Fel y byddech yn ei ddisgwyl, yma yn Llywodraeth Cymru rydym yn casglu amrywiaeth eang o ddata, ac un o’n harolygon mwyaf hirhoedlog yw Arolwg Amaethyddol Cymru sydd wedi bod ar waith ers 1867! Mae hwn yn arolwg mawr, a bob blwyddyn, mae ffermwyr yn rhoi llawer o wybodaeth inni am eu tir, eu da byw a’r bobl sy’n gweithio ar eu ffermydd yng Nghymru.
Mae pethau wedi symud ymlaen gryn dipyn ers 1867 ac eleni, aethon ni ati i roi cynnig ar ddefnyddio technoleg ddigidol i gasglu’r wybodaeth hon. Tan eleni, byddai ffermwyr yn llenwi ffurflenni papur ac yn eu hanfon atom inni gael eu prosesu a chasglu’r data ynghyd er mwyn eu dadansoddi. Er bod y dull hwn wedi hen ennill ei blwyf, nid dyma’r ffordd fwyaf effeithlon o gasglu’r wybodaeth ac nid dyma’r ffordd hawsaf, o reidrwydd, i ffermwyr roi gwybodaeth inni.
Felly, eleni, penderfynwyd rhoi cynnig ar gasglu data ar-lein am y tro cyntaf, a rhoi’r dewis i ffermwyr naill ai lenwi’r arolwg ar-lein neu ddefnyddio’u ffurflenni papur arferol. Gan fod gennym blatfform ar-lein llwyddiannus eisoes, Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, sy’n blatfform y mae ffermwyr wedi hen arfer ag ef, roedd yn gwneud synnwyr inni weithio gyda thîm Taliadau Gwledig Cymru i adeiladu ar hyn ac i’w ddefnyddio i gynnal yr arolwg.
Manteision y dull digidol
Un o fanteision symud ar-lein yw mai dim ond ateb y cwestiynau sy’n berthnasol iddyn nhw y mae angen i ddefnyddwyr ei wneud wrth lenwi’r arolwg, ac nad ydynt ychwaith yn gweld y cwestiynau sy’n amherthnasol iddyn nhw. Hefyd, mae modd rhoi nodiadau canllaw neu awgrymiadau wrth ymyl y cwestiynau y gallai defnyddwyr fod yn cael trafferth gyda nhw, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw gael help. Yn ogystal, mae popeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gall y ffermwyr newid yn hawdd rhwng y ddwy iaith os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.
Mae casglu’n ddigidol yn golygu hefyd, yn hytrach na bod yn rhaid inni aros tan i ffurflen ddod i law er mwyn gwirio am wallau posibl, bod yr arolwg ar-lein bellach yn rhoi gwybod i’r ffermwyr, wrth iddyn nhw lenwi’r arolwg, eu bod wedi gwneud camgymeriad ac yn gofyn iddyn nhw ei newid cyn cyflwyno’r ffurflen. O’r herwydd, mae ffermwyr yn cael llai o alwadau ffôn oddi wrthym (rwy’n siŵr eu bod yn falch iawn am hynny), mae’r wybodaeth a gawn yn fwy cywir, ac mae’r broses gyfan yn gynt o lawer.
Mae’r dull digidol wedi bod o gymorth hefyd wrth gyfathrebu â’r ffermwyr. Er i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg gael llythyr yn gofyn iddyn nhw lenwi’r arolwg, anfonon ni neges e-bost neu neges destun SMS hefyd i roi gwybod iddyn nhw bod y system
ar-lein wedi agor. Yn wir, sylwon ni fod anfon nodiadau atgoffa digidol wedi arwain at gynnydd trawiadol yn nifer yr ymatebion.
Sgoriau ar y drysau
Allech chi ddim disgwyl blog am arolwg ystadegol heb o leiaf ychydig o ffigurau. Eleni, anfonwyd yr arolwg i 10,600 o ffermydd, ac erbyn i’r arolwg ar-lein ddod i ben ar 1 Hydref, roedd:
• 875 o arolygon wedi’u cwblhau ar-lein
• 3,295 o arolygon papur wedi dod i law
• Cyfanswm o 4,120 o arolygon wedi’u cwblhau
At ei gilydd, roedd y ffurflenni ar-lein yn rhyw 20% o’r holl arolygon, ac mae hynny, yn ein barn ni, yn eithaf da ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Hefyd, yn yr hinsawdd sydd ohoni, lle mae cael pobl i ymateb i arolygon y llywodraeth yn her gyson, rydym yn gobeithio y bydd cynnig yr arolwg ar-lein yn helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa honno.
Felly, ble nesaf? Wel, byddwn yn edrych ar yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn na weithiodd, er mwyn inni fedru gwella yn barod ar gyfer arolwg y flwyddyn nesaf. Gobeithio y byddwn yn gallu adeiladu ar ein profiadau a gweld hyd yn oed fwy o ffermwyr yn dewis yr opsiwn digidol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Post gan Stuart Neil, Ystadegydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig