Blog gwadd: Dod â chymunedau masnachol a chaffael Cymru at ei gilydd

Read this page in English

Ym mis Hydref fe wnaeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyhoeddi fod cyflenwr wedi’i benodi i gefnogi cynllun peilot ar gyfer creu ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael‘ i roi cymorth ymarferol i dimau caffael sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi uchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a gefnogir gan economi ddigidol gref gyda sector cyhoeddus sy’n deall sut y dylen nhw weithio gyda’r farchnad i gyflawni’r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn ffordd ymatebol a hyblyg.

Mae gwaith ar y Ganolfan bellach wedi dechrau gyda’n cyflenwyr CURSHAW a Perago ac yn y blog cyntaf hwn am y gwaith, mae Victoria Ford o Perago, yn esbonio ychydig am ganolbwynt y gwaith a sut gallwch chi gymryd rhan.

Y tu allan i’r proffesiwn, mae caffael yn aml yn cael ei ystyried fel cyfrwng i brynu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi mewn ffordd mor effeithlon â phosibl tra’n aros o fewn cyfraith a rheolau caffael. Yn aml nid yw pobl nad ydyn nhw’n ymwneud â chaffael yn gwybod beth yw’r rheolau hynny ac maen nhw’n dibynnu ar gydweithwyr caffael i’w cadw ar y trywydd iawn. A dyna le mae’n dod i ben. Y gwir amdani yw bod masnachol a chaffael yn allweddol i gyflawni’r polisïau a’r ddeddfwriaeth sydd â’r potensial i newid siâp Cymru a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. O newid hinsawdd i’r argyfwng costau byw, mae’r penderfyniadau masnachol y mae’r sector cyhoeddus yn eu gwneud yn gallu, ac fe ddylen nhw, arwain at newid cadarnhaol.

Canolbwynt ein gwaith

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ymarfer darganfod i ddeall yn well pa gefnogaeth sydd ei hangen. Ein ffocws nawr yw ystyried y gwasanaethau a fydd yn:

  • cefnogi gweithwyr proffesiynol masnachol a chaffael yng Nghymru yn well i ddeall a gweithredu polisi drwy eu gwaith
  • meithrin gallu masnachol a chaffael drwy raglen sgiliau gynhwysfawr a datblygu llif o dalent ar gyfer sefydliadau
  • sicrhau bod arfer da ar gael yn hawdd a chydgysylltu pobl a sefydliadau i rannu gwybodaeth a phrofiad drwy gymunedau ymarfer

Roedd canfyddiadau’r ymarfer darganfod yn cefnogi creu ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael’ gyda ffocws ar ailddychmygu’r proffesiwn caffael a’i rôl wrth gyflwyno polisi i greu canlyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Ein camau cyntaf fydd gweithio fel galluogwr, gan ddod â gweithwyr caffael a masnachol proffesiynol ledled Cymru ynghyd i rannu gwybodaeth a phrofiad. O safbwynt polisi, byddwn ni’n canolbwyntio ar Sero Net a datblygu cynaliadwy – blaenoriaeth i Gymru a’r argyfwng hinsawdd rydyn ni’n ei wynebu.

Dewis enw

Un o’n tasgau cyntaf oedd cael rhagor o wybodaeth ac adborth gan y gymuned am bwrpas a ffocws ein gwaith a hefyd i ddeall beth fyddai’r enw gorau arno! O’n harolwg yn nigwyddiad Procurex yng Nghaerdydd fis diwethaf, clywsom fod rhai pobl yn teimlo y gallai’r enw ‘Canolfan Ragoriaeth Caffael’ gael ei weld fel rhywbeth elitaidd, nad yw’n canolbwyntio ar y gymuned. Felly, rydyn ni’n gwneud rhywfaint o waith i greu enw sy’n fwy cydweithredol a chynhwysol. Byddwn ni’n blogio am y broses honno, yr hyn a ddysgon ni a’r enw newydd yn fuan.

Pwyslais ar gymuned

Mae hyn yn ymwneud â chymuned. Mae angen i ni feithrin cymuned fasnachol sy’n uchelgeisiol, sy’n cael ei gyrru gan ganlyniadau ac sy’n mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ym mhob rhan o Gymru.

Yn y Cam Alffa nesaf hwn o’r prosiect rydyn ni’n gweithio gyda’r cymunedau masnachol a chaffael ledled Cymru i gydlunio’r syniadau mwyaf addawol ar gyfer datblygu gwasanaethau a nodwyd yn ystod y darganfyddiad.

Dywedodd ein hymchwil hefyd fod y gymuned fasnachol eisiau canolbwyntio ar baratoi ar gyfer newidiadau rheoleiddio, deall y cyfleoedd ynghylch sgiliau caffael cynaliadwy a rheoli contractau adeiladu, felly byddwn yn dechrau yma.

Trwy gynhyrchu amrywiaeth eang o atebion posibl i fynd i’r afael â’r anghenion hyn, gallwn ni wneud yn siŵr y bydd y syniadau gwasanaeth yn gweithio’n ymarferol ac yn cael eu teilwra i anghenion penodol y farchnad yng Nghymru. Rydyn ni am fanteisio ar greadigrwydd a ffyrdd o weithio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i brofi’r cynnyrch a fydd yn sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen gyda’r sgiliau, y gallu a’r gefnogaeth i weithio’n wahanol.

Rydyn ni eich angen chi!

Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â chydweithio, rhannu’n agored, adeiladu cymunedau a chreu cynnydd a chyflymder ac rydyn ni angen gweithwyr proffesiynol caffael a masnachol i gymryd rhan.

Byddwn ni’n gofyn i bobl gymryd rhan yn ystod y misoedd nesaf a dylai ond gymryd ychydig oriau o’ch amser ond bydd yn amhrisiadwy wrth sicrhau ein bod ni’n creu gwerth i’r gymuned gaffael yng Nghymru; wedi’i greu a’i ddarparu gan y timau sy’n deall yr heriau ac sy’n gallu bod yn rhan o’r atebion. Os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o brofi’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu, yna cysylltwch â ni.

Victoria Ford
Rheolwr Gyfarwyddwr, Perago