Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall ystadegau tai forddiadwy

Mae tai fforddiadwy yn bwnc sy’n denu diddordeb sylweddol gan y cyhoedd, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau yng Nghymru yn gyson. P’un a yw’n gwestiynau yn y Senedd, craffu gan y wasg, neu ymholiadau gan awdurdodau lleol a’r cyhoedd, mae galw clir am wybodaeth amserol a dibynadwy am nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru.

Read this page in English

Parhau i ddarllen

Datgelu Anghenion Defnyddwyr: Cloddio’n Ddwfn i Wasanaethau Digidol ar gyfer Tomenni nas Defnyddir

Gan Ryan, Tîm Digidol a Data ar gyfer Etifeddiaeth Mwyngloddio a Diogelwch Cronfeydd Dŵr

Read this page in English

Ym mis Gorffennaf, mae’r Pasiodd y Senedd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru). Mae bellach wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol a bydd yr Awdurdod Tomenni nas Defnyddirnewydd yn cael ei sefydlu yn 2027 – carreg filltir fawr. Ond er bod y ddeddfwriaeth wedi’i phasio’n ddiweddar, mae’r gwaith i’w gweithredu wedi bod ar y gweill ers peth amser. Dechreuodd ein gwaith digidol a data ym mis Mawrth 2024 ac mae wedi bod yn adeiladu’n gyson ers hynny.

Parhau i ddarllen

System ddylunio GEL LLYW.CYMRU: beth ydyw a beth nesaf

Postiad gan Tim, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru

Rydyn ni’n datblygu system ddylunio Iaith Profiad Cyflawn (GEL) LLYW.CYMRU i helpu timau i adeiladu cynnyrch digidol cyson, hygyrch ac effeithlon. Dyma sut mae’n gweithio a beth rydyn ni’n ei gynllunio.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwelliannau i ystadegau perfformiad y GIG

Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystod eang o ystadegau gofal eilaidd y GIG, gan gynnwys gofal brys a gofal mewn argyfwng, diagnosteg, therapïau a rhestrau aros y GIG. Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn gwella perthnasedd ac amseroldeb ein data ac adlewyrchu’r newid o ran sut y caiff galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans eu rheoli.

Read this page in English

Parhau i ddarllen

Blog Gwadd: Adeiladu Dyfodol Digidol Cymru: Rôl Bwrdd Safonau Digidol a Data 

Blog gan Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr dros dro Awdurdod Cyllid Cymru a Chadeirydd Bwrdd Safonau Digidol a Data i Gymru.

Read this page in English

Ar 24 Gorffennaf, cadeiriais y Bwrdd Safonau Digidol a Data i Gymru ac roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith.

Nod Strategaeth Ddigidol Cymru yw sbarduno newid diwylliant yng Nghymru – bod yn agored, defnyddio data i ddatrys problemau a rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Mae Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn ein helpu i feddwl am sut rydym yn gwneud hyn.

Parhau i ddarllen