Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ennill wrth ddysgu, ond beth maen nhw’n ei gynnwys mewn gwirionedd?! Mae James, cyn-brentis o’n cynllun DDaT diweddar yma i ddweud wrthych.
Sut wnes i gyrraedd yma

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roeddwn i wedi bod yn gweithio fel dylunydd gwefannau hunangyflogedig am 10 mlynedd. Roeddwn i’n dda am ddylunio gwefannau ar gyfer busnesau bach, ond roeddwn i eisiau ehangu fy ngwybodaeth a dysgu mwy am holl agweddau’r byd digidol. Roeddwn i hefyd yn anhapus ynglŷn â pha mor ansicr oedd bod yn hunangyflogedig, ac roeddwn i’n awyddus i sicrhau gyrfa a oedd yn fwy sefydlog i mi a fy nheulu.
Parhau i ddarllen