Diweddariad y Prif Ystadegydd: deall y farchnad lafur yng Nghymru

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) erthygl yn trafod yr heriau presennol sy’n cael eu hwynebu yn Arolwg y Llafurlu (LFS), a pha gamau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â hyn. Heddiw, rydym yn trafod sut mae’r materion hyn yn effeithio ar ystadegau’r farchnad lafur i Gymru, a’r dull rydym yn ei gymryd i barhau i ddarparu darlun cadarn ac amserol o farchnad lafur Cymru.

Read this page in English.

Mesur y farchnad lafur

Mae’r LFS yn arolwg sampl mawr a’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur (cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd) ledled gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Mae’r arolwg hwn yn gofyn i sampl o filoedd o bobl ledled Cymru ar amrywiaeth o bynciau’r farchnad lafur, gan gynnwys gwybodaeth hanfodol am y rhai sy’n gweithio ac sydd ddim yn gweithio. Mae hyn yn wahanol i ffynonellau data eraill y farchnad lafur megis Swyddi’r Gweithlu (SYG) a data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu Wrth Ennill (PAYE) CthEF (SYG).

Mae maint a rheoleidd-dra’r LFS – gyda’r diweddariadau’n cael eu cyhoeddi bob mis – yn ei gwneud y ffynhonnell ddata sylfaenol a mwyaf amserol ar y farchnad lafur i Gymru.

Heriau ac effeithiau Arolwg o’r Llafurlu

Yn ystod y cyfnodau diweddar, mae maint sampl yr LFS wedi gostwng oherwydd heriau wrth gynnal cyfraddau ymateb. I Gymru, mae hyn wedi arwain at leihad yng nghadernid a dibynadwyedd y data. Mae amrywioldeb samplu wedi cynyddu, mae cyfyngau hyder wedi ehangu, ac mae’r prif rifau a thueddiadau pennawd wedi ymwahanu o ffynonellau data allweddol eraill y farchnad lafur.

Mewn ymateb i bandemig COVID-19, cynyddodd yr SYG faint y sampl i gysylltu â hwynt ar gyfer yr LFS i liniaru effaith y gostyngiad mewn cyfraddau ymateb. Ym mis Gorffennaf 2023, dychwelodd yr SYG i feintiau sampl cyn y pandemig a allai achosi heriau pellach fel yr amlinellwyd uchod, gan y bydd hyn o bosibl yn cael effaith ar niferoedd ymateb ac amrywioldeb samplu. Ni fydd effaith lawn y newid hwn yn amlwg nes bod chwarter llawn y data ar gael a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023.

Oherwydd yr anwadalrwydd cynyddol ac ehangu cyfyngau hyder, fel y dangosir yn ffigurau 1 a 2, mae’n anodd nodi a yw newidiadau chwarterol a blynyddol yn y data yn adlewyrchiad gwirioneddol o newidiadau ym marchnad lafur Cymru, neu effaith y sampl terfynol lai yn unig.

Ffigur 1: Cyfradd cyflogaeth a chyfyngau hyder LFS ar gyfer Cymru, tri mis hyd at Fehefin 2021 i’r tri mis hyd at Fehefin 2023

Siart sy'n dangos gwerthoedd cyfradd cyflogaeth LFS a chyfyngau hyder cyfatebol i Gymru. Yn gyffredinol, mae'r gyfradd gyflogaeth wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf ochr yn ochr â chynnydd yn y cyfyngau hyder.

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart sy’n dangos gwerthoedd cyfradd cyflogaeth LFS a chyfyngau hyder cyfatebol i Gymru. Yn gyffredinol, mae’r gyfradd gyflogaeth wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf ochr yn ochr â chynnydd yn y cyfyngau hyder.

Ffigur 2: Cyfradd ddiweithdra LFS a chyfyngau hyder i Gymru, tri mis hyd at Fehefin 2021 i’r tri mis hyd at Fehefin 2023

Siart sy'n dangos gwerthoedd cyfradd diweithdra LFS a chyfyngau hyder cyfatebol yng Nghymru. Mae'r gyfradd ddiweithdra a'r cyfyngau hyder cyfatebol ill dau wedi cynyddu dros gyfnodau diweddar.

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart sy’n dangos gwerthoedd cyfradd diweithdra LFS a chyfyngau hyder cyfatebol yng Nghymru. Mae’r gyfradd ddiweithdra a’r cyfyngau hyder cyfatebol ill dau wedi cynyddu dros gyfnodau diweddar.

Mae ansicrwydd amcangyfrifon LFS hefyd yn amlwg wrth gymharu’r LFS â ffynonellau data eraill. Mae niferoedd a thueddiadau cyflogaeth yr LFS ar gyfer Cymru wedi ymwahanu oddi wrth ddata Gwybodaeth Amser Real CThEM dros y cyfnodau diweddar, fel y dangosir yn ffigyrau 3 a 4.

Ffigur 3: Tueddiadau cyflogaeth LFS ar gyfer Cymru a’r DU, tri mis hyd at Fehefin 2019 i’r tri mis hyd at Fehefin 2023 (2019-20 = 100)

Siart sy'n dangos lefelau cyflogaeth LFS ar gyfer Cymru a'r DU, wedi'u mynegeio i 2019-20. Mae lefelau cyflogaeth amcangyfrifedig y data LFS wedi dangos tuedd negyddol dros gyfnodau diweddar.

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart sy’n dangos lefelau cyflogaeth LFS ar gyfer Cymru a’r DU, wedi’u mynegeio i 2019-20. Mae lefelau cyflogaeth amcangyfrifedig y data LFS wedi dangos tuedd negyddol dros gyfnodau diweddar.

Ffigur 4: Tueddiadau cyflogaeth amser byw CThEF ar gyfer Cymru a’r DU, tri mis hyd at Fehefin 2019 i’r tri mis hyd at Fehefin 2023 (2019-20 = 100)

Siart sy'n dangos lefelau cyflogaeth amser byw CThEF ar gyfer Cymru a'r DU, wedi'u mynegeio i 2019-20. Mae lefelau cyflogaeth amcangyfrifedig y data amser byw CThEF wedi dangos tuedd positif dros gyfnodau diweddar.

Disgrifiad of Ffigur 4: Siart sy’n dangos lefelau cyflogaeth amser byw CThEF ar gyfer Cymru a’r DU, wedi’u mynegeio i 2019-20. Mae lefelau cyflogaeth amcangyfrifedig y data amser byw CThEF wedi dangos tuedd positif dros gyfnodau diweddar.

Mae’n werth nodi, mae ffigurau 3 a 4 yn dangos mesurau cyflogaeth ychydig yn wahanol, gyda data amser byw CThEM ond yn cynnwys data gweithwyr cyflogedig a data LFS yn cynnwys y rhai sy’n hunangyflogedig (sydd wedi bod yn gostwng dros y pandemig a’r cyfnod ôl-bandemig ar lefel y DU). Mae’r ddwy ffynhonnell wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol yn ystod y cyfnodau diweddar ac er y gallai’r gostyngiad yn yr hunangyflogedig esbonio rhan fach o hyn, mae’r ffaith fod y tueddiadau’n dargyfeirio yn dal i beri pryder.

Mae’r cyfuniad o ddata anwadal, ehangu cyfyngau hyder a thueddiadau amrywiol rhwng ffynonellau data wedi herio ansawdd amcangyfrifon mwy diweddar LFS, gan godi’r cwestiwn: sut ydym yn lliniaru effaith y materion hyn a chynnal darlun cliriach o farchnad lafur Cymru?

Darparu darlun cliriach o farchnad lafur Cymru

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrthi’n datblygu Arolwg Trawsnewidiol o’r Llafurlu (TLFS), sy’n ceisio gwella cyfraddau ymateb ac ansawdd amcangyfrifon trwy nifer o newidiadau i’r dyluniad a’r prosesau a fabwysiadwyd ar gyfer yr arolwg, gan gynnwys holi  mwy o bobl a chyflwyno dulliau casglu newydd. Mae disgwyl i ffigurau cyntaf y TLFS gael eu cyhoeddi y gwanwyn nesaf.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae ffigurau’r LFS yn parhau i fod yn gyfnewidiol i Gymru, gan roi golwg ansicr o’r farchnad lafur pan edrychir arnynt ar wahân. Felly, mae’n bwysig ystyried gwybodaeth o ystod o ffynonellau. Mae’r LFS yn cynrychioli’r brif ffynhonnell ddata, ond cyn y fersiwn wedi’i drawsnewid y gwanwyn nesaf, argymhellir y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill. Mae tystiolaeth o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), Gwybodaeth Amser Reol CThEF, Swyddi’r Gweithlu a chyfres nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU yn gyffredinol ers y pandemig.

Bydd bwletin Trosolwg o’r farchnad lafur yn parhau i dynnu o amrywiaeth o ffynonellau data perthnasol ar y farchnad lafur, gan ddarparu darlun amserol a chynhwysfawr o farchnad lafur Cymru bob mis.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd