Diweddariad y prif ystadegydd: dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 ac arolwg adborth

Read this page in English

Cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) diwethaf ei gyhoeddi yn 2019. Fel y nodwyd yn ein blog diweddariad ar fynegai y llynedd, bydd mynegai wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026. Rydym yn anelu at ddiwedd 2025 ac ar hyn o bryd rydym yn cyfeirio at y diweddariad arfaethedig fel MALlC 2025.

Y dangosyddion unigol sy’n sail i MALlC yw’r elfennau sy’n ffurfio’r mynegai cyfan ac, yn dilyn adolygiad o’r data sydd ar gael, rydym yn bwriadu diweddaru’r rhan fwyaf o’r dangosyddion, ac ychwanegu rhai dangosyddion newydd o bosibl, ar gyfer MALlC 2025.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025, ochr yn ochr â chyfres o gwestiynau ar SmartSurvey sy’n gofyn am farn defnyddwyr. Rydym hefyd eisiau gwybod pa un o’n hallbynnau (adroddiadau, setiau data ac offer dadansoddol eraill) oedd y mwyaf defnyddiol ar gyfer ein mynegai diwethaf, a pha allbynnau yr hoffech eu gweld ar gyfer MALlC 2025.

Mae’r arolwg hwn yn agored i bob unigolyn a sefydliad ac yn dechrau ar 11 Tachwedd 2024, gan ddod i ben ar 16 Rhagfyr 2024. Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r arolwg hwn yng ngwanwyn 2025.

Cynhelir gweminarau (seminarau ar-lein) ar 20 Tachwedd 2024 a 3 Rhagfyr 2024. Bydd y gweminarau’n cynnwys cyflwyniad ar gynigion ar gyfer pob dangosydd ynghyd â chyfle i ofyn cwestiynau. Ewch i wefan MALlC i gofrestru.

Beth yw MALlC?

MALlC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Bwriedir iddo nodi’r ardaloedd bach hynny lle mae’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd.

Ar hyn o bryd, mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) ar wahân o amddifadedd, ac mae pob un yn seiliedig ar amrywiaeth o ddangosyddion gwahanol. Bydd amddifadedd lluosog mewn ardal os bydd gan yr ardal grynodiad o bobl sy’n wynebu’r math o amddifadedd sy’n perthyn i fwy nag un o’r meysydd hyn:

  • incwm
  • cyflogaeth
  • iechyd
  • addysg
  • mynediad at wasanaethau
  • diogelwch cymunedol
  • yr amgylchedd ffisegol
  • tai

Mae gwybod sut mae amddifadedd wedi’i ddosbarthu ledled Cymru yn bwysig i lawer o sefydliadau wrth ddatblygu polisïau, rhaglennu a chyllid sy’n seiliedig ar ardaloedd. Gellir defnyddio MALlC (yn aml ar y cyd â gwybodaeth arall) i lywio’r penderfyniadau hyn a rhoi gwell dealltwriaeth o batrymau amddifadedd yng Nghymru. Caiff MALlC hefyd ei ddefnyddio’n eang fel adnodd ymchwilio er mwyn dadansoddi anghydraddoldeb o ran canlyniadau, a hynny gan amlaf drwy ddadansoddi setiau data eraill gan gynnwys lleoliad yn ôl degradd neu gwintel o amddifadedd ardal.

I gael rhagor o wybodaeth am beth yw MALlC, sut y gellir ei ddefnyddio a sut na ellir ei ddefnyddio, gweler adroddiad canllaw MALlC 2019.

Datblygu’r cynigion

Er mwyn archwilio dangosyddion ar gyfer MALlC a sicrhau eu hansawdd, rydym wedi sefydlu saith grŵp maes arbenigol ar wahân, gydag incwm a chyflogaeth wedi’u grwpio ynghyd. Mae pob grŵp maes yn cynnwys arbenigwyr dadansoddol o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)) ac academyddion ynghyd â chynrychiolwyr polisi o Lywodraeth Cymru lle bo hynny’n briodol.

Gwnaeth pob grŵp ystyried dangosyddion MALlC 2019 ar gyfer y maes, y materion a godwyd yn ymgynghoriad 2019, a ffynonellau data newydd posibl. Mae’r grwpiau maes wedi ystyried a yw’r dangosyddion arfaethedig yn bodloni rhestr o feini prawf ar gyfer dangosyddion: yn gryno, mae angen i ddata dangosyddion MALlC fod yn gadarn ar lefel ardaloedd bach a chwmpasu Cymru gyfan. Yn ddelfrydol, dylai dangosyddion fesur yn uniongyrchol fath o amddifadedd sy’n effeithio ar nifer rhesymol o bobl, a dylid gallu ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Ers y cyfnod cyn cyhoeddi’r mynegai diwethaf yn 2019, mae’r cyd-destun a’r ffynonellau data ar gyfer mesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru wedi newid yn sylweddol. Gwnaeth ein hadolygiad o’r dangosyddion ystyried effaith pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ar argaeledd a thueddiadau data, yn ogystal â newidiadau i’r dirwedd bolisi sy’n sail i rai dangosyddion penodol, megis cyflwyno Credyd Cynhwysol a’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mewn meysydd eraill, mae datblygiadau o ran data gan gynnwys canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi ein harwain i gynnig gwelliannau neu ychwanegiadau i MALlC ar gyfer 2025. Mewn rhai mannau, rhown ddisgrifiad o waith sy’n mynd rhagddo i archwilio addasrwydd dangosyddion posibl ar gyfer MALlC 2025, yn hytrach na disgrifiadau cyflawn o’r dangosyddion, ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ymatebion i rai neu’r holl gwestiynau yn yr arolwg. Byddem yn gwerthfawrogi adborth ar ba mor dda y byddai ein cynigion newydd yn casglu gwybodaeth am amddifadedd sy’n berthnasol i’r maes penodol yn eich barn chi, p’un a ydynt yn ychwanegu gwerth at y dangosyddion presennol ar gyfer y maes ai peidio, ac unrhyw dystiolaeth i ategu hyn.

Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod ble y gallai dangosyddion gael eu defnyddio mewn ffyrdd ehangach o bosibl, a beth allai’r ffyrdd hynny fod. Rydym hefyd yn awyddus i bennu mannau gwan er mwyn gwella MALlC 2025 neu fynegeion yn y dyfodol.

Ymunwch â’n rhestr ddosbarthu

Bydd diweddariadau pellach wrth inni symud tuag at y mynegai newydd. Os ydych chi am gael gwybod am wybodaeth newydd ynghylch MALlC, anfonwch e-bost at ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.

Nia Jones
Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru