Seiber: Cyhoeddi Cynllun Gweithredu i Gymru

Read this page in English

Yr wythnos hon rydym yn falch o rannu ein bod wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar ddatblygiad y Cynllun Gweithredu Seiber drwy gyfres o flogiau. Yn y gyfres hon rydym wedi esbonio beth yw seiber, sut mae’r ecosystem seiber yn gweithio, pam mae angen Cynllun Gweithredu Seiber arnom ac amlinellu beth yw’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer seiber yng Nghymru yn ein barn ni.

Rydym hefyd wedi rhannu fideo ar y Cyfryngau Cymdeithasol a gafodd ei ffilmio gyda’n partneriaid Hyb Arloesedd Seiber, Thales a Tarian sy’n amlygu cryfderau Cymru o ran partneriaethau.

Yn y blog hwn, byddwn ni’n rhoi trosolwg ichi o’r hyn y byddwch chi’n ei weld yng Nghynllun Gweithredu Seiber i Gymru a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl nesaf.

Beth sydd yn y cynllun

Mae’r cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer seiber yng Nghymru ynghyd â chamau i gyflawni’r weledigaeth hon.

Ein gweledigaeth yw fod: Cymru yn ffynnu drwy seibergadernid, doniau ac arloesi.

Mae’r cynllun yn cynnwys pedwar maes blaenoriaeth cysylltiedig:

  1. Datblygu ein hecosystem seiber
  2. Adeiladu Llif o dalent seiber
  3. Cryfhau ein seibergadernid
  4. Diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

O dan bob un o’r meysydd hyn rydym yn amlinellu’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd a’r camau fyddwn yn cymryd. Gallwch ddarllen mwy o fanylion am yr hyn y mae’r meysydd hyn yn ei olygu yn ein blog Seiber: Diffinio ein blaenoriaethau i Gymru

Beth allwch chi ei ddisgwyl nesaf

Tra bod y Cynllun Gweithredu Seiber yn nodi gweledigaeth ar gyfer seiber yng Nghymru, y cam nesaf yw i ganolbwyntio ar cyflawni’r camau gweithredu. Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr a’n partneriaid ar draws y sector i ymuno a chydweithio ar gyflawni’r cynllun. Os mae eich gwaith yn ymwneud â’r camau a amlinellir yn y cynllun, ac hoffech gysylltu defnyddiwch yr  adran sylwadau isod.

Wrth inni weithio ar gyflawni’r cynllun, byddwn hefyd yn darparu diweddariadau drwy’r blog hwn ar y gwaith sy’n digwydd, felly cadwch lygad allan am flogiau yn y dyfodol.

Blog gan Tîm Arweinyddiaeth a Chydlynu Seiber

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s