Seiber: Diffinio ein blaenoriaethau i Gymru

Read this page in English

Nôl ym mis Chwefror ysgrifennwyd blog gennym yn trafod datblygiad Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cynllun. Mae hyn wedi cynnwys trafodaethau gydag arbenigwyr yn y diwydiant, ein partneriaid academaidd gan gynnwys cydweithwyr o’r Ganolfan Arloesedd Seiber newydd, ac arweinwyr digidol a thechnoleg o’r sector cyhoeddus.  Fel rhan o’r trafodaethau, gwnaethom ddatblygu consensws ynghylch yr hyn rydyn ni’n gredu yw’r meysydd sy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer seiber yng Nghymru. Dyma nhw:

1: Datblygu ein hecosystem seiber

2: Creu llif o dalent seiber

3: Cryfhau ein gwydnwch seiber

4: Diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

Cyn cyhoeddi’r cynllun gweithredu ei hun, rydym am barhau â’r gyfres hon o flogiau trwy roi trosolwg o bob maes blaenoriaeth a sut mae’r meysydd hyn yn cyd-gysylltu a chydweithio.

Datblygu ein hecosystem seiber

Mae tyfu ein ecosystem seiber yn ymwneud â chefnogi ein heconomi drwy wneud Cymru’n lle deniadol i weithio ym maes seiber, boed hynny fel busnes, fel unigolyn, ar gyfer buddsoddi neu ymchwil.  Mae’n ganolog i gefnogi llwyddiant y meysydd blaenoriaeth eraill ac rydym eisoes wedi buddsoddi symiau sylweddol ym maes seiber yng Nghymru.

Mae’r arloesedd i’w weld drwy’n buddsoddiadau a’n partneriaethau gyda diwydiant a’r byd academaidd yn helpu i wneud Cymru’n lle deniadol i dalent a busnesau ffynnu. Gall ecosystem seiber gref helpu i ddatblygu nifer y cwmnïau a all gynnig cymorth seiber ac achrediad i sefydliadau.  Mae hyn nid yn unig yn cefnogi twf ein heconomi, mae hefyd yn ein gwneud yn fwy diogel a gwydn fel cenedl ac yn barod i ymateb i fygythiadau.

Adeiladu llif o dalent seiber

Nod adeiladu llif o dalent seiber yw cael y talent a’r sgiliau iawn yng Nghymru a chreu gweithlu seiber cryf sy’n datblygu i ddiwallu ein hanghenion nawr ac yn y dyfodol.  Mae hyn yn golygu datblygu’r sgiliau cywir, datblygu llif o dalent, denu a chadw talent a gwella amrywiaeth.

Er ei bod yn bwysig dysgu’r hanfodion a magu diddordeb yn ifanc, nid hyn yw ein hunig ffocws ac mae sawl llwybr i yrfa seiber. Mae cyfle i gynnig i bobl, ar unrhyw oedran, sydd ddim bellach mewn addysg, ail-hyfforddi. Mae angen i ni hefyd feddwl am ddenu ystod amrywiol o bobl i faes seiber, fel yr amlinellir mewn blog gwestai a gyhoeddwyd gennym gan Clare Johnson.

Mae’r angen am sgiliau a thalent seiber yn sail i gyflawni pob maes blaenoriaeth arall.  Po fwyaf y mae’r ecosystem seiber yn ddatblygu, y mwyaf o swyddi fydd mewn seiber a bydd angen i ni gael y dalent arbenigol gywir i ddiwallu’r angen hwnnw. Bydd datblygu ein talent ein hunain yn sicrhau y gallwn gyflawni i ryw raddau ond, gyda’r galw cynyddol am y sgiliau hyn a mwy o bobl yn gallu gweithio gartref, mae’r ffiniau arferol ar gyfer swyddi yn y sector yn newid, gan agor pwll newydd o dalent.  Felly, mae angen i ni feddwl sut rydyn ni’n dod â thalent newydd i Gymru a sut rydyn ni’n cadw pobl i weithio yng Nghymru. Bydd cael gweithlu seiber amrywiol sy’n adlewyrchu ein dinasyddion yn creu sector seiber gref, talentog ac yn helpu i ddenu mwy o bobl i weithio ym maes seiber. 

Cryfhau ein seibergadernid

Mae cryfhau ein seibergadernid yn ymwneud â sicrhau bod busnesau a sefydliadau’n cael eu paratoi a’u bod yn wydn wrth wynebu ymosodiadau seiber. 

Mae diogelwch seiber yn gyfrifoldeb i bawb, nid dim ond i’r rhai sy’n deall technoleg neu’r tîm TG. Drwy adeiladu diwylliant lle mae gan bawb wybodaeth sylfaenol, o ddinasyddion sy’n cadw’n ddiogel ar-lein i staff sydd ag ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch, byddwn yn cryfhau ein seibergadernid.

Busnesau a sefydliadau sydd â’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod eu gwasanaethau a’u systemau’n wedi eu paratoi wrth wynebu ymosodiadau seibr.  Rhan o hyn yw gwybod lle i gael yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth gywir.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r diwydiannau sy’n rhedeg ein gwasanaethau allweddol fel telegyfathrebu, ynni, dŵr a thrafnidiaeth.

Bydd ecosystem seiber gref a chael y sgiliau a’r dalent gywir yn ein gwneud yn fwy gwydn fel cenedl yn y pen draw.

Diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

Mae diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau digidol saff, diogel a dibynadwy. Os yw ein gwasanaethau cyhoeddus yn agored i ymosodiadau seiber a heb baratoi ar gyfer y gwaethaf, os bydd ymosodiad yn digwydd gallai dinasyddion wynebu rhwystrau sylweddol neu oedi wrth dderbyn y gwasanaethau critigol y maent eu hangen – boed hynny’n addysg, iechyd neu ofal cymdeithasol neu gymorth ariannol.

Mae gan arweinwyr gyfrifoldeb dros sicrhau eu bod yn barod am effaith ehangach ymosodiadau seiber ac y gall gau gweithgarwch dyddiol critigol a gwasanaethau hanfodol.

Drwy gydweithio ar draws y Sector Cyhoeddus a defnyddio ein partneriaethau â diwydiant, gallwn fod yn gyson yn ein dull o weithredu a dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn well.

Beth nesaf?

Bydd ein Cynllun Gweithredu Seiber yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer seiber yng Nghymru.  Ar gyfer pob un o’r meysydd blaenoriaeth yn y cynllun, byddwn yn nodi camau i gyflawni’r weledigaeth hon.  Yna, byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant i wireddu’r cynllun.

Byddwn yn cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Seiber yn y Gwanwyn.

Os yw eich gwaith yn cefnogi cyflawni unrhyw un o’r meysydd blaenoriaeth y sonnir amdanynt, rhowch wybod i ni yn yr adran sylwadau isod.

Blog gan Tîm Arweinyddiaeth a Chydlynu Seiber

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s