Wedi’i bostio gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, gyhoeddi Strategaeth Ddigidol i Gymru sy’n nodi ein huchelgais i ddefnyddio dull digidol i wneud pethau’n well i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a chymuned fusnes Cymru.
Er gwaethaf yr heriau parhaus y mae’r pandemig wedi’u creu yr wyf yn falch o ddweud bod llawer wedi digwydd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu rhywfaint o’r gwaith digidol cyffrous sydd wedi bod yn digwydd ar draws y chwe chenhadaeth sy’n rhan o’r strategaeth, felly cofiwch ddilyn fy ffrwd Twitter @llc_psd.
Cenhadaeth Gwasanaethau Digidol
Gan fod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi cyhoeddi ei Phrif Weithredwr newydd yn ddiweddar, mae’n briodol rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut rydym yn cyflawni’r Genhadaeth Gwasanaethau Digidol.

Byddai’n anodd (ac yn creu blog hir iawn) i restru popeth mae sefydliadau yn ei wneud ledled Cymru, ond dyma rai gweithgareddau sydd wedi mynd rhagddynt o fewn y sector cyhoeddus:
- Un o’r prosiectau mwyaf sy’n cael ei arwain gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol fu’r adolygiad o wasanaethau cyhoeddus digidol. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi trosolwg manwl i ni ar aeddfedrwydd digidol a thechnoleg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae’r Ganolfan wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am hynt y gwaith drwy flogiau a sesiynau dangos a dweud (saesneg yn unig). Bydd hyn yn bwysig iawn i helpu i flaenoriaethu gwaith dros y blynyddoedd nesaf.
- Mae’r Ganolfan yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar brosiect darganfod i Wasanaeth Gwastraff Peryglus, gan archwilio sut i’w gwneud yn symlach ac yn haws i bobl gydymffurfio â rheoliadau. Maent yn cynnal sesiynau “dangos a dweud” rheolaidd fel rhan o’u hymrwymiad i weithio mewn modd agored. Mae ffilmiau o’r rhain ar gael drwy eu rhestr chwarae ar YouTube.
- Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gweithio gyda’r Ganolfan i archwilio sut i gynyddu effaith ei grant buddsoddi cymunedol a sut i sicrhau bod mwy o bobl yn elwa arno. Yn dilyn prosiect darganfod ac ymchwil gan ddefnyddwyr, maent eisoes wedi dechrau adeiladu, profi ac ailgreu prototeipiau.
- Ym maes iechyd, mae nifer o fentrau sy’n rhoi gofal i gleifion wrth wraidd gwasanaethau. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DCHW) a’r Ganolfan wedi dechrau prosiect darganfod 12 wythnos sy’n archwilio sut mae cleifion yn ymwneud â gwasanaethau digidol mewn meddygfeydd yng Nghymru.
- Mae Sam Hall, y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn dangos sut mae hi a’i thîm wedi ymrwymo i gefnogi awdurdodau lleol i weithio mewn modd agored drwy rannu straeon rheolaidd drwy eu blog. Hefyd fis diwethaf, cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei Chynhadledd Ddigidol gyntaf erioed. Rydym hefyd wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael i Sam a’i thîm ar gyfer 2022/23.
- Mae’r Ganolfan wedi bod yn darparu rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth ddigidol i uwch arweinwyr, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r dull digidol a sut y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl a staff. Hyd yma, mae’r adborth wedi bod yn galonogol iawn: “Gallaf ddweud yn hyderus mai hwn yw’r cwrs GORAU rwyf wedi bod arno erioed yn ystod fy ngyrfa 25 mlynedd”.
- Mae’r Ganolfan hefyd wedi bod yn darparu ystod eang o gyrsiau am ddim i staff y sector cyhoeddus ar bob lefel sy’n awyddus i ddysgu neu ddatblygu eu sgiliau digidol. Ochr yn ochr â hyn, maent hefyd yn cynnal sesiynau rhannu gwybodaeth yn aml i drafod materion penodol fel dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr; safonau gwasanaethau digidol; a, defnyddio data i wneud penderfyniadau.
- Datblygwyd cyfres gymeradwy o Safonau Gwasanaeth Digidol o ganlyniad i sgyrsiau niferus gyda llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn eu hanfod, maent yn gyfres o ganllawiau y gall unrhyw un eu dilyn i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu datblygu mewn ffordd ailadroddol a hyblyg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
- Sefydlwyd partneriaeth newydd i hyrwyddo arfer digidol da ar draws y trydydd sector yng Nghymru. Mae Newid yn brosiect newydd a ddarperir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a ProMo-Cymru, ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith eisoes ar y gweill i gasglu llinell sylfaen o sgiliau digidol yn y trydydd sector er mwyn pennu’r ffordd orau o helpu pobl i groesawu ac ymgorffori ffyrdd digidol o weithio.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy ar unrhyw un o’r uchod, yna byddwn yn eich annog i glicio ar y dolenni perthnasol.
Fel y dywedais eisoes, dim ond cipolwg yw’r rhain o’r gwaith gwych sy’n digwydd, ac mae llawer mwy o brosiectau’n dechrau neu ar y gweill.
Cadwch lygad ar fy nghyfrif twitter dros yr wythnosau nesaf i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd ar draws y teithiau eraill yn Strategaeth Ddigidol Cymru.