Allan o Brint: Dechrau’r diwedd ar gyfer presgripsiynau papur yng Nghymru

Gan Ryan, Yr Adran Polisi Iechyd Digidol

Read this post in English

Ar 17 Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y presgripsiynau gofal sylfaenol cyntaf yng Nghymru wedi cael eu hawdurdodi gan ddefnyddio cerdyn clyfar ac wedi cael eu trosglwyddo’n ddigidol i’r fferyllfa. Mae hyn i’w weld yn beth syml a rhesymegol i’w wneud, felly pam yr holl ffwdan?

Parhau i ddarllen

Diwrnod Annibyniaeth Wcráin

Image du drapeau de l’Ukraine

Read this page in English

24 Awst yw Diwrnod Cenedlaethol Wcráin, neu Diwrnod Annibyniaeth fel y mae’n cael ei alw hefyd.

Ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, mae Cymru wedi dod yn Genedl Noddfa i filoedd o bobl sydd wedi dianc rhag y gwrthdaro. Yn y blog hwn, rydym yn disgrifio rhywfaint o’r gwaith gan ddefnyddio adnoddau digidol yng Nghymru i helpu pobl Wcráin yn ddiogel ac wedi eu cefnogi.

Parhau i ddarllen

Blog Gwadd: Seiber yng Nghymru: Buddsoddi mewn Twf

Read this post in English

Y mis hwn fe gyhoeddon ni ein Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru. Wrth inni symud tuag at gyflawni’r camau gweithredu yn y cynllun, gofynnom i Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr yr Hyb Arloesedd Seiber – a lansiwyd hefyd y mis hwn – ysgrifennu blog gwadd am y gwaith y maent yn ei wneud a sut y bydd partneriaethau a chydweithio yn helpu i gyflawni’r uchelgais yn y Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.

Parhau i ddarllen

Seiber: Diffinio ein blaenoriaethau i Gymru

Read this page in English

Nôl ym mis Chwefror ysgrifennwyd blog gennym yn trafod datblygiad Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cynllun. Mae hyn wedi cynnwys trafodaethau gydag arbenigwyr yn y diwydiant, ein partneriaid academaidd gan gynnwys cydweithwyr o’r Ganolfan Arloesedd Seiber newydd, ac arweinwyr digidol a thechnoleg o’r sector cyhoeddus.  Fel rhan o’r trafodaethau, gwnaethom ddatblygu consensws ynghylch yr hyn rydyn ni’n gredu yw’r meysydd sy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer seiber yng Nghymru. Dyma nhw:

Parhau i ddarllen

Tuag at Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru

Read this page in English

Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi sut ydym am roi cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ddefnyddio technoleg ddigidol yn y byd modern. 

Mae technoleg ddigidol bellach yn agwedd sylfaenol ar ein bywydau bob dydd – caiff ei defnyddio ar gyfer adloniant a gweithgareddau hamdden, mewn gwaith ac addysg, i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae llawer ohonom ni’n cael budd o allu defnyddio offer a thechnoleg ddigidol yn hyderus, ond wrth i newidiadau mewn technoleg ddigidol gyflymu, mae risg y bydd mwy o bobl yn cael eu hallgáu’n ddigidol, neu’n parhau i fod wedi’u hallgáu. Y bobl sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol yw’r rheini sydd heb fynediad, sgiliau, hyder, na chymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu offer digidol.

Parhau i ddarllen