Postiad gan Tim, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru
Rydyn ni’n datblygu system ddylunio Iaith Profiad Cyflawn (GEL) LLYW.CYMRU i helpu timau i adeiladu cynnyrch digidol cyson, hygyrch ac effeithlon. Dyma sut mae’n gweithio a beth rydyn ni’n ei gynllunio.
Beth yw system ddylunio
Mae system ddylunio GEL LLYW.CYMRU yn diffinio safonau, cydrannau a chanllawiau. Mae timau yn cymhwyso’r rhain yn gyson ar draws eu cynnyrch digidol.
Er enghraifft, mae ein system ddylunio yn cynnwys cydran ar gyfer dangos neges llwyddiant ar ôl i ffurflen gael ei chyflwyno.

Gellir cymhwyso ein system ddylunio ar draws cynnyrch a ddatblygwyd a’u lletya ar wahanol dechnolegau gan wahanol gyflenwyr.
Pam defnyddio system ddylunio
Mae diffinio un set unigol o safonau ar gyfer LLYW.CYMRU yn ein helpu i:
- sicrhau profiad defnyddiwr defnyddiol a hygyrch yn gyson
- cynnal y brand LLYW.CYMRU
- Gwella effeithlonrwydd
Mae timau cynnyrch yn cymhwyso’r safon gyffredin ac yn defnyddio’r amser a arbedwyd i wneud gwaith sy’n unigryw i’w cynnyrch, er enghraifft, optimeiddio taith y defnyddiwr.
Ein llyfrgell ddylunio nawr
Mae gennym lyfrgell ddylunio ar ffurf ffeil Sketch ac fel PDF:
- Mae Sketch yn galluogi dylunwyr sydd â’r feddalwedd i ddatblygu prototeipiau cost isel, sy’n cydymffurfio, yn gyflym
- does dim angen meddalwedd arbennig ar gyfer y PDF, felly gall y tîm cynnyrch cyfan weld y system ddylunio
Ein cynllun ar gyfer system ddylunio gyflawn
Rydym yn symud ein llyfrgell ddylunio o Sketch i Figma, offeryn gwe a ddefnyddir yn fwy eang. Fel rhan o’r trawsnewidiad hwn, rydym yn symleiddio’r system trwy:
- leihau amrywiadau diangen
- ailstrwythuro grwpiau cydran i sicrhau eglurder
Bydd y gwelliannau hyn yn helpu dylunwyr ar draws y timau cynnyrch i brototeipio yn fwy effeithlon a chynnal cysondeb.
Ar gyfer y cam adeiladu cynnyrch, rydym yn gweithio tuag at gefnogi timau gyda llyfrgell gydrannau wedi’i chodio’n llawn. Bydd hyn yn cynnwys Storybook, cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr React, SASS a CSS gyda llyfrgell Figma gymharol a system templed.
Y llyfrgell gydrannau yw un rhan o’n system ddylunio. Mae rhannau eraill yn cynnwys canllawiau a phatrymau, gyda rhai ohonynt eisoes wedi’u cyhoeddi yn safonau LLYW.CYMRU.
Mae’r safonau hyn hefyd yn cwmpasu dylunio cynnwys, sy’n chwarae rhan hanfodol o ran cynnyrch LLYW.CYMRU. Er enghraifft, mae dylunwyr cynnwys yn ysgrifennu’r testun a ddefnyddir yn y patrwm tudalen gychwyn.
Rydym bellach yn edrych ar sut i gyflwyno hyn oll mewn ffordd glir, a chydlynol, fel y gall timau cynnyrch ddefnyddio’r system ddylunio yn hawdd.
Byddwch yn rhan o’r broses
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau. Ysgrifennwch eich sylwadau ar y post hwn neu anfonwch e-bost atom yn digidol@llyw.cymru.