
Diffiniad: “Mae safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cynnwys cael mynediad i’r rhyngrwyd, offer digonol a digon o hyfforddiant a chymorth, ond mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu gyda chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus”.
Faint o gynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma?
Cafodd rhan gyntaf y gwaith ei wneud dros gyfnod o naw mis a daeth i ben yng Ngaeaf 2022. Pwrpas y cam hwn oedd siarad ag amrywiaeth eang o randdeiliaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ledled Cymru i gael eu cefnogaeth i’r gwaith o ddatblygu meincnod cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant digidol. Rhan bwysig arall o’r gwaith oedd cyfres o grwpiau ffocws gydag aelodau o’r cyhoedd i brofi, archwilio a chytuno ar ddiffiniad ar gyfer y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.
I ddechrau, roedd cam cyntaf y gwaith yn canolbwyntio ar anghenion aelwydydd â phlant er mwyn deall beth sy’n ofynnol i gyrraedd trothwy’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. Adeiladodd hyn ar waith a gomisiynwyd drwy Sefydliad Nuffield, a oedd wedi rhoi cyllid i Brifysgol Lerpwl i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn y DU ar gyfer aelwydydd â phlant. Roedd amseriad y ddau ddarn hyn o waith yn caniatáu i Brifysgol Lerpwl gael gafael ar wybodaeth gan nifer eang o grwpiau ffocws ledled y DU a defnyddio canfyddiadau a oedd o fudd i’n gwaith sy’n benodol i Gymru. Mae canfyddiadau a canlyniadau yr ymchwil bellach wedi’u cyhoeddi mewn Crynodeb Gweithredol ac Adroddiad Llawn. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill.

Beth yw’r camau nesaf?
Rydym nawr yng ngham nesaf y gwaith.
Bydd y cam hwn yn archwilio’r diffiniad o Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol gyda grwpiau o bobl sydd fwyaf mewn perygl o allgau digidol, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl, cymunedau lleiafrifoedd ethnig a thrigolion tai cymdeithasol. Fel yn achos y cam cyntaf, bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar drafodaethau manwl gydag aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid i ystyried sut y gellid gweithredu a mesur y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol a pha gamau y gellid bod eu hangen i gefnogi pobl i’w chyrraedd. Bydd hyn yn debygol o arwain at argymhellion pellach.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynglŷn â’r adroddiad ar Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, rhowch wybod inni yn y sylwadau isod.
Blog gan Lisa, Y Tîm Cynhwysiant Digidol, Llywodraeth Cymru