Os felly, mae nawr yn gyfnod cyffrous i ymuno â’r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT) yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol i helpu i gefnogi’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau’n ddigidol i ddinasyddion, trawsnewid ein ffyrdd mewnol o weithio, a rheoli a datblygu ein seilwaith a’n gwasanaethau technegol yn Llywodraeth Cymru.
Drwy ein Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae Gweinidogion wedi codi’r bar ar gyfer eu disgwyliadau o ran sut caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu darparu’n ddigidol, gan gymryd agwedd fodern sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac agwedd ystwyth tuag at eu dyluniad. Yn Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau gyda gwasanaethau digidol, data a thechnoleg sy’n gyrru gwasanaethau integredig a deallus i staff – a fydd ar ddiwedd y dydd yn ein helpu i sicrhau gwell i bobl Cymru.
Rydym am i bobl sydd â’r sgiliau cywir a’r angerdd am ddarparu gwasanaethau modern, o’r radd flaenaf, i’n helpu i yrru’r agenda ddigidol a thechnoleg hon ymlaen.
Pa swyddi sydd ar gael?
Gall ymuno â’r proffesiwn DDAT yn Llywodraeth Cymru agor ystod o bosibiliadau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn dechrau eich gyrfa mewn un maes gwaith, megis gwella gwasanaethau mewnol gydag arloesi digidol, cyn camu i gyd-destun cwbl wahanol lle gallech fod yn cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru i lunio gwasanaethau digidol sy’n cefnogi pobl Wcráin yn ystod argyfwng.
Mae gennym eisoes swyddi wedi’u hysbysebu i gefnogi ein timau arloesi a thechnoleg digidol mewnol – rydym yn chwilio am benseiri technegol, peirianwyr cwmwl, datblygwyr, a dadansoddwyr busnes. Bydd y swyddi hyn wrth wraidd ein rhaglen newid a thrawsnewid mewnol – yn ogystal â bod yn rolau allweddol wrth sicrhau bod y sefydliad yn un gwydn ac yn ddiogel.
Yr wythnos hon byddwn yn hysbysebu ystod o swyddi yn ein timau Dysgu Digidol ar draws llawer o’r teuluoedd swyddi digidol, data a thechnoleg. Mae’r swyddi hyn yn cefnogi ein rhaglen waith Hwb EdTech, sy’n darparu amgylchedd dysgu digidol o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Ddiddordeb? Mae gwneud cais yn hawdd…
Mae gwneud cais yn syml – cliciwch ar y ddolen ac anfonwch eich CV atom yn y templed a ddarperir. Mae defnyddio’r templed yn bwysig i sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi am eich sgiliau a’ch profiad. Yna bydd gofyn i chi gymryd prawf technegol ac, os bydd yn llwyddiannus yn y prawf, cyfweliad o bell.
Y dyddiad cau yw 12 Medi ar gyfer y set gyntaf o swyddi, a bydd y swyddi Dysgu Digidol ar gael rhwng 26 Awst a chanol Medi.
Glyn Jones
Prif Swyddog Digidol