Diweddariad y prif ystadegydd: dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 ac arolwg adborth

Read this page in English

Cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) diwethaf ei gyhoeddi yn 2019. Fel y nodwyd yn ein blog diweddariad ar fynegai y llynedd, bydd mynegai wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026. Rydym yn anelu at ddiwedd 2025 ac ar hyn o bryd rydym yn cyfeirio at y diweddariad arfaethedig fel MALlC 2025.

Parhau i ddarllen

Y diweddaraf ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog cyntaf, nid yw ein gwasanaethau OData wedi bod ar gael ers diwedd mis Awst. Gwnaethon ni esbonio yn y diweddariad fis diwethaf y cynlluniau dros dro fydd yn cael eu rhoi ar waith tan y caiff gwasanaeth newydd StatsCymru ei sefydlu yn 2025.

Mae’r blog hwn yn esbonio’r trefniadau dros dro ar gyfer ffeiliau data fydd yn cymryd lle OData.

Parhau i ddarllen

A all AI ein helpu i ailddarganfod coetiroedd coll?

Postiad gan Evie, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Mae llawer o goetiroedd yng Nghymru wedi’u clirio, yn enwedig ers y 19eg ganrif.  Rydym yn diffinio ‘coetir coll hanesyddol’ fel coetir sydd i’w weld ar hen fapiau ond sydd bellach wedi diflannu. Gallai fod yn addas ailblannu’r hen safleoedd hyn gan y byddai’r pridd gwreiddiol wedi bod yn addas iawn ar gyfer tyfu coed gyda rhwydwaith o wreiddiau ac ecosystem eisoes ynddo. Bydd cynlluniau creu neu adfywio coetiroedd ar y safleoedd hyn fod yn fwy tebygol o lwyddo a chefnogi targedau’r llywodraeth, fel Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r blog hwn yn disgrifio sut mae’r uned gwyddor data yn defnyddio ‘golygon cyfrifiadurol’ (math o AI sy’n gweithio gyda delweddau) i wneud hyn.

Sut mae gwybod ble oedd y coetiroedd hyn?

Mae cliwiau ynghylch ble oedd y coetiroedd hyn i’w gweld ar hen fapiau sy’n rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar sut mae ein tirwedd wedi newid. Ond mae’r mapiau hyn yn anodd eu defnyddio ac yn gofyn am ymdrech i’w dadansoddi, yn enwedig os ydych chi’n edrych ar y wlad gyfan.

Ffigur 1: Rhannau o’r map sy’n goetir

Ffigur 1: Rhannau o'r map sy'n goetir

Mae’r Uned Gwyddor Data wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn CADW (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru), ein tîm daearyddiaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried sut y gellid defnyddio modelau cyfrifiadurol i adnabod coetiroedd ar hen fapiau. Gall cymharu’r hen fapiau hyn â data diweddar ddatgelu’r coetiroedd coll a gwerthfawr hynny.

Sut gall AI helpu?

I hyfforddi’r model AI, rydym wedi defnyddio mapiau Arolwg Ordnans mor bell yn ôl â’r 1840au ac wedi labelu rhai safleoedd ar y mapiau â llaw gan ddefnyddio’r allwedd fel cyfeirnod. Gwnaethon ni ddefnyddio meddalwedd geo-ofodol ffynhonnell agored i dynnu ffiniau o amgylch symbolau i labelu gwahanol fathau o goetir. Roedd y labeli hyn yn cynnwys rhywogaethau coed fel Coed Conwydd, Perllannau a Helyg Gwiail.

Defnyddiwyd y mapiau hyn a’r labeli i ddysgu’r model AI i adnabod safleoedd tebyg ar rannau eraill y map gan ddefnyddio’r patrymau a symbolau (nodweddion) yr oedd wedi’u dysgu i’w hadnabod.

Mae ein fersiwn gyntaf o’r model wedi dangos canlyniadau addawol, fel y gwelwch yn Ffigur 2. Yn yr enghraifft hon, o ardal yn Llannerchymedd, Ynys Môn, roedd y model wedi lliwio’n wyrdd y rhannau yr oedd yn hyderus eu bod wedi’u mapio’n goetiroedd.

Ffigur 2: Coetir wedi’i liwio’n wyrdd gan AI

Ffigur 2: Coetir wedi'i liwio'n wyrdd gan AI

Mae AI yn gallu gweithio’n dda, ond nid yw bob amser yn gywir ac mae angen rhagor o waith i’w wella.

Mae’r AI wedi labelu ambell ran yn goetir, ond mewn gwirionedd mae symbolau’r map yn dangos eu bod yn chwareli, arfordir neu gyfuchliniau. Hefyd, ambell waith, byddai testun ar y map sy’n nodi coedwig neu allt, yn cael ei gamlabelu gan y model yn ystod yr hyfforddiant, fel darn o goetir. Trwy drugaredd, gellir cywiro’r gwallau hyn yng ngham nesaf y gwaith.

Ffigur 3. Tir wedi’i gamlabelu gan AI fel coetir

Ffigur 3. Tir wedi'i gamlabelu gan AI fel coetir

Beth nesaf?

Bydd cam nesaf ein gwaith yn canolbwyntio ar wella’r model AI trwy ychwanegu mwy o ddata hyfforddi sy’n cynnwys tir y mae’n ei gamlabelu’n aml a mireinio paramedrau’r model. Byddwn hefyd yn cymharu’r coetiroedd y mae’r model yn eu nodi â ffynonellau data eraill, megis Rhestr Coetiroedd Hynafol, i nodi’r mannau lle gallai coetiroedd fod wedi bodoli yn y gorffennol, ond nad ydynt yn bod mwyach, ac felly’n goetiroedd “coll”. Byddwn yn diweddaru’r gwaith hwn yn rheolaidd wrth iddo fynd yn ei flaen.

Diweddariad pellach ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog blaenorol, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst.

Mae’r neges hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith i ddisodli OData nes bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar waith yn 2025.

Parhau i ddarllen

Mae LoRaWAN yn galluogi gweithio’n ddoethach yn lleol ar draws Cymru

Blog gan Peter, Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers fy mlog diwethaf  a oedd yn ymdrin â sut mae LoRaWAN yn helpu i drechu trosedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ers hynny, rydym wedi gweld y rhaglen Trefi Smart yn ffynnu, gyda’r tîm yn gwneud llawer iawn o waith ymgysylltu, ac yn cynnal cynhadledd Smart oedd yn canolbwyntio ar drefi, y gyntaf o’i bath mae’n debyg, a hynny yn Wrecsam (sy’n eironig yn ddinas!).

Darllen rhagor: Mae LoRaWAN yn galluogi gweithio’n ddoethach yn lleol ar draws Cymru

Roedd y gynhadledd yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru a Lisa Perkins, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Byd-eang BT, Adastral Park.

Delweddau o siaradwyr yn y digwyddiad

Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar astudiaeth achos Trefi Smart o Wrecsam isod:

ASTUDIAETH ACHOS Technoleg SMART Wrecsam / Astudiaeth Achos: Technoleg SMART yn Wrecsam (youtube.com)

Mae ysbryd didwylledd ar waith yng Nghymru.

Roedd pwysigrwydd rhannu data a data agored yn neges arbennig o gryf a ddaeth o’r gynhadledd, yn ogystal â chytundebau mynediad agored, sy’n ffordd symlach o gael cysylltedd symudol gwell a chyflymach mewn rhannau prysur o drefi.  Mae hyn yn rhywbeth y mae David Evans, Swyddog Datblygu Trefi Smart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi arwain arno, ac yn ddiweddar dathlwyd yr hyn a ystyrir yn “Gytundeb Mynediad Agored” cyntaf Cymru gyda gweithredwr rhwydwaith symudol.

Rhannodd y gynhadledd amrywiaeth o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru, gan gynnwys un yn canolbwyntio ar reoli seilwaith gwyrdd yn well gan ddefnyddio synwyryddion a data yn Y Fenni, siop goffi sy’n defnyddio synwyryddion clyfar yn Wrecsam, ynghyd â chyflwyniadau gan “Global Urban Futurist” Peter Griffiths o Bable Smart Cities, a Paul Sandham o Patrwm.

Ond pwy arall yng Nghymru sy’n rhoi negeseuon yr arweinwyr digidol ar waith?

Buddsoddi er mwyn arbed

Mae llygaid pawb ar Gonwy am y tro gan eu bod wedi bod yn gweithio ar sawl prosiect sy’n seiliedig ar Ryngrwyd Pethau (IoT) LoRaWAN, megis monitro coed i gynorthwyo twf yn ystod y blynyddoedd bregus cychwynnol hynny, cwlfertiau, C02 a llawer o “bethau” eraill.

Pam monitro coed?  Mae monitro coed ag IoT yn cynnig nifer o fanteision:

  • Canfod clefydau a phlâu yn gynnar.
  • Optimeiddio dulliau dyfrhau a rheoli dŵr
  • Monitro’r amgylchedd
  • Rhagweld gwaith cynnal a chadw .
  • Dealltwriaeth sy’n seiliedig ar ddata.
Delweddau o enghreifftiau o astudiaethau achos gan ddefnyddio synwyryddion

Huw McKee, Pennaeth TG a Thrawsnewid Digidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod ar daith Tref Smart / IoT gan ddefnyddio Synwyryddion Clyfar. 

Golygodd grant ariannol gan Lywodraeth Cymru bod ein dealltwriaeth o synwyryddion gwahanol wedi cyflymu wrth wella darpariaeth IoT ar draws yr Awdurdod. 

Mae’r sylw wedi bod yn allweddol i ddiwallu anghenion gwahanol adrannau drwy ddarparu prosiectau mor amrywiol â monitro lleithder pridd, monitro lefelau dŵr afonydd, amodau amgylcheddol mewn ysgolion, swyddfeydd ac ardaloedd byw a’r defnydd a wneir o doiledau cyhoeddus. 

Mae casglu data empirig diduedd yn hanfodol wrth ganiatáu i Awdurdodau Lleol wneud penderfyniadau allweddol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar wasanaethau a phrofiadau cyhoeddus.  Mae’r data’n ein galluogi i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar realiti yn hytrach na gwybodaeth ddeongliadol/ anecdotaidd. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i Swyddogion a Chynghorau wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd.

Mae defnyddio Technoleg IoT yn allweddol i’n dyfodol sy’n rhoi platfform pellach i wasanaethau cyhoeddus archwilio eu heffeithlonrwydd eu hunain a darparu gwasanaethau mwy effeithiol sydd mor bwysig i’r sefydliad a’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Arloesi wrth arbed carbon:

Mae llawer o academyddion yn darganfod y gall LoRaWAN eu helpu i leihau eu hôl troed carbon a bod yn llawer mwy craff wrth gasglu data.

Roedd un sefydliad, er enghraifft, yn teithio yn ôl ac ymlaen i ogledd Sir Benfro i gasglu data lefel nitradau ar fferm arddangos Cyswllt Ffermio lle gellid defnyddio LoRaWAN. 

Trwy fabwysiadu technoleg LoRaWAN, fe wnaethon nhw lwyddo i dorri i lawr ar y teithiau a wnaed i’r fferm a lleihau’r risg y byddai data’n mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi.

Cyfuno setiau data ar gyfer canlyniadau gwell:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cwblhau prawf cyfunol o gysyniad data ac maent yn barod i weithredu datrysiad newydd gan ddefnyddio gorsafoedd monitro presennol Cyfoeth Naturiol Cymru a synwyryddion LoRaWAN y cyngor ei hun a ddefnyddir mewn ardaloedd nad oedd yn bosibl gyda thechnolegau hŷn.  Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos bod modd rhagweld risg llifogydd yn well, ac mae Scott Andrews o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn tynnu sylw at hyn ar un o’i negeseuon ar LinkedIn yma.

Wrth gwrs, rydym yn gwybod nad am y dechnoleg y mae hyn (er ei fod yn cyffroi llawer ohonom), ond am y diwylliant, y data, a’r canlyniadau.

Trawsnewid Digidol

Mae cael pawb yn gytûn ar y daith drawsnewidiol hon yn heriol, ond mae data’n grymuso pobl ac yn dod yn offeryn i’w cynorthwyo. 

Rydym bellach yn gallu cael data iddynt o leoedd lle nad oeddem erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl 10 mlynedd yn ôl, diolch i LoRaWAN a thechnolegau IoT eraill.

Dychmygwch yr hyn y gallai IoT o’r Gofod ei wneud…

Tan y tro nesaf:-)

Diweddariad y prif ystadegydd: diweddaru enwau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) Cymru

Read this page in English

Beth yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs)?

Ardaloedd daearyddol â maint poblogaeth tebyg yw LSOAs a ddefnyddir i lunio adroddiadau am ystadegau ardaloedd bach. Mae 1,917 o LSOAs yng Nghymru. Mae pob LSOA yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd a phoblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.

Parhau i ddarllen

Datblygu Sgiliau Gwyddor Data

Postiad gan Steven, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Mae gwyddor data yn sgil allweddol i drawsnewid ein gwaith o fewn Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn ei defnyddio i foderneiddio ac awtomeiddio prosesau data a’n helpu i weithio’n effeithlon, yn dryloyw ac yn gywir. Mae’r uned gwyddor data wedi bod yn awyddus bob amser i helpu staff i ddysgu a gwella eu sgiliau gwyddor data, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau dwy fenter newydd i gefnogi’r nod hwn.

A royalty-free stock illustration representing a computer screen and data. (pixabay.com)
Parhau i ddarllen

Diweddariad pwysig ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst. Mae hyn oherwydd y bydd Microsoft yn rhoi’r gorau i gefnogi’r dechnoleg ac ni fydd ein datrysiad newydd yn barod tan 2025.

Mae’r postiad hwn yn esbonio beth fydd yn digwydd, sut bydd yn effeithio arnoch chi a pha drefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith.

Parhau i ddarllen

Diweddariad y prif ystadegydd: deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd

Read this page in English

Ar 6 Mehefin  2024 byddwn yn cyhoeddi data dros dro ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd wedi’i gofnodi gan yr heddlu ar gyfer mis Hydref i fis Ragfyr 2023. Ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023 bu cryn ddiddordeb mewn data ar wrthdrawiadau.

Parhau i ddarllen

Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru – Blwyddyn yn ddiweddarach

Read this page in English

Mae’n flwyddyn ers i ni gyhoeddi Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru sy’n nodi ein gweledigaeth bod Cymru’n ffynnu trwy seibergadernid, talent ac arloesedd.

Mae gan y Cynllun bedwar maes blaenoriaeth i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth:

  • datblygu ein hecosystem seiber
  • creu llif o dalent seiber
  • cryfhau ein seibergadernid; a 
  • diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

Gallwch ddarganfod mwy pam ein bod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn ar ein blogiau blaenorol.

Parhau i ddarllen