Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi fersiwn newydd a gwell o ein Ddangosfwrdd rhyngweithiol: Masnach nwyddau rhyngwladol, sy’n cyflwyno ystadegau masnach ranbarthol (‘Regional Trade Statistics’ – RTS) gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’n cynnwys crynodeb masnach, mapiau, siartiau a thablau masnach gyda phartneriaid a chynhyrchion, a siartiau cyfres amser.
Parhau i ddarllenArchifau Categori: Prif Ystadegydd
Y diweddaraf ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog cyntaf, nid yw ein gwasanaethau OData wedi bod ar gael ers diwedd mis Awst. Gwnaethon ni esbonio yn y diweddariad fis diwethaf y cynlluniau dros dro fydd yn cael eu rhoi ar waith tan y caiff gwasanaeth newydd StatsCymru ei sefydlu yn 2025.
Mae’r blog hwn yn esbonio’r trefniadau dros dro ar gyfer ffeiliau data fydd yn cymryd lle OData.
Parhau i ddarllenDiweddariad pellach ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog blaenorol, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst.
Mae’r neges hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith i ddisodli OData nes bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar waith yn 2025.
Parhau i ddarllenDiweddariad y prif ystadegydd: diweddaru enwau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) Cymru
Beth yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs)?
Ardaloedd daearyddol â maint poblogaeth tebyg yw LSOAs a ddefnyddir i lunio adroddiadau am ystadegau ardaloedd bach. Mae 1,917 o LSOAs yng Nghymru. Mae pob LSOA yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd a phoblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.
Parhau i ddarllenDiweddariad y prif ystadegydd: deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd
Ar 6 Mehefin 2024 byddwn yn cyhoeddi data dros dro ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd wedi’i gofnodi gan yr heddlu ar gyfer mis Hydref i fis Ragfyr 2023. Ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023 bu cryn ddiddordeb mewn data ar wrthdrawiadau.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: gwelliannau wedi’u cyflwyno i amcangyfrifon y farchnad lafur ar gyfer Cymru
Ym mis Medi 2023, fe wnaethom gyhoeddi blog Prif Ystadegydd yn rhoi cyngor am yr heriau sy’n cael eu hwynebu yn yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), effaith heriau o’r fath ar ystadegau’r farchnad lafur i Gymru a beth oedd cynlluniau’r SYG i fynd i’r afael â’r heriau.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: cyhoeddi data wedi’i ddiweddaru ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dilyn ymarfer dilysu ychwanegol
Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein canlyniadau terfynol o’r Cyfrifiad Ysgolion a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023. Mae’r canlyniadau terfynol hyn yn cynnwys data diwygiedig ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Rydym yn esbonio yn y blog hwn pam y bu’n rhaid cynnal dilysiad ychwanegol o’r data hwn a diwygio’r wybodaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: cymharu ystadegau rhestrau aros y GIG ledled y DU
Y llynedd, gwnaethom ymchwilio i fethodolegau ystadegau rhestrau aros y GIG a gynhyrchwyd gan bedair gwlad y DU a gwnaethom esbonio ein casgliadau cychwynnol ynghylch y gallu i gymharu prif fesurau perfformiad.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: deall y farchnad lafur yng Nghymru
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) erthygl yn trafod yr heriau presennol sy’n cael eu hwynebu yn Arolwg y Llafurlu (LFS), a pha gamau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â hyn. Heddiw, rydym yn trafod sut mae’r materion hyn yn effeithio ar ystadegau’r farchnad lafur i Gymru, a’r dull rydym yn ei gymryd i barhau i ddarparu darlun cadarn ac amserol o farchnad lafur Cymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: dadgyfuno data cyfiawnder Cymru
Heddiw, rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus i wella’r data ym maes cyfiawnder yng Nghymru sydd ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys datblygu dangosfyrddau rhyngweithiol i ddod â’r data sydd ar gael ar Gymru at ei gilydd mewn un lle. Fore heddiw, cyhoeddwyd y cyntaf o’r dangosfyrddau hyn – y Dangosfwrdd Rhyngweithiol Cyfiawnder Ieuenctid.
Parhau i ddarllen